Penodi'r Athro Chris Collins yn llywydd ISM 2020-21
听Mae Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion (ISM) wedi cyhoeddi penodiad yr Athro Chris Collins yn llywydd ar gyfer 2020-21.听
Bydd yr Athro Collins, cerddolegydd y mae ei waith yn rhychwantu cerddoriaeth, iaith, llenyddiaeth a pherfformio, yn arwain yr ISM drwy'r cyfnod anodd hwn i'r sector cerddoriaeth. Bu gynt yn bennaeth Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau Prifysgol 亚洲色吧 a bydd yn ymuno 芒 Phrifysgol Aberdeen fel Pennaeth yr Ysgol Iaith, Llenyddiaeth, Cerddoriaeth a Diwylliant Gweledol newydd ar 1 Mehefin 2020.
Dywedodd: 'Rwy'n ymwybodol iawn bod fy llywyddiaeth yn dod ar adeg pan na fu ISM erioed yn bwysicach, gan ddarparu cyngor, cefnogaeth ac eiriolaeth y mae mawr eu hangen mewn amgylchiadau cythryblus. Gwn y bydd yr ISM yn parhau i wneud popeth o fewn ei allu i ddiogelu'r gymuned gerddorol sy'n rhoi cymaint i'r Deyrnas Unedig gyfan ac i'r byd ehangach. '