Bydd byd gwaith yn newid am byth oherwydd yr argyfwng coronafirws
Cyngor busnes Dr Edward Jones i oroesi'r pandemig
Dywed academydd blaenllaw y bydd y newid seismig yn y ffordd y mae cwmn茂au'n gweithredu o ganlyniad i'r argyfwng coronafirws yn gweld llawer mwy o staff yn gweithio gartref yn y dyfodol yn hytrach nag mewn swyddfa.
Yn 么l yr arbenigwr economeg Dr Edward Jones, o Ysgol Busnes Prifysgol 亚洲色吧, mae'n annhebygol iawn y bydd y byd gwaith yr un peth pan ddaw'r pandemig i ben.
Ond nid yw hyn yn newyddion gwael i gyd i weithlu sy'n dod i arfer 芒 gweithio gartref neu sydd wedi defnyddio eu hamser ar y cynllun absenoldeb seibiant i wella eu sgiliau.
Mae Dr Jones hefyd yn credu y bydd penaethiaid yn gweld bod llawer o fanteision o weithlu mwy hyblyg sy'n gallu gweithio shifft gartref neu yn y siop goffi.
Dywedodd: 鈥淓r bod pryderon iechyd sylweddol ar hyn o bryd, mae鈥檔 ddiddorol ein bod eisoes yn gweld llawer mwy o bobl yn defnyddio technoleg i weithio i ffwrdd o鈥檙 swyddfa.
鈥淩ydym wedi clywed llawer am weithio gartref ond nid ydym erioed wedi cael cymaint o bobl yn ei wneud ac un o鈥檙 pethau cadarnhaol yw bod cymaint a ddywedodd na allent weithio gartref nawr yn gweld eu bod yn gallu gwneud hynny.
鈥淏ydd yn cael sgil-effaith i gyflogwyr a all weld yn y dyfodol na fydd angen iddynt cael lle i 100 o bobl mewn swyddfa ond y gallant wneud tro gyda desgiau i 50 neu lai a fydd yn golygu arbedion mawr i'r cwmni.聽
鈥淢ae'r mathau hyn o arbedion yn debygol o fod yn hollbwysig mewn byd a fydd yn wynebu cyfnod anodd iawn o ran talu am y cyfnod cau dros dro a achoswyd gan y pandemig.鈥
Bu Dr Jones, sy'n gynghorydd arbenigol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gweithio am naw mlynedd yn ymdrin ag agweddau heriol ar fusnes yn sector ariannol Dulyn ar 么l cwblhau ei PhD mewn Economeg ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Dychwelodd i Gymru ar 么l derbyn swydd fel darlithydd yn Ysgol Busnes Prifysgol 亚洲色吧, sydd wedi cael canmoliaeth uchel, bum mlynedd yn 么l ac ers hynny mae wedi gweithio gyda'r sector cyhoeddus a'r sector preifat ar amryw o brojectau economaidd a chyllid, ac mae'n gweld cyfleoedd yn yr argyfwng presennol.
Meddai Dr Jones:聽 鈥淒ylai'r bobl sydd ar y cynllun absenoldeb seibiant weld hyn nid fel seibiant 芒 th芒l o'r gwaith ond fel cyfle i ddatblygu eu hunain fel eu bod yn barod pan fydd gwaith yn ailddechrau.
鈥淔fordd wych o ddefnyddio鈥檙 amser hwn yn ystod absenoldeb seibiant yw cael hyd i ffyrdd o gyflawni rhyw fath o ddatblygiad personol a ganiateir o dan delerau鈥檙 cynllun Cadw Swyddi.
鈥淒ylai pobl wella eu sgiliau eu hunain, p'un a yw'n gwbl berthnasol i'w swydd o ddydd i ddydd ai peidio - dal i fyny gyda phrosesau a gweithdrefnau, neu ddysgu am newidiadau yn eu sector.聽 Efallai y bydd gwella eu sgiliau hyd yn oed yn symud eu gyrfa i gyfeiriad newydd.
鈥淒ylent ddatblygu arferion a fydd yn cael effaith gadarnhaol arnynt pan fyddant yn dychwelyd i'r gwaith.
鈥淥s yw eu swydd yn achosi llawer o straen, gyda llwyth gwaith trwm ac maent fel rheol yn ei chael hi'n anodd i gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, dyma'r amser i newid pethau.
鈥淢ae hwn yn gyfle oherwydd nid yn aml y cawn gyfle i gymryd cam yn 么l oddi wrth waith o ddydd i ddydd a dechrau meddwl am y darlun ehangach a gofyn y cwestiynau mawr i ni ein hunain am yr hyn rydym ei eisiau o fywyd.聽 Dyma'r adeg pan fo gennych amser i wneud rhywbeth amdano.
鈥淢ae鈥檔 rhy gynnar i ddarogan yn hyderus gwrs y dirywiad economaidd sy鈥檔 ein hwynebu oherwydd y coronafirws ond mae dirwasgiad yn anochel.聽 Roedd economi Cymru eisoes yn fregus yn 2019.
鈥淣awr mae llywodraethau ledled y byd yn cau eu heconom茂au i lawr yn fwriadol am o leiaf sawl mis mewn ymgais i atal lledaeniad y clefyd coronafirws.
鈥淏ydd y gweithredoedd hyn yn cael effaith ar economi Cymru a pho fwyaf y gall pobl ei wneud i baratoi eu hunain, gorau oll fydd eu sefyllfa.鈥
Mae Dr Jones hyd yn oed wedi paratoi arweiniad ar gyfer goroesi鈥檙 pandemig gyda phedwar cam syml i'r gweithiwr cartref newydd:
鈥 Peidiwch 芒 dechrau gweithio ar eich gliniadur yn eich pyjamas.聽 Mae'n ddiwrnod arall yn y swyddfa, heb y swyddfa.
鈥 Dylech gael lle gwaith pwrpasol i wneud eich gwaith.聽 Mae hynny'n ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddwch yn llwyddo i gyflawni pethau pan fyddwch yn y lle gwaith hwnnw.
鈥 Mae eistedd yn wael i'ch iechyd, ac yn ddiflas pan fyddwch yn syllu ar yr un wal neu ffenestr trwy'r dydd.聽 Symudwch o'ch desg yn aml a chael ychydig o awyr iach pan fo'n bosibl.
鈥 Peidiwch 芒 rhoi'r teledu ymlaen.聽 Os na fyddech yn ei wneud yn y swyddfa, peidiwch 芒'i wneud gartref pan rydych yn gweithio.
Ychwanegodd Dr Jones: 鈥淏ydd yr haint coronafirws yn cael effaith sylweddol ar economi Cymru ac mae鈥檔 debygol bod bygythiad y clefyd hwn, ei effaith ddinistriol ar iechyd a'r ffordd y mae'n tanseilio ein cymdeithas mewn ffordd gudd, yma i aros nes bod brechlyn wedi ei ddatblygu at ddefnydd y cyhoedd.聽
鈥淢ae pethau鈥檔 annhebygol o fod yn normal eto am amser hir iawn.聽 Mae proses hir a phoenus o'n blaenau ond bydd y pandemig coronafirws hwn yn dod i ben.
鈥淵 gobaith yw y gall cymdeithas a鈥檙 economi godi ar eu traed mor gyflym 芒 phosib oherwydd y camau a gymerir nawr.鈥