Ailenwi ysbytai dros dro Gogledd Cymru ar ôl y symbol o obaith sydd wedi diffinio argyfwng COVID-19
Datganiad gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae'r tri ysbyty dros dro yng Ngogledd Cymru wedi'u hailenwi ar ôl y symbol o obaith ar ffurf enfys sydd wedi dod yn gyfystyr ag ymateb y rhanbarth i achosion COVID-19.
Mae'r ysbytai dros dro yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Venue Cymru Llandudno, a Phrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi'u hailenwi'n Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy, Ysbyty Enfys Llandudno, ac Ysbyty Enfys ÑÇÖÞÉ«°É.
Mae'r tri safle wedi cael eu trosglwyddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynnig cyfanswm o 1,000 o welyau ychwanegol er mwyn helpu i ateb y galw cynyddol dros yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod.
Mae BIPBC yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chynllunwyr milwrol er mwyn sefydlu'r ysbytai ar garlam fel y gallant ddechrau cynnig gofal i gleifion erbyn diwedd mis Ebrill.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi manteisio ar gymorth hefyd gan Integrated Health Partnerships - sy'n arwain y gwaith o ddatblygu ysbyty maes coronafeirws Nightingale ym Manceinion - er mwyn cynorthwyo cyflwyno ysbytai dros dro yng Nglannau Dyfrdwy a ÑÇÖÞÉ«°É.
Dywedodd Mark Polin, Cadeirydd BIPBC: “Mae'n gwbl addas y dylai ein hysbytai dros dro adlewyrchu symbol gobaith ac undod gyda staff y GIG a gweithwyr allweddol eraill sydd wedi dod yn gyfystyr ag ymateb y rhanbarth i COVID-19.
"Mae ein staff wedi'u boddhau'n fawr gan gefnogaeth ddi-ildio'r cyhoedd yn gyffredinol, gan gynnwys y delweddau lawer o'r enfys sy’n cael eu harddangos mewn ffenestri cartrefi ar draws Gogledd Cymru.
“Rydym hefyd wedi cael toreth o gynigion hael iawn i helpu gan sefydliadau partner, busnesau ac aelodau'r cyhoedd.
“Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn fynd i'r afael â'r heriau fydd yn codi dros yr ychydig wythnosau a misoedd anodd sydd o'n blaenau."
Mae'r tri ysbyty enfys wedi'u sefydlu er mwyn lleihau niferoedd ym mhrif ysbytai BIPBC fel y gallant ganolbwyntio ar ofalu am gleifion sydd â'r angen mwyaf.
Yn ogystal ag atal derbyniadau i dri ysbyty llym BIPBC, bydd yr ysbytai enfys hefyd yn helpu cleifion sydd wedi cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam i gael adferiad fel y gallant ddychwelyd adref.
Ni fydd angen mewndiwbio ar gleifion sy'n derbyn gofal yn yr ysbytai dros dro, felly ni fydd angen peiriannau anadlu, ond mae BIPBC eisoes yn dod o hyd i'r holl offer meddygol ychwanegol sydd ei angen.
Mae cryn dipyn o waith ar y gweill hefyd i wella capasiti gweithlu'r Bwrdd Iechyd er mwyn staffio'r ysbytai dros dro.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi prosesu cannoedd o geisiadau i ymuno â'i fanc staff. Mae hefyd yn recriwtio staff blaenorol a staff sydd wedi ymddeol o'r gwasanaeth iechyd ac mae'n darparu rolau am dâl yn y GIG ar gyfer nyrsys a meddygon sy'n fyfyrwyr.
Mae llawer o staff sy'n gweithio mewn ardaloedd anghlinigol ar hyn o bryd wedi ymuno â chronfa ddata o weithwyr sy'n gallu cael eu hadleoli i gynorthwyo ardaloedd clinigol pan fo angen.
Mae trigolion lleol yng nghyffiniau'r tri ysbyty'n cael sicrwydd nad oes risg i'w hiechyd ac y dylent barhau i ddilyn arweiniad Llywodraeth Cymru i aros gartref.