Prifysgol 亚洲色吧 i gynnig 250 o welyau ysbytai dros dro i gleifion COVID-19
Caiff cyfleusterau chwaraeon a hamdden Prifysgol 亚洲色吧 eu troi'n ysbyty dros dro er mwyn darparu gwelyau ar gyfer cleifion sydd 芒 symptomau COVID-19.
Bydd rhyw 250 o welyau ychwanegol ar gael i'r GIG yng Nghanolfan Brailsford fel rhan o'r bartneriaeth rhwng y Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Bydd cleifion sydd 芒 salwch resbiradol o ganlyniad i COVID-19 yn derbyn gofal yn yr ysbyty dros dro.
Dywedodd Mark Polin, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: 鈥淢ae datblygu ysbytai dros dro fel y rhain yn ganolog i'n cynlluniau i greu'r capasiti ychwanegol sydd ei angen arnom, ochr yn ochr 芒 datblygu lle yn ein hysbytai.
鈥淗offwn roi sicrwydd i鈥檙 cyhoedd bod y gwaith paratoi ar ganfod safleoedd addas ar y gweill ers cryn amser ac mae bellach yn symud yn ei flaen ar garlam.
鈥淩ydw i wir yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth rydym wedi'i chael gan Brifysgol 亚洲色吧 i helpu gyda鈥檙 ail safle hwn, yn ogystal 芒鈥檔 cydweithwyr yng Nghyngor Gwynedd a Chyngor Ynys M么n.
鈥淢ae ein partneriaid ar draws Gogledd Cymru yn cyflawni r么l hollbwysig yn ein hymdrechion i wella capasiti ac i sicrhau ein bod yn barod am gynnydd mewn cleifion sydd wedi'u heffeithio gan COVID-19.
Rydw i鈥檔 hynod ddiolchgar am eu cymorth, a byddwn yn parhau i gydweithio 芒 nhw ar yr ymdrech hollbwysig hon.
鈥淩ydym hefyd wedi derbyn llawer o gynigion cymorth gan fusnesau ar draws y rhanbarth a byddwn yn gofyn am gymorth ganddynt lle bo angen er mwyn rhoi鈥檙 holl safleoedd ar waith mewn mater o wythnosau.鈥
鈥淩ydym yn asesu safleoedd yn Sir y Fflint a Wrecsam lle caiff trydydd ysbyty dros dro ei ddatblygu. Byddwn yn cadarnhau鈥檙 safle hwnnw dros y dyddiau nesaf pan fydd gwaith asesu a datblygu manylach wedi鈥檜 cwblhau.鈥
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol 亚洲色吧, Yr Athro Iwan Davies: "Mae hwn yn gyfnod digynsail, ac mae'r Brifysgol wedi bod yn ymateb mewn nifer o ffyrdd gwahanol i gefnogi staff y rheng flaen wrth iddynt fynd i'r afael 芒'r argyfwng.
鈥淩ydym yn falch o fod o gymorth pellach trwy sicrhau bod Canolfan Brailsford ar gael fel ysbyty dros dro i'r gymuned leol."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cyng. Dyfrig Siecyn: 鈥淔el Cyngor, rydym yn trafod yn ddyddiol gyda chynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac rydym wedi bod yn rhoi cynlluniau ar waith i鈥檞 cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn.
鈥淒ros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda鈥檙 Bwrdd Iechyd, Cyngor Ynys M么n a Phrifysgol 亚洲色吧 er mwyn helpu i sefydlu safle ysbyty dros dro yng Nghanolfan Brailsford ym Mangor.
鈥淩ydym yn falch o gefnogi cyhoeddiad heddiw a byddwn yn parhau i weithio鈥檔 agos gyda鈥檙 Bwrdd Iechyd a phartneriaid eraill er mwyn cynnig y gofal gorau i鈥檔 dinasyddion.鈥
Bydd Venue Cymru yn Llandudno hefyd yn cael ei drosi i gynnal 350 o welyau ychwanegol, ac mae gwaith adeiladu i ddarparu 80 o welyau eraill ar y gweill ar hyn o bryd yn Ysbyty Glan Clwyd.