MEDRU: Y FFATRI SGILIAU
medru: y ffatri sgiliau Partneriaeth rhwng Prifysgol 亚洲色吧, Coleg Cambria a鈥檙 Brifysgol Agored yng Nghymru yw medru: y ffatri sgiliau. Mae鈥檙 arbenigedd sydd gennym rhyngom ym meysydd diwydiant ac addysg yn golygu ein bod mewn sefyllfa berffaith i arfogi pobl a busnesau 芒鈥檙 sgiliau y mae arnynt eu hangen nawr ac yn y dyfodol. Mae'r sgiliau hyn yn canolbwyntio ar y datblygiadau mwyaf newydd a mwyaf cyffrous mewn perthynas 芒 Diwydiant 4.0, Gweithgynhyrchu Digidol, a Ffatr茂oedd Clyfar. Rydym ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesi, ac yn gwybod beth mae angen i fusnesau ei wneud i baratoi eu gweithluoedd er mwyn ymateb i heriau'r dyfodol ac i fanteisio ar gyfleoedd.
Gwyddom hefyd fod angen i hyfforddiant fod yn hygyrch ar gyfer pawb. Mae ein hyfforddiant ni bob amser yn eang ac yn hyblyg er mwyn ffitio o gwmpas gwaith a bywyd. Fe'i cynlluniwyd gyda'r gweithlu llawn mewn golwg, o rai sy鈥檔 dechrau o鈥檙 newydd i arbenigwyr technegol gyda degawdau o brofiad yn y diwydiant.
Gellir cyflwyno llawer o'n cyrsiau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein, gyda chyfle i ddysgwyr a sefydliadau ddewis astudio yn y ffordd sy鈥檔 addas iddyn nhw. Yr uchelgais yw y bydd Medru yn cynnig hyfforddiant Diwydiant 4.0 ledled gogledd-ddwyrain Cymru, gan gefnogi busnesau a phobl yn eu dyheadau, a chreu llif o dalent ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn seiliedig i ddechrau ar naw colofn Diwydiant 4.0:
- Robotiaid Awtonomig
- Rhyngrwyd Pethau
- Efelychu
- Seiberddiogelwch
- Realiti Estynedig
- Integreiddio Systemau
- Cyfrifiadura yn y Cwmwl
- Gweithgynhyrchu Adiol (Argraffu 3D)
- Data Mawr
MEDRU: CYRSIAU
Gall Medru deilwra cyrsiau hyfforddi i gwrdd 芒鈥檆h anghenion. Dywedwch wrthym beth sydd ei angen arnoch neu gadewch i ni arwain y ffordd a byddwn yn gweithio gyda chi a'ch staff i wneud i hynny ddigwydd. Boed yn gyrsiau byr neu hir, wedi eu hachredu neu beidio, rydym yn canolbwyntio ar yr anghenion busnes a鈥檙 sgiliau a fydd yn eich helpu i gyrraedd eich nodau trwy gynnig hyfforddiant technoleg glyfar dan arweiniad diwydiant a fydd yn sicrhau fod eich gweithwyr a'ch busnes yn gweithredu ar y safon uchaf.
听
Mae gennym lawer iawn o ddeunyddiau y gallwn eu defnyddio neu gallwn ddylunio rhywbeth hollol newydd trwy gyfrwng ein t卯m hynod gymwys a phrofiadol o hyfforddwyr ac academyddion ym maes STEM ac yn benodol ym maes Diwydiant 4.0.
听
Bwriad hyn i gyd yw sicrhau bod eich pobl yn barod i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 dyfodol gyda chi. Ar y cyd, mi fedrwn!
听
Y buddion i鈥檆h sefydliad
- Fel academyddion ac arbenigwyr mewn diwydiant, rydym yn darparu sgiliau i bobl, gweithluoedd a sefydliadau.
- Byddwn yn gweithio gyda chi i adnabod eich anghenion hyfforddi ac i ddarparu ar eu cyfer mewn modd cwbl hyblyg sydd wedi'i deilwra ar eich cyfer.
- Gallwn weithio gyda'ch t卯m cyfan, o rai sydd newydd ddechrau i weithwyr proffesiynol profiadol i sicrhau bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen i fynd i鈥檙 afael 芒'r dyfodol gyda chi.
听
Y buddion i鈥檆h staff
- Hyfforddwyr profiadol sy'n gallu teilwra'r dysgu i'w cynulleidfa
- Tystysgrif ddigidol ar gyfer pob cwrs sy鈥檔 cael ei ddilyn
- Galluogi eich t卯m i ddatgloi eu potensial
MEDRU: CYSYLLTWCH 脗 NI
Hoffech chi gael gwybod mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi neu'ch busnes?
Cwblhewch y ffurflen isod ac fe gysylltwn 芒 chi.
Prifysgol 亚洲色吧, 亚洲色吧, Gwynedd, LL57 2DG, UK.