Ymchwilwyr Prifysgol 亚洲色吧 yn Cyflwyno Mewnwelediadau Amlieithrwydd o Gymru Dramor
Ym mis Medi, cyflwynodd t卯m o Labordy Dwyieithrwydd Plant Prifysgol 亚洲色吧 symposiwm ar 鈥榙dwy/amlieithrwydd ac anhwylderau iaith鈥, ym Mhrifysgol Genedlaethol a Kapodistraidd Athen, Gwlad Groeg. Roedd gweithgaredd y labordy yn rhan o gydweithrediad parhaus rhwng Labordy Seicoieithyddiaeth a Niwroieithyddiaeth Prifysgol Genedlaethol a Kapodistraidd Athen a鈥檙 Labordy Dwyieithrwydd Plant Prifysgol 亚洲色吧, wedi ei ariannu yn rhannol gan Gynllun Symudedd Taith.聽
Arweiniwyd y symposiwm gan Dr Eirini Sanoudaki, Darllenydd mewn Ieithyddiaeth (Dwyieithrwydd) a Phennaeth y Labordy Dwyieithrwydd Plant.聽 Roedd Eirini hefyd yn un o鈥檙 siaradwyr gwadd yn y 9fed Gynhadledd Anhwylderau Iaith mewn Groeg, yn traddodi sesiwn lawn ar 鈥楢mlieithrwydd a Niwroamrywiaeth: mewnwelediadau o Gymru鈥. Cyflwynodd ymchwilwyr PhD presennol, Meinir Williams, Rebecca Day, a Bethan Collins, eu hymchwil, gan gynnwys creu lleisiau plant Cymraeg ar gyfer Gyfathrebu Estynedig ac Amgen (AAC), dwyieithrwydd mewn syndrom Rett, a phrosiect amlddisgyblaethol rhwng Gwasanaeth Dydd Annedd Ni a Blas Pontio i annog y defnydd o鈥檙 Gymraeg mewn oedolion ag anableddau amrywiol drwy ymgysylltu 芒鈥檙 celfyddydau.聽
Dwedodd Eirini, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Ymchwil 脭l-raddedig yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau, 鈥渕ae Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil ar ddwyieithrwydd. Mae gennon ni ddyletswydd i rannu ein harbenigedd efo gweddill y byd, ac i gymryd rhan arweiniol yn y newid patrwm sy鈥檔 digwydd ym meysydd amlieithrwydd a nirwoamrywiaeth. Rwy鈥檔 arbennig o hapus bod gan y fenter hon lwyfan I'n hymchwilwyr PhD rhagorol i hybu eu cysylltiadau a鈥檜 modd o sicrhau newid, nid yn unig yng Nghymru ond yn fyd-eang.鈥澛
Roedd y daith yn gyfle i gwrdd ag ymchwilwyr rhyngwladol i drafod y datblygiad yn y maes ymchwil, i daflu syniadau ar brosiectau yn y dyfodol, a ac i arddangos yr ymchwil arloesol ar ddwy/amlieithrwydd sy鈥檔 cael ei wneud ym Mangor.聽