ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Teulu Salesbury Rhug a Bachymbyd

Dr Sadie Jarrett

Llun du a gwyn o Dr Sadie Jarrett

Teitl y prosiect:Ìý'‘Of Great Kindred and Alliance’: The status and identity of the Salesburys of Rhug and Bachymbyd,Ìýc.1475-c.1660'

Goruchwylir gan:ÌýProfessor Huw Pryce and Dr Shaun Evans

Cefnogir yr ymchwil gan:ÌýThis research project was generously supported by the Rhug Estate

Trwy astudiaeth achos o un teulu bonheddig, sef y Salesburys o Rhug a Bachymbyd, maeÌýÌýSadie yn archwilio sut y sefydlodd a chadwodd uchelwyr Cymreig y cyfnod modern cynnar eu statws a’u hunaniaeth Gymreig. Cyrhaeddodd y Salesburys i ogledd Cymru fel gwladfawyr Seisnig yn y drydedd ganrif ar ddeg ac felly maent yn cyflwyno enghraifft arbennig o dreiddgar o sut y cafodd teulu eu cymathu i foneddigion Cymru. Mae'r traethawd ymchwil yn cwmpasu cyfran sylweddol o hanes teulu Salesbury, gan ddechrau gyda phrydlesi cynharaf ystad Bachymbyd yn y 1470au a diweddu gyda marwolaeth William Salesbury yn 1660, a rannodd ystadau'r teulu rhwng ei ddau fab. Gan bontio nifer o ddegawdau cyn ac ar ôl y Deddfau Uno (1536 a 1543), yn ogystal â’r Diwygiad Protestannaidd a Rhyfel Cartref Lloegr, dadansoddodd Sadie sut yr effeithiodd cyfnod o newid cymdeithasol ac economaidd mawr ar gysylltiadau cymdeithasol a rheolaeth ystadau’r Salesburys. Defnyddiodd amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys archifau ystadau, cofnodion cyfreithiol, casgliadau llawysgrifau, barddoniaeth fawl, a diwylliant gweledol a materol.

Defnyddiodd thesis Sadie esiampl y Salesburys i herio’r ddealltwriaeth bresennol o gymdeithas fonedd yn y Gymru fodern gynnar ‘seisnigedig’. Yn hytrach, canfu fod y Salesburys yn cadw eu Cymreictod ar ôl y Deddfau Uno, a ddangoswyd yn eu defnydd parhaus o’r iaith Gymraeg ac arferion diwylliannol Cymreig, megis nawdd barddol a darpariaeth gweddwdod. Roedd y parhad hwn yn yr hunaniaeth Gymreig yn hollbwysig i safle’r Salesbury fel canolbwynt cymdeithas leol, gan sefydlu bondiau cymdeithasol gyda’u tenantiaid a’u gweision uniaith, a oedd yn ei dro yn galluogi’r teulu i gynnal eu grym economaidd.

Cyhoeddodd Sadie ei hymchwil doethuriaeth gyda Gwasg Prifysgol Cymru yn 2024 o dan y teitlÌý

Newyddion Diweddaraf:

Ar ôl cwblhau ei phroject doethuriaeth, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Postan y Gymdeithas Hanes Economaidd yn y Sefydliad Ymchwil Hanesyddol i Sadie. Yna penodwyd hi ynÌýÌýyn The Queen's College, Rhydychen. Yn Rhydychen archwiliodd weithgarwch trefedigaethol Cymreig modern cynnar ym myd yr Iwerydd Prydeinig, yn enwedig trefedigaethau Gogledd America. Roedd ei hymchwil yn adeiladu ar y corff ysgolheictod sy’n datblygu ar ymwneud Gwyddelig a’r Alban ag ehangiaeth Brydeinig fodern gynnar, tra’n arlliwio'r ddadl drwy gyflwyno perthynas unigryw Cymru ei hun â’r wladwriaeth Brydeinig. Ceisiodd ei phrosiect yn benodol ymgorffori profiadau pobl Frodorol, gan gyflwyno adroddiad llawn o effaith gwladychiaeth Brydeinig fodern gynnar a’i etifeddiaeth.

Cyhoeddiadau

2024

  • Ìý(Caerdydd, 2024).

2021

  • ,ÌýThe Seventeenth CenturyÌý36: 1 (2021), 55-79.Ìý
    Ìý
  • ‘‘‘By reason of her sex and widowhood’’: An early modern Welsh gentlewoman in the Court of Star Chamber’, yn K. J. Kesselring a Natalie Mears (gol.),ÌýÌý(Llundain, 2021), pp. 79-96.Ìý

2020

  • ,ÌýWelsh History ReviewÌý30: 2 (2020), 206-32.