Yn 2017-18, derbyniodd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru Wobr Cyflymu Effaith ESRC am brosiect cyfnewid gwybodaeth a lwyddodd i ddod ag archifwyr ynghyd ag academyddion a defnyddwyr eraill archifau i drafod ffyrdd o wneud archifau ystadau yn fwy hygyrch, darganfyddadwy a defnyddiadwy.
Mae archifau ystadau yn rhan sylweddol o ddaliadau archifol y genedl ac yn darparu mewnwelediad unigryw i ddatblygiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yng Nghymru dros ganrifoedd. Fodd bynnag, mae'r casgliadau hyn yn hynod gymhleth ac yn anodd ymgysylltu â nhw.
Aeth y prosiect yn ei flaen fel cydweithrediad ar draws prifysgolion ÑÇÖÞÉ«°É ac Aberystwyth, dan arweiniad Dr. J. Gwilym Owen, Dr. Shaun Evans a Dr Julie Mathias, gyda chefnogaeth Archifau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a nifer o archifdai sirol Cymru.
Cynhaliwyd tri gweithdy cyfnewid gwybodaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifau Morgannwg ac Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, a ddaeth ag archifwyr ynghyd ag academyddion, haneswyr lleol, haneswyr teulu, gweithwyr treftadaeth proffesiynol, rheolwyr tir ac asiantaethau amgylcheddoi drafod gwerth diwylliannol a deallusol archifau ystâd, eu defnyddiau amrywiol, heriau sy'n gysylltiedig â'u natur a'u cyfansoddiad, a chyfleoedd i wella hygyrchedd a darganfyddiad.
Daeth cyfranogwyr y gweithdy i’r casgliad y byddai pecyn cymorth ar-lein i helpu defnyddwyr i lywio gwahanol fathau o gofnodion ac archwilio themâu neu gwestiynau penodol yn fanteisiol iawn. Cyhoeddir adroddiad o'r prosiect yn Archives and Records 40, 1 (2019), 86-109.Â
Un o amcanion hirdymor Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yw cyd-greu adnodd o'r fath.