ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Mapiau Ystadau Cymru

Carto-Cymru: Symposiwm Mapiau Cymru 2017

Yn 2017, roedd yn bleser gennym gydweithio â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a CBHC i gyd-gynnal Carto-Cymru: Symposiwm Mapiau Cymru.ÌýMae’r digwyddiad blynyddol, a drefnir gan Huw Thomas, Curadur Mapiau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi’i gynllunio i wella gwerthfawrogiad cyhoeddus ac academaidd o gyfoeth treftadaeth gartograffig Cymru.

Roedd digwyddiad 2017 yn canolbwyntio ar fapiau ystad, gan archwilio datblygiad mapiau ystad a’i werth wrth gyflwyno’r dirwedd hanesyddol.

Roedd y symposiwm yn cynnwys cyflwyniad gan Dr. Shaun Evans, yn amlinellu sut mae mapiau ystad yn cynrychioli ffynhonnell bwysig ar gyfer deall hanes cymdeithasol-ddiwylliannol ystadau a thirweddau ystadau yng Nghymru, yn ogystal â’r cyfraniadau a ganlyn:

Darn o fap hanesyddol yn dangos llawer o ffiniau caeau.
  • Peter Barber, cyn Bennaeth Mapiau, y Llyfrgell Brydeinig -ÌýEstate Maps and the Image of the Landowner 1570-1800.
    Ìý
  • Dr Bob Silvester, Athro Gwadd, Prifysgol Caer -ÌýChanging trends in estate mapping in the Welsh border counties during the seventeenth and eighteenth centuries​.
    Ìý
  • Dr Jacinta Prunty, Pennaeth Hanes, Prifysgol Maynooth,ÌýMap-making and estate management: urban case studies drawn from the Irish Historic Towns Atlas.
    Ìý
  • John Dollery a Scott Lloyd, CBHC –ÌýCantrefi a Cymydau: rediscovering the medieval boundaries of Wales for the digital age.
    Ìý
  • Dr Sarah Bendall, Cymrawd, Coleg Emmanuel, Caergrawnt –ÌýLand-owning bodies and their estates: maps and map-makers for institutions.
    Ìý
  • Einion Gruffudd, Rheolwr Prosiect Cynefin, Llyfrgell Genedlaethol Cymru –ÌýDigido mapiau degwm a stadau i bobl Cymru / Digitising tithe and estate maps for the people of Wales.
    Ìý
  • Huw Thomas, Curadur Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru –ÌýThe survey of the Manors of Crickhowell and Tretower, 1587, by Robert Johnson.
    Ìý

Yn dilyn y symposiwm, gwahoddwyd Dr. Shaun Evans i gyfrannu cyfres o flogiau yn seiliedig ar fapiau ystadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

  • ‘Welsh estate maps: 1: Property, Place and Power’.
    Ìý
  • ‘Welsh estate maps 2: A 17thÌýcentury map of Whitlera, Carmarthenshire’.
    Ìý
  • ‘Welsh estate maps 3: What happens at the boundaries of estates?’.
    Ìý
  • ‘Welsh estate maps 4: Trees and woodlands’.
    Ìý

Darparodd y symposiwm sylfaen ar gyfer cydweithio gwell rhwng Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, CBHC a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan ddarparu rhan o’r sylfaen ar gyfer ein ‘Prosiect Mapio Dwfn Archifau Ystad’ a ariennir gan yr AHRC.

Mae mapiau ystad yn ganolbwynt pwysig i ymchwil Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ac rydym yn awyddus i weithio gydag archifau ledled Cymru a thu hwnt i wneud yr adnoddau hyn yn fwy hygyrch trwy ddigideiddio.