Mae Elen yn gyfrifol am Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É – swydd sy’n canolbwyntio ar ddarparu gofal a mynediad i un o’r casgliadau pwysicaf o archifau a deunydd printiedig prin yng Nghymru.Â
Graddiodd Elen o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É gyda gradd yn y Gymraeg a Hanes Cymru ym 1994. Yn dilyn cyfnod fel Archifydd dan Hyfforddiant yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru cwblhaodd ei Diploma mewn Gweinyddu Archifau o dan oruchwyliaeth yr Athro Tony Carr.
Yn 2014 cymhwysodd Elen fel Archifydd Cofrestredig ac ers cymryd yr awenau gan Einion Wyn Thomas fel Archifydd y Brifysgol, mae hi wedi chwarae rhan hanfodol yn natblygiad Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn ganolfan ymchwil fywiog sy’n seiliedig ar gasgliadau, sy’n gweithredu fel partneriaeth ar draws archifau ac academia.
Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn gartref i un o’r casgliadau mwyaf arwyddocaol o archifau ystadau yn Ewrop. Yn ei rôl fel archifydd, mae Elen wedi catalogio sawl cofnod ystad ac wedi goruchwylio’r prosiect catalogio mawr ‘Siwgr a Llechi’ i sicrhau mynediad gwell i archif ystâd y Penrhyn. Yn 2017 llywiodd Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É tuag at ennill Achrediad Gwasanaeth Archifau – y ‘safon aur’ ar gyfer rheoli ac ymarfer archifau yn y DU.
Mae'r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn hanfodol i weithrediad a hunaniaeth Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.