
Mae Marian yn gweithio ym meysydd ymchwil hanesyddol a dehongli treftadaeth. Datblygodd enw da鈥檔 rhyngwladol am ei gwaith ymgynghorol ym maes treftadaeth. Mae ei meysydd arbenigol yn ymwneud 芒 Hanes Pobl Dduon yng Nghymru, hanes a gwaddol caethwasiaeth drawsiwerydd (yn enwedig gan eu bod yn ymwneud 芒 chyflwyniad y safleoedd treftadaeth) a hanes ystad y Penrhyn. Bu鈥檔 rheoli portffolio trawiadol o brojectau a mentrau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a ariennir gan grantiau, gan gynnwys projectau diweddar a mentrau datblygu鈥檙 sector i Lywodraeth Cymru sy鈥檔 canolbwyntio ar gynhwysedd, amrywiaeth a chysylltiadau trefedigaethol.
Roedd hi鈥檔 aelod o gr诺p tasg a gorffen Llywodraeth Cymru dros Y Fasnach Gaethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffau yng Nghymru a bu鈥檔 rhan o weithgor Hanes Pobl Dduon yn y cwricwlwm newydd i Gymru yn 2021. Cyfrannodd at yr Adroddiad Interim dylanwadol ar y Cysylltiad rhwng Gwladychiaeth ac Eiddo sydd bellach yng Ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a bu鈥檔 hanesydd project i Brifysgol Caerl欧r ar broject Cefn Gwlad Trefedigaethol.
Am nifer o flynyddoedd bu Marian yn gweithio fel Rheolwr Dysgu a Chyfathrebu i鈥檙 Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae ar fwrdd Race Council Cymru, ac mae hefyd yn gweithredu fel Pennaeth Treftadaeth iddo, ac mae鈥檔 Aelod o Fwrdd Gweithredol Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru, ac mae鈥檔 aelod o Gr诺p Llywio Sgiliau Dad-drefedigaethu Cymdeithas yr Amgueddfeydd.
Bu Marian yn gefnogwr brwd i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ers ei sefydlu. Mae鈥檔 gweithio gydag Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol 亚洲色吧 ac mae鈥檔 cyfrannu darlithoedd a sesiynau arbennig yn rheolaidd at fodiwlau gwahanol ledled Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas. Hi oedd Swyddog Treftadaeth ein project Tu Hwnt i'r Chwarel, a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a hwylusodd ymweliad Uchel Gomisiynydd Jamaica ag Archifau Prifysgol 亚洲色吧 a Chastell Penrhyn yn 2018.
Mae arbenigedd Marian a鈥檌 dulliau ymchwil (hanes cyhoeddus, y cydweithredol, yn seiliedig ar gasgliadau a鈥檙 rhyngwladol) yn ei gwneud yn rhan hanfodol o d卯m y Sefydliad. Ar hyn o bryd mae hi鈥檔 paratoi llyfr sy鈥檔 seiliedig ar Bapurau Jamaica yn archif ystad y Penrhyn.