ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Diwygio Tir yn Ynysoedd Prydain ac Iwerddon

Diwygio Tir yn Ynysoedd Prydain ac Iwerddon ers 1800

Poster am ddigwyddiad o'r enw 'Materion y Tir ym Mhrydain ac Iwerddon'.

Ym mis Mehefin 2019, partneriodd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru â’r Ìý²¹ i gynnal gweithdy undydd ym Mangor ar Faterion Tir ym Mhrydain ac Iwerddon yn y 19eg ganrif.

Nod y prosiect oedd archwilio’r catalyddion y tu ôl i symudiadau diwygio tir, y gwrthwynebiad iddynt ac effaith y symudiadau hyd at heddiw. Gan adeiladu ar gorff cyfoethog o waith sy'n cymryd ymagwedd greadigolÌýtuag at ‘Pwnc y Tir’, roedd y gyfres o gyflwyniadau byr yn amlinellu astudiaethau a safbwyntiau gwreiddiol ar hanes Cymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban, gan amlygu tebygrwydd ond hefyd yn amlygu natur unigryw materion tir a rhaglenni diwygio ar draws y Pedair Gwlad. Daeth rheoli ystadau, gwelliannau amaethyddol, profiadau tenantiaid, gwleidyddiaeth radical, cenedlaetholdeb, iaith, deddfwriaeth ac ymatebion tirfeddianwyr i'r amlwg fel themâu pwysig o'r trafodaethau.

Roedd y gweithdy yn sail i ddatblygiad casgliad o draethodau, a gyd-olygwyd gan Dr. Shaun Evans (ÑÇÖÞÉ«°É), Dr. Tony McCarthy (Maynooth) a'r Athro Annie Tindley (Casnewydd) o'r enwÌýÌý(Caeredin, 2022).

Mae’r llyfr yn darparu ymagwedd gymharol a thrawswladol at faterion tir ledled Prydain ac Iwerddon, gyda phwyslais arbennig ar brofiad ac effaith mudiadau diwygio tir yn Iwerddon, yr Alban a Chymru.

Llun o grup o deuddeg person o flaen baneri ISWE.

Mewn adolygiad o'r llyfr ar gyfer yÌýJournal of Family & Community History, ysgrifennodd yr Athro Henry French:

‘This collection of essays on the politics, projects, and processes of land reform in Ireland, Scotland, Wales, and England is a very varied, timely and informative contribution to the subject [...] This volume should be essential reading for scholars and students interested in the subject, not least because it explains the legislative developments on both sides of the Irish Sea with great clarity, insightful detail and via broad chronological span.’

O ran Cymru, amlygodd y prosiect y potensial ymchwil enfawr sydd ynghlwm â Thystiolaeth ac Adroddiad Comisiwn Tir Cymru, a’r angen i archwilio ‘Pwnc y Tir’ yng nghyd-destun astudiaethau ystadau Cymreig ymhellach.