ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Archifau ar gyfer Atebion Amgylcheddol

Hanes i'r Dyfodol: Datgloi Archifau i Ddatrys Heriau Amgylcheddol

Ìý

Wyneblun ar gyfer catalog ocsiwn, du a gwyn gyda thestun yn unig.

Yn 2021, roedd ymchwilwyr o Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn falch o gyfrannu at brosiect ‘Discipline Hopping’ a ariannwyd gan NERC, dan arweiniad yr Ecolegydd Morol, Dr. Alec Moore.

Daeth y prosiect ag academyddion o bob rhan o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ynghyd â chydweithwyr o Archifau’r Brifysgol, ynghyd ar gyfer cyfres o weithdai cyfnewid gwybodaeth i ystyried sut y gall ffynonellau archifol ac arfer hanesyddol gyfrannu at atebion amgylcheddol yng nghyd-destun presennol yr argyfwng hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Fe wnaeth y gweithdai ennyn gwerthfawrogiad bod dealltwriaeth o amodau amgylcheddol y gorffennol a newid yn allweddol i wneud ymyriadau gwybodus yn y presennol a’r dyfodol. Sefydlodd y cysylltiadau rhyngddisgyblaethol fframwaith ym Mangor ar gyfer arfer cydweithredol ym maes hanes amgylcheddol ac ecoleg hanesyddol – gan ehangu gwybodaeth a phrosesau gwneud penderfyniadau ar draws amserlenni a safbwyntiau hanesyddol ehangach. Roedd gan dîm y prosiect ddiddordeb arbennig mewn cymhwyso'r model hwn i goed a choetiroedd, poblogaethau pysgod a rheoli tir.

Mae'r prosiect wedi darparu sylfaen ar gyfer nifer o fentrau dilynol a cheisiadau grant.