Yn y cyflwyniad hwn, bydd Mark Harvey, yr artist ac ymchwilydd o Aotearoa/Seland Newydd (Ng膩uruahine, P膩keh膩), yn siarad am rai o'i arferion celfyddydol diweddar. Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys celf/celfyddyd fyw, ymgyrched, ecoleg, cysylltu pobl a chymunedau, mewn perthynas 芒 syniadau Ewropeaidd a M膩ori o hurtrwydd cynhyrchiol, tuag at wleidyddiaeth o gynhwysiant, iechyd amgylcheddol a hwyl.
Mae Dr Mark Harvey (Ng膩ruahine iwi a P膩keh膩) yn artist ac yn ymchwilydd cymdeithasol o Seland Newydd/Aotearoa sy'n canolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol, ecoleg, yr amgylchedd a m膩tauranga M膩ori (gwybodaeth M膩ori) a Te Tiriti (cysylltiadau rhwng gwladychwyr a phobl frodorol ar sail cytuniad). Mae ei ymarfer celf yn cynnwys perfformio, ymagweddau cymdeithasol, cyfranogiad y cyhoedd, amcanion ymgyrched, hurtrwydd cynhyrchiol, fideo a churadiaeth. Mae wedi cyflwyno ystod eang o gyd-destunau gan gynnwys Biennale Fenis, G诺yl ANTI (Kuopio, y Ffindir), City Gallery (G诺yl y Celfyddydau Seland Newydd), Live Works (Carriage Works, Sydney), The Physics Room (艑tatahi, Christchurch) a Circuit Aotearoa (ar-lein). Mae Harvey yn curadu鈥檔 eang ac wedi arwain nifer o brojectau ymchwil cenedlaethol sy鈥檔 canolbwyntio ar ddimensiynau cymdeithasol ecoleg coedwigoedd a safbwyntiau M膩ori ar draws ystod o ddulliau, gan gynnwys celf, megis Toi Taiao Whakatairanga a Mobilizing for Action. Mae wedi cyhoeddi gwaith ysgrifenedig mewn amrywiaeth o gyhoeddiadau ar yr holl them芒u hyn. Gyda PhD mewn ymarfer creadigol, mae Harvey yn Uwch Ddarlithydd yn Te Putahi M膩tauranga (Celfyddydau ac Addysg mewn Arferion Creadigol) ym Mhrifysgol Auckland (yn addysgu ar draws adrannau, gan gynnwys perfformio Celf Fyw, celfyddydau gweledol, yr amgylchedd a chysylltiadau rhwng gwladychwyr a phobl frodorol).
Mwy o wybodaeth: