Cynhelir gwasanaeth i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2025 ynÌýNeuadd Powis, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, ÑÇÖÞÉ«°É rhwng 10.30 ac 11.30 o'r gloch y bore, ddydd Llun 27 Ionawr.
Thema gwasanaeth eleni ywÌý‘ar gyfer dyfodol gwell’Ìýa bydd yn cynnwys cerddoriaeth a darlleniadau gan ysgolion lleol, aelodau o'r gymuned leol a'r cyngor lleol, Undeb y Myfyrwyr, y Tîm Caplaniaeth, a staff y brifysgol.
Cynhelir Diwrnod Cofio'r Holocost yn y DU ers 2001, a chynhelir dros 7,700 o weithgareddau lleol ar 27 Ionawr, neu o gwmpas y dyddiad hwnnw, bob blwyddyn. Dyma'r ddeuddegfed flwyddyn i'r diwrnod gael ei gynnal yng Ngwynedd.
Rhwng 1941 a 1945, ceisiodd y Natsïaid ladd holl Iddewon Ewrop Yr enw am yr ymdrech systematig a bwriadol hon i lofruddio holl Iddewon Ewrop yw'r Holocost (y Shoah yn Hebraeg). O'r amser y daethant i rym ym 1933, defnyddiodd y Natsïaid bropaganda, erledigaeth a deddfwriaeth i wrthod hawliau dynol a sifil i Iddewon. Gwnaethant ddefnyddio canrifoedd o wrth-Semitiaeth fel eu sylfaen. Erbyn diwedd yr Holocost, roedd chwe miliwn o Iddewon, yn ddynion, yn ferched ac yn blant, wedi marw mewn ghettos, mewn llofruddiaethau torfol gyda gynnau, mewn gwersylloedd crynhoi ac mewn gwersylloedd difa.
Cynhelir y gwasanaeth, syddÌýam ddimÌýac ynÌýagored i'r cyhoedd.
Ìý