Cydweithredu Byd-eang a Chyfleusterau o Fri
Mae cydweithio rhyngddisgyblaethol yn allweddol i fynd i鈥檙 afael 芒 heriau Iechyd Cyfunol yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae ein cyfleusterau ymchwil yn y maes hwn o safon fyd-eang ac yn cynnwys ein llong ymchwil ar y m么r, y听Prince Madog, Fferm ymchwil Henfaes, a . Cynhelir ymchwil hollbwysig i iechyd yr amgylchedd yng Ngholeg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg ac ym mhob rhan o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol. At hyn, mae Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion yn arwain y ffordd ym maes Iechyd Cyfunol, gyda鈥檙 a Chanolfan Ymchwil D诺r Gwastraff Cymru, sy鈥檔 enwog drwy鈥檙 byd. Rydym yn cyfuno鈥檙 arbenigedd craidd hwn ym maes iechyd yr amgylchedd gyda galluoedd allweddol mewn amaethyddiaeth, iechyd anifeiliaid a chydweithio 芒 Choleg y Gwyddorau Dynol. Trwy gyfuno profiad meddygol a gwyddor iechyd, a dod 芒 phartneriaid diwydiannol ac asiantaethau iechyd cyhoeddus ynghyd, mae Prifysgol 亚洲色吧 mewn sefyllfa dda i astudio Iechyd Cyfunol.听
Ein Hymchwilwyr
Rhestr lawn o'n hymchwilwyr
- Dr Amy Ellison (dyframaethu, microbiomau, cronobioleg)
- Yr Athro Julia Jones (cadwraeth bioamrywiaeth, gwerthuso effaith)
- Dr Benjamin Jarrett (rhywogaethau ymledol, rheolaeth fiolegol, llysysydd pryfed)
- Dr John Mulley (esblygiad, datblygiad, genomeg)
- Dr Panagiotis Ritsos (delweddu gwybodaeth, dadansoddeg weledol, realiti cymysg a rhithwir, rhyngweithio dynol-cyfrifiadur)
- Peter Robins (eigioneg ffisegol, peryglon yr aber, llygredd morol)
- Yr Athro Richard Holland (ymddygiad anifeiliaid, gwybyddiaeth anifeiliaid, s诺oleg)
- Dr Anita Malhotra (brathiad neidr, cydfodolaeth, bioamrywiaeth)
- Yr Athro Simon Creer (ecoleg foleciwlaidd, bioamrywiaeth)
- Dr Alex Papadopulos听(geneteg esblygiadol)
- 听(biolog m么r, effeithiau anthropogenig, ecoleg synhwyraidd)
- Dr Kata Farkas (monitro amgylcheddol, firysau dynol, iechyd y cyhoedd, clefydau milheintiol)
- Dr Seumas Bates (anthropoleg, coedwigaeth, AI)
- Dr David Fidler (ecoleg ficrobaidd, pridd)
- Dr Perrine Florent (ecotocsicoleg, microblastigau, trafnidiaeth ecosystem)
- Dr Miku Kawahara (dyframaethu, iechyd anifeiliaid dyfrol, clefydau heintus)
I ddilyn
- Charlie Gregory (geneteg poblogaeth, biowybodeg, cadwraeth)
- Patrick Allsop (ecoleg, ymddygiad, geneteg, microbiome)
I ddilyn
Projectau allweddol
Mae ymchwilwyr y thema hwn yn gweithio ar amryw o brosiectau cymhwysol.听
Projectau allweddol
Mae ymchwilwyr y thema hwn yn gweithio ar amryw o brosiectau cymhwysol.听
Comic Iechyd Cyfunol
Cymerwch olwg ar ein comic difyr a diddorol, a gr毛wyd i godi ymwybyddiaeth o'r project Iechyd Cyfunol a'i effaith pellgyrhaeddol.
鈥淵 Ditectifs D诺r Gwastraff鈥 Stori Iechyd Cyfunol, Comic gan Rik Worth a Jordan Collver gyda lliwiau gan JP Jordan/ Mewn cydweithrediad ag Ellie Jameson ac Amy Ellison, Iechyd Cyfunol ym Mhrifysgol 亚洲色吧, wedi'i ariannu gan Rwydwaith Arloesedd Cymru
Tudalen 1 o 4
PANEL UN: Mae pibell garthffosiaeth sy'n gollwng yn diferu'n araf
PENNAWD: Doedd gwyliadwriaeth d诺r gwastraff ddim yn denu fawr mwy na diferyn o ddiddordeb academaidd.
PANEL DAU: Mae'r llif yn cyflymu. Rydyn ni'n panio allan ac yn gweld bod y bibell sy鈥檔 gollwng yn heintio d诺r gl芒n.
PENNAWD:Yna digwyddodd COVID-19鈥
PANEL TRI: 听Mae鈥檙 bibell yn byrstio, ond nid d诺r yn unig sy'n dod allan; mae gwyddonwyr yn llamu'n arwrol o'r d诺r hefyd. Byddai hwn yn lle da i ymchwilwyr wneud cameo.
PENNAWD: Yn sydyn, cafodd y maes ei orlifo!
PANEL PEDWAR: Mae'r gwyddonwyr yn sefyll at eu fferau mewn d诺r. Os oes ffordd i'w gwahaniaethu a'u hadnabod o ran eu meysydd, byddai hynny'n gweithio'n dda yma - e.e. pa fathau o offer y byddech chi'n eu defnyddio wrth wneud gwaith maes. Mae GWYDDONYDD UN yn sefyll yn feiddgar o flaen y panel. Mae GWYDDONYDD DAU yn sefyll yn y cefndir, wedi'i orchuddio 芒 budreddi ac yn codi ei ysgwyddau.
PENNAWD: Fe wnaeth galw hanfodol am wybodaeth greu rhagor o gyfleoedd i wyddonwyr ac ymchwilwyr ar draws disgyblaethau i archwilio meysydd ymchwil newydd.
GWYDDONYDD UN: Mae'n waith budr! Ond mae'n rhaid i rywun ei wneud!
GWYDDONYDD DAU: Wel, dyna ni. Mae dal yn well nag ysgrifennu ceisiadau grant.听
PANEL PUMP: Llun gogoneddus o Brif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol 亚洲色吧.
PENNAWD: Defnyddiwyd y broses o ganfod COVID-19 mewn d诺r gwastraff am y tro cyntaf ym Mhrifysgol 亚洲色吧鈥 yn y Sefydliad Iechyd Cyfunol!
PENNAWD: Gallwn ganfod amrywiadau sy'n dod i'r amlwg mewn amser real er mwyn deall mynychder clefydau yn y gymuned yn well na thrwy brofi yn unig.听
Tudalen 2 o 4
PANEL UN: Mae'r gwyddonwyr bellach mewn labordy鈥檔 dadansoddi. Mae dau ymchwilydd yn edrych ar gyfrifiadur gyda thafluniad o ff芒g ar y wal y tu 么l iddynt, mae un arall yn edrych i mewn i ficrosgop, ac mae pedwerydd yn cario bocs o ffiolau gydag arwydd rhybudd arno. Mae GWYDDONYDD DAU yn edrych i fyny o'u gwaith ar y darllenydd.
PENNAWD: Cenhadaeth Iechyd Cyfunol 亚洲色吧 yw defnyddio ymchwil rhyngddisgyblaethol i ddeall a datrys materion iechyd dynol, colled bioamrywiaeth a newid hinsawdd.
听听 听听听 听
GWYDDONYDD pedwar: O, dim pwysau felly?
PANEL DAU: Mae rhes o dri gwyddonydd Iechyd Cyfunol gyda'u cefnau at y darllenydd yn ysgwyd dwylo 芒 thri arbenigwr arall ar yr un pryd: academydd, meddyg a ffermwr pysgod cregyn.
PENNAWD: A gweithio gyda chymunedau academaidd, asiantaethau iechyd cyhoeddus ac arbenigwyr yn y diwydiant i wneud newid effeithiol a chynaliadwy.听
PANEL TRI: Mae dwy gragen las yn sgwrsio ar wely'r m么r. Gallwn weld budreddi a charthion yn llifo yn y d诺r o鈥檜 hamgylch. Mae CRAGEN LAS UN yn sugno鈥檙 d诺r sy鈥檔 mynd heibio gan ddefnyddio鈥檙 man lle byddai ei cheg.
PENNAWD: Ystyriwch bysgod cregyn, er enghraifft. Maen nhw'n hidl-ymborthwyr ac yn bwyta popeth, gan gynnwys firysau, mewn dosau bach iawn sy'n biogynyddu - unrhyw beth o hepatitis i norofeirws.
CRAGEN LAS UN: Beth wyt ti ffansi i ginio?
CRAGEN LAS DAU: Ti鈥檔 nabod fi. Dwi ddim yn ffyslyd *torri gwynt*.
PANEL PEDWAR: Darlun yn edrych i fyny o ddyn ar fin bwyta cregyn gleision hyfryd, wedi'u stemio mewn saws gwin gwyn a garlleg.听
PENNAWD: Yna maen nhw'n cael eu ffermio. Ac er bod y pysgod cregyn yn cael eu glanhau, gall y firysau dal gyrraedd bodau dynol...
...y mae鈥檔 well ganddynt fwyta eu pysgod cregyn yn nofio mewn saws gwin gwyn. Nid carthion.
PANEL PUMP: Yn y blaendir, mae'r dyn yn dod 芒'r gragen las i'w geg. Rhyngddynt, yn y cefndir, mae GWYDDONYDD DAU, yn cyrraedd mewn union bryd. Maen nhw'n estyn allan ac yn gweiddi!
GWYDDONYDD DAU: STOPIWCH Y PYSGODYN CRAGEN YNA!
PENNAWD: Trwy fonitro, gallwn ragweld achosion clefydau mewn cymunedau - gan weithio gyda diwydiant i sicrhau nad yw pysgod cregyn heintiedig yn cael eu gwerthu, a chydag iechyd y cyhoedd i ddatblygu polis茂au.
Tudalen 3 o 4
PANEL UN: Traeth ar ddiwrnod poeth. Mae dau YMWELYDD 脗鈥橰 TRAETH yn cyrraedd ac yn dod o hyd i firysau maint dynol gyda dau blentyn firws bach yn difetha'r traeth. Mae nifer o firysau a bacteria eraill ar y traeth yn y cefndir. Mae budreddi ym mhob man, mae'r d诺r sy'n eu cyffwrdd yn troi'n frown, mae un o鈥檙 plant firws yn bygwth cranc, ac mae sbwriel o'u cwmpas.听
PENNAWD: Ond nid yw'r heriau hyn yn lleol yn unig, maent yn rhai byd-eang. Wrth i'r hinsawdd gynhesu, efallai y bydd mwy o bobl eisiau treulio amser ar eu traeth lleol... Ond mae tymereddau cynhesach yn golygu bod ymwelwyr eraill o bellach i ffwrdd.
YMWELWYR 脗鈥橰 TRAETH: O NA!
FIRWS UN: Dywedwch helo wrth eich cartref newydd blantos!
PLENTYN FEIRWS: MWA HA HA!
PANEL DAU: Mae tri gwyddonydd yn eistedd gyda bicer o dd诺r ar bl芒t troi poeth o flaen pob un ohonynt. Yn y ddau ficer cyntaf mae d诺r gl芒n, y d诺r yn y cyntaf yn llonydd a鈥檙 d诺r yn yr ail yn berwi. Ond yn y bicer olaf mae bacteria鈥檔 tyfu ac yn dianc allan ohono, gan synnu'r ymchwilydd. Mae gan y bacteria wyneb bach.
PENNAWD: Bydd firysau trofannol yn dod o hyd i gartrefi newydd yn ein dyfroedd. Ac fel y dangosodd COVID, mae'n hawdd i'n cymunedau gael eu dal allan gan afiechydon newydd. Mae ein hymchwil ni (ymhlith nifer o brojectau ymchwil eraill) yn edrych ar sut mae pathogenau鈥檔 ymateb i dymereddau gwahanol.听
YMCHWILYDD UN: Hmm, rhy oer.
YMCHWILYDD DAU: Rhy boeth!
YMCHWILYDD TRI: Argol!
BACTERIA: Perffaith!
PANEL TRI: Mae dau ymchwilydd yn darllen allddarlleniad print o uwch-gyfrifiadur - wrth gwrs, y peth i鈥檞 wneud mewn comig fyddai defnyddio anghenfil yn y dull r卯l-i-r卯l clasurol - ond eto, gallwn ei ddiweddaru i fod yn fwy modern ac yn llai comig.
PENNAWD: Mae'r data hwn yn cael ei fwydo i mewn i fodelau cyfrifiadurol sy'n gallu rhagweld risgiau posibl i iechyd dynol.
CYFRIFIADUR: BSST_CLIC_BSST Peidiwch 芒 mynd i nofio. CLIC_ BSST B脦P Ac ewch ag eli haul!
PANEL PEDWAR: Awn yn 么l i'r labordy a welwyd ar DUDALEN 2, PANEL UN, lle mae ymchwilydd mewn gogls yn codi cynhwysydd allan o uned storio oer. Mae niwl yn chwyrl茂o o amgylch y cynhwysydd wrth i'r ymchwilydd wneud ei gwaith yn nerfus. Mae llun o ff芒g ar y cynhwysydd.
PENNAWD: Rydym hefyd yn defnyddio firysau er mantais i ni.
PANEL PUMP: Yn 么l ar y traeth. Mae'r FF脗G defnyddiol sy'n gweithredu fel bownsar yr un maint 芒 pherson, ond yn fwy - yn gryfach ac yn fwy cyhyrog. Mae'n dyrnu ei ddwrn yn ei law, a bron yn rhwystro'r haul gyda鈥檌 gorff. Mae鈥檔 camu ar facteria sy鈥檔 yfed coctel gwrthfiotig ar dywel traeth budr. Mae un o'r YMWELWYR DYNOL 脗鈥橰 TRAETH yn pwyso dros ysgwydd y FF脗G gan ysgwyd dwrn yn yr awyr, fel pe bai'n dweud, "Dwi am dy gael di!"
PENNAWD: Trwy ynysu bacterioffagau (firysau) defnyddiol mewn carthion, a dod o hyd i'r rhai sy'n ddiniwed i bobl ac anifeiliaid, gallwn ymosod ar facteria sydd ag ymwrthedd i wrthfiotigau鈥
FF脗G: Dydy鈥檙 lletywr hwn ddim yn ddigon mawr i鈥檙 ddau ohonom ni鈥
PENNAWD: 鈥y'n golygu y gallwn atal a lleihau nifer y marwolaethau oherwydd ymwrthedd i wrthfiotigau.
Tudalen 4 o 4
PANEL UN: Mae鈥檙 pennawd cyntaf yn rhedeg yr holl ffordd uwchben PANELI UN, DAU a THRI.听
PENNAWD: Mae 亚洲色吧 yn addas iawn ar gyfer y dull Iechyd Cyfunol diolch i'n ysgolion rhagorol...
PANEL UN: Mae'r panel hwn yn cynrychioli'r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol. Mae'n dangos ymchwilydd 芒 broga ar ei ysgwydd yn gwthio dail gwyrddion o'r neilltu i edrych ar froga arall.
PENNAWD: Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol. Cartref i swolegwyr, ecolegwyr a gwyddonwyr amgylcheddol (yn enwedig yn ymwneud 芒 choedwigaeth a phriddoedd).
PANEL DAU: Yma gwelwn long ymchwil y Prince Madog yn dod dros donnau鈥檙 m么r, a golau dydd yn torri drwy鈥檙 awyr lwyd.
PENNAWD: Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion. Eigioneg, ymddygiad anifeiliaid, dyframaethu (cregyn gleision, wystrys, ac ati)
PANEL TRI: Yn olaf, gan symud o wyrdd i wyrddlas i las, gwelwn fyfyrwyr meddygaeth ac ymchwilwyr mewn sgrybs yn helpu claf. Mae'r llun yn fwy uniongyrchol a phersonol.
PENNAWD: a鈥檙 Ysgol Gwyddorau Iechyd. Gofal meddygol, gofal iechyd a gofal chymdeithasol, gwyddorau cymdeithas, economeg iechyd.
PENNAWD: Cefnogir pob un gan isadeiledd amgylcheddol, isadeiledd cynaliadwyedd ac isadeiledd iechyd mwyaf blaenllaw Cymru.
PANEL PEDWAR: Llun agos o diwb mewn diferyn IV, un sy'n rheoli cyfradd y llif. Mae ar fin diferu.
PENNAWD: Mae鈥檔 llawer mwy nag edrych ar iechyd dynol yn unig.听
PANEL PUMP: Llun agos o鈥檙 diferyn o dd诺r yn disgyn. Mae'r diferyn yn sff锚r glas golau a gwyrdd sy'n edrych fel y Ddaear yn erbyn cefndir tywyll yn llawn s锚r.
PENNAWD: Mae ymchwil Iechyd Cyfunol Prifysgol 亚洲色吧 yn ymchwilio i iechyd bywyd gwyllt, bodau dynol ac ein hamgylchedd鈥
...i astudio sut mae'r tri pheth hyn wedi'u cydgysylltu'n annatod.听
PANEL CHWECH: Awn yn 么l i draeth gyda choed palmwydd a mynyddoedd yn y cefndir. Mae'r diferyn wedi disgyn i'r cefnfor gyda sblash. Mae'r traeth hwn yn edrych yn dawel, yn l芒n ac yn llonydd wrth i鈥檙 haul godi. Mae'r diferyn wedi achosi crychdonnau i ymledu ar draws y cefnfor at y lan.
PENNAWD: Trwy wneud newidiadau cadarnhaol mewn un maes yn unig...
..gallwn weld effaith crychdonni...
鈥r draws ecosystemau cyfan.
Rydym i gyd yn rhannu un blaned.
Rydym i gyd yn rhannu鈥 Iechyd Cyfunol.
Diwedd
Uchafbwyntiau Prosiect Ymchwil 脭l-raddedig
Mae ein prosiectau PGR blaengar yn sbarduno arloesedd ar draws meysydd trwy archwilio syniadau trawsnewidiol, datblygu gwybodaeth, a chynnig atebion byd go iawn.
Newyddion diweddaraf
Ym Mangor, ymchwil yw sylfaen ein haddysgu. Gallwch astudio amrywiaeth eang o gyrsiau, ar lefel israddedig ac 么l-raddedig, sydd wedi ei seilio ar yr ymchwil byd eang rydym yn ei wneud yn y maes hwn.听
Ym Mangor, ymchwil yw sylfaen ein haddysgu. Gallwch astudio amrywiaeth eang o gyrsiau, ar lefel israddedig ac 么l-raddedig, sydd wedi ei seilio ar yr ymchwil byd eang rydym yn ei wneud yn y maes hwn.听