05/24 Cydnabyddiaeth Genedlaethol i Gymorth Menopos ar gyfer Staff y Brifysgol
Mae'r Brifysgol wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am ei gwaith yn datblygu amrywiaeth o strwythurau cymorth unigol a sefydliadol ar gyfer cydweithwyr sy'n profi peri-/menopos.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r amser a'r sgiliau a fuddsoddwyd gan gydweithwyr ar draws y Brifysgol, o鈥檙 ysgolion academaidd a鈥檙 gwasanaethau proffesiynol, wedi arwain at gyfres gyfannol o adnoddau sy'n cefnogi unigolion cyn, yn ystod ac ar 么l y menopos, gan gynnwys:
- Cyfarfodydd rheolaidd o鈥檙 Lolfa Menopos yn y cnawd ac ar-lein
- Cefnogaeth gan gymheiriaid
- Iechyd Galwedigaethol
- Mynediad i hyfforddiant a chwnsela
- Sesiynau codi ymwybyddiaeth
- Mae rheolwyr llinell yn datblygu eu sgiliau鈥檔 barhaus er mwyn gallu adnabod yn hyderus yr addasiadau a allai gefnogi'r rhai y maent yn eu rheoli orau ar wahanol gamau yn eu taith
Dywedodd Anna Quinn, Rheolwr Project Iechyd a Lles, "Mae codi ymwybyddiaeth o鈥檙 menopos yn ehangach fel mater lles staff wedi bod yn ymgymeriad sylweddol, wrth i ni geisio rhoi amlygrwydd dyledus i'r pwnc a chael gwared ar y tab诺 cymdeithasol sydd wedi ymestyn i'r gweithle ers degawdau, ac anfanteisio gormod o fenywod."
Mae cyflawniadau'r ddwy flynedd ddiwethaf yn cael eu cydnabod mewn dau ddatblygiad cyffrous. Mae'r Brifysgol wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr fel rhan o wobrau Rhagoriaeth Adnoddau Dynol y Prifysgolion .
Bydd cydweithwyr Adnoddau Dynol yn ymuno 芒 thimau adnoddau dynol eraill o sefydliadau addysg uwch y Deyrnas Unedig ar gyfer eu cynhadledd ar-lein yr wythnos hon pan fydd enillwyr y gwobrau'n cael eu cyhoeddi.
亚洲色吧 yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill achrediad gweithle sy'n gyfeillgar i'r menopos
Y Brifysgol hefyd yw'r cyflogwr mawr cyntaf a'r unig Brifysgol yng Nghymru, i ennill achrediad fel Gweithle sy'n Gyfeillgar i'r Menopos. Mae'r cynllun nod barcud cenedlaethol hwn, a weinyddir gan , yn derbyn cyflwyniadau gan sefydliadau sydd wedi bod drwy broses graffu gan banel annibynnol ac yn penderfynu os rhoddir achrediad.
Dywedodd Tracy Hibbert, Prif Swyddog Pobl, "Mae鈥檙 achrediad hwn yn destament i gwmpas a maint y gwaith a wneir gan gydweithwyr o bob rhan o'r Brifysgol i sicrhau profiad tecach ac iachach i gydweithwyr yn ystod y peri-/menopos. Mae'n anrhydedd cael ein cydnabod fel y cyflogwr mawr cyntaf yng Nghymru, a鈥檙 Prifysgol gyntaf yng Nghymru, i ennill achrediad Gweithle sy'n Gyfeillgar i'r Menopos a byddwn yn parhau i wneud pob ymdrech i sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth ymhlith ein holl staff."
I ymuno 芒 rhwydwaith ar-lein Lolfa Menopos dilynwch y ddolen .
I gofrestru ar gyfer sesiynau hyfforddi Rheolwr Llinell dilynwch y ddolen .
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth menopos sydd ar gael i staff, e-bostiwch Anna Quinn.