亚洲色吧

Fy ngwlad:
Learned Society of Wales logo on white background

Tri academydd yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Llongyfarchiadau i fy nghydweithwyr ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon o'u cyfraniadau i'r byd academaidd a'r gymdeithas. Fel Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, mae'n anrhydedd i mi fod yn rhan o gr诺p hynod nodedig sy'n cynrychioli pinacl llwyddiannau academaidd, diwylliannol a dinesig Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu at genhadaeth y Gymdeithas o ysgogi ymchwil ac arbenigedd er mwyn gwella cymdeithas Cymru a thu hwnt.

Yr Athro Edmund Burke,  Is-ganghellor

Rwy'n falch iawn o gael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Edrychaf ymlaen at gefnogi cyfraniad hanfodol y Gymdeithas i fywyd a dysg Cymru, yn enwedig yn y sectorau celfyddydol a chreadigol.

Yr Athro Andrew Lewis,  Athro mewn Cyfansoddi

Mae cael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn gymaint o anrhydedd, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn annog genethod a merched, a grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ac sydd eisiau dilyn gwyddoniaeth, i wneud hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr y Gymdeithas i amrywiaethu cymuned academaidd Cymru, a thrwy hynny, cyfoethogi ein trafodaethau a'n cyflawniadau.

Yr Athro Yueng-Djern Lenn,  Athro mewn Eigioneg Ffisegol

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 2010, ac mae鈥檔 tynnu ar gryfderau sylweddol o bron i 700 o Gymrodyr nodedig yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Drwy ddod 芒鈥檙 Cymrodyr mwyaf llwyddiannus a thalentog sy鈥檔 gysylltiedig 芒 Chymru at ei gilydd, mae鈥檙 Gymdeithas Ddysgedig yn cyfrannu at ddatblygu a hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, gan ddarparu cyngor arbenigol ac annibynnol i鈥檙 Llywodraeth.