Gwahoddir pobl ar Ynys Môn a'r cyffiniau i ymuno â digwyddiadau gwirfoddoli wrth cronfa ddŵr Llyn Alaw (Ynys Môn) ym mis Hydref a mis Chwefror, i helpu i ailddarganfod cerflun anferth (tua 11x6 llath) gan yr artist Beca Paul Davies (sy'n fwyaf adnabyddus am ei berfformiad "Welsh Not" yn Eisteddfod 1977).
Mae’r digwyddiadau’n deillio o gydweithrediad cyfredol rhwng Dŵr Cymru, Uned Ardal Harddwch Naturiol Eithrioadol a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ynys Môn, a’r ymchwilydd, Dr Sarah Pogoda o Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith Prifysgol ɫ.
Celfyddyd Tir 'Map of Wales' ger Llyn Alaw
Un o’r gweithiau mawr cyntaf o’r hyn a elwir yn “gelfyddyd tir” yng Nghymru a’r DU
Mae Sarah yn esbonio:
“Sefydlodd Paul y comisiwn gan Dŵr Cymru ym 1987 yng nghyd-destun “Blwyddyn yr Amgylchedd” y Comisiwn Ewropeaidd ar y pryd. Ymunodd Paul, gyda myfyrwyr Celf a Dylunio Coleg Llandrillo Menai (Coleg Technegol Gwynedd gynt) ar y pryd a gwirfoddolwyr lleol dros gyfnod o fisoedd i adeiladu’r cerflun, gan ddefnyddio deunyddiau lleol yn unig. Mae’n un o’r gweithiau mawr cyntaf o’r hyn a elwir yn “gelfyddyd tir” yng Nghymru a’r DU.”
Mae'r cerflun wedi bod yn gordyfu gan fieri, eithin, ac isdyfiant am dros ddegawd.
Esboniodd Alwyn Roberts o Dŵr Cymru:
“Rydym yn falch iawn o chwarae ein rhan i ddod â’r darn hwn o dreftadaeth ddiwylliannol yn ôl yn fyw. Roedd yr ardal – a chyda hynny y cerflun – ychydig o olwg cyhoeddus ers i Bysgodfa Alaw gau nifer o flynyddoedd yn ôl, ond gobeithiwn trwy ein hymdrechion cydweithredol y byddwn yn dod â’r cerflun yn ôl i’w fwynhau gan ymwelwyr â’r safle, gan ei fod yn ddarn pwysig o dreftadaeth leol.”
Mae Owen Davies (Warden Cymunedol AHNE Cyngor Sir Ynys Môn) wedi bod yn arwain y gwaith o glirio’r gordyfiant o amgylch y cerflun a threfnu’r digwyddiadau gwirfoddoli ar gyfer Chwefror eleni.
Eglura Owen:
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion a chymunedau lleol i helpu i adfywio’r gwaith celf hanesyddol hwn ger Llyn Alaw gan ddefnyddio offer llaw fel tocwyr gardd a llifiau bwa. Bydd hwn yn waith heriol o ystyried cyflwr presennol y cerflun, ond hefyd sy’n teimlo’n fuddiol dros ben, felly byddwn yn ddiolchgar am bob cymorth a bôn braich i’w adfer!”
Bydd y digwyddiad gwirfoddoli yn cael ei gynnal rhwng 2-3 Chwefror. Gall gwirfoddolwyr gael ad-daliad am gostau tanwydd, ond byddwn hefyd yn trefnu lifftiau i'r safle ac yn ôl. Bydd toiled sumudol a chyfleusterau golchi dwylo ar gael. Dewch â'ch cinio eich hun.
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau gwirfoddoli, cysylltwch ag aonb@ynysmon.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil yn ymwneud â’r cerflun, cysylltwch âs.pogoda@bangor.ac.uk neu 01248 382521.