CFP: Greening Modern Languages Research and Teaching
Cynhadledd Ryngwladol Ar-lein, 24-25 Mawrth 2023
CAIS AM BAPURAU
Dyddiad cau ar gyfer crynodebau: 16 Rhagfyr 2022
Bydd y gynhadledd ryngwladol ddeuddydd ar-lein 'Greening Modern Languages Research and Teaching' yn ystyried y rôl sydd gan Ieithoedd Modern fel disgyblaeth i’w chwarae mewn cyfnod o argyfyngau ecolegol, o ran ailfeddwl ein hymarfer academaidd fel addysgwyr, ysgolheigion ac eco-ddinasyddion, ac ym mha ffyrdd y gall hyn groes-dorri ag ymdrechion presennol i ddatganoli a dad-drefedigaethu’r cwricwlwm. Bydd y gynhadledd yn gyfle i ddechrau adfyfyrio am le Ieithoedd Modern yn y Dyniaethau Amgylcheddol ac mewn gweithredu torfol tuag at gynaliadwyedd a chyfiawnder amgylcheddol.
Fel disgyblaeth sydd wedi cael ei datganoli’n gynhyrchiol ac yn helaeth y cyd-destun ôl-drefedigaethol, ac wedi symud y tu hwnt i’r cenhedloedd oedd ‘am amser maith, yn pennu [ei] ffiniau’ (Forsdick 2015: 2), sut gallai Ieithoedd Modern gyfrannu at ddatblygu ac ailfeddwl ein synnwyr o le ac ymdeimlad o blaned (Heise 2008) mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd a'r chweched difodiant rhywogaethau? Sut gall Ieithoedd Modern gymryd rhan yn herio cyffredinoliaeth unieithrwydd ac 'Oes Dyn'? Pa ran gall Ieithoedd Modern ei chwarae yn y Dyniaethau Amgylcheddol ac mewn '''ansefydlogi'' naratifau dominyddol' ac archwilio 'goblygiadau naratifau newydd sydd wedi’u graddnodi i realiti byd sy’n newid' (Bird Rose, van Dooren, Chrulew , Cooke, Kearnes ac O'Gorman 2012)? Pa fethodolegau, cysyniadau a lecsicon amlieithog y gall maes traws-genedlaethol a thrawsddisgyblaethol Ieithoedd Modern eu cynnig i ailfeddwl ein perthynas â’r mwy-na-dynol? Sut allwn ni, fel ysgolheigion ac addysgwyr Ieithoedd Modern, gyfrannu at gynaliadwyedd ystyrlon a sylweddol, ac ar yr un pryd osgoi pydewau maglu term y mae cyfalafiaeth werdd wedi ceisio’i ddirymu o’i botensial i greu gwrthdaro gwleidyddol? Pa bosibiliadau sy’n agored i’r rhai sy’n gweithio mewn systemau addysg uwch anghynaliadwy?
Dyma rai o’r cwestiynau allweddol y bydd y gynhadledd hon yn eu harchwilio. Fe'i cynhelir ar-lein er mwyn hwyluso cyfranogiad rhyngwladol. Defnyddir y fformat ar-lein yn ogystal i feithrin deialog yn y cyfnod yn arwain at y gynhadledd, mewn sgyrsiau ar-lein wedi'u strwythuro o gwmpas themâu a chwestiynau allweddol a fydd yn porthi'r trafodaethau yn y gynhadledd ei hun.
Rydym yn croesawu cyfraniadau o unrhyw faes/feysydd o fewn Ieithoedd Modern. Gall pynciau posib gynnwys y canlynol, ond nid ydynt wedi'u cyfyngu iddynt:
- Naratifau a gwrth-naratifau am yr amgylchedd ar draws diwylliannau a chyfryngau
- Ieithoedd yr amgylchedd
- Diwylliannau amgylcheddol mewn ieithoedd lleiafrifiedig a rhai a siaredir yn llai eang
- Cyfieithu natur
- Ecolegau dad-drefedigaethol a mudiadau gwrthsafiad ecolegol traws-drefedigaethol
- Actifyddiaeth amgylcheddol: brwydrau lleol a rhwydweithiau rhanbarthol/cenedlaethol /trawswladol
- Croesi ffiniau (iaith): mudo amgylcheddol, symudedd a disymudedd, swyddogaeth cymhwysedd rhyngddiwylliannol
- Athroniaethau sy’n ymwneud â’r amgylchedd ac anifeiliaid ar draws ieithoedd
- Cymhwysedd rhyngddiwylliannol a chymhwysedd rhyngrywogaethol
- Yr amgylchedd a hunaniaethau annominyddol neu wedi’u hymylu: eco-ffeministiaeth; astudiaethau anabledd amgylcheddol; ecolegau cwiar
- Yr amgylchedd, bwyd, iechyd a lles ar draws cymdeithasau
- Creadigrwydd a chynaliadwyedd: Ieithoedd Modern Amgylcheddol ac ymarfer fel ymchwil
- Addysgu Ieithoedd Modern Amgylcheddol ar lefel ysgol a phrifysgol; addysgeg ryng-ddiwylliannol a'r amgylchedd; archwilio dimensiynau diwylliannol cynaliadwyedd yn ystafelloedd dosbarth iaith y byd; Iaith at Ddibenion Penodol (LSP) a datblygu cynaliadwy
- Cynaliadwyedd ac astudio dramor: gwrthbwyso effeithiau amgylcheddol rhaglenni tymor byr teithio i astudio; integreiddio pynciau’r dyniaethau amgylcheddol i gwricwla astudio dramor; ymgysylltu moesegol â'r amgylchedd a chymunedau brodorol drwy astudio dramor
- Difodiant diwylliannol ac addysgu ieithoedd rhanbarthol/annominyddol/mewn cyd-destun dwyieithog
- Pryderon a chyfleoedd amgylcheddol a phedagogaidd mewn addysgu sy’n gynyddol ar sail electronig/digidol; cynaliadwyedd a newidiadau mewn dyrannu adnoddau yn ystod cyfnodau o lymder a phandemig
Rydym yn gwahodd crynodebau o oddeutu 250-300 o eiriau ar gyfer papurau unigol 20 munud, a chynigion ar gyfer paneli cyflawn neu fyrddau crwn. Dylai cynigion ar gyfer paneli cyflawn gynnwys crynodeb ar gyfer pob papur unigol, ac amlinelliad byr 250-300 o eiriau o sail resymegol y panel arfaethedig. Dylai cynigion ar gyfer byrddau crwn gynnwys amlinelliad 750-1000 o eiriau o’r sail resymegol a chymhelliant cyffredinol, gan gynnwys braslun o gyfraniad pob siaradwr. Rydym yn annog fformatau heblaw am bapurau traddodiadol neu fyrddau crwn, a allai gynnwys y canlynol, ond heb gael eu cyfyngu iddynt: ymarferion creadigol, sesiynau fformat seminar gyda phapurau wedi’u cylchredeg ymlaen llaw, gweithdai neu gydweithrediadau anacademaidd. Rydym hefyd yn annog cynigion ar gyfer paneli, sesiynau, gweithdai neu ddigwyddiadau sy’n meithrin deialog ar draws ieithoedd a/neu ranbarthau. Anfonwch gynigion mewn dogfen Word ac yn Saesneg at ecomodlang@gmail.com erbyn 16 Rhagfyr 2022.
Fel rhan o'r gynhadledd bydd gweithdai i gyd-adeiladu lecsicon amlieithog o eiriau allweddol amgylcheddol ar draws diwylliannau, ac i rannu adnoddau pedagogaidd ar gyfer datblygu ymwybyddiaeth ecolegol ar y cyd ag amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol. Os hoffech gynnig eich hun fel hwylusydd neu gyd-hwylusydd i un o’r gweithdai hyn, anfonwch nodyn bio-lyfryddiaethol heb fod yn fwy na 300 o eiriau at ecomodlang@gmail.com, erbyn 16 Rhagfyr 2022, mewn dogfen Word ac yn Saesneg, yn canolbwyntio ar gymwysterau a phrofiad perthnasol, a datganiad byr oddeutu 250 o eiriau yn awgrymu syniadau ynglŷn â sut i wneud gweithdy o'r fath yn gynhyrchiol a meithrin cyfnewid rhwng cyfranogwyr. Nodwch yn glir eich arbenigedd iaith penodol.
Mae croeso i chi gynnig papur neu banel ac i gynnig eich hun ar gyfer hwyluso gweithdai, ond os bydd ddiddordeb sylweddol, byddwn yn dewis cynnwys mwy o bobl.
Bydd deilliannau'r gynhadledd yn cynnwys cyfrol wedi'i golygu; a gwefan, a fydd yn cynnwys y lecsicon amlieithog a phecyn cymorth pedagogaidd. Ariennir ‘Greening Modern Languages Research and Teaching’ gan gynllun Grantiau Bach yr Academi Brydeinig / Ymddiriedolaeth Leverhulme (SRG22\220097).
Pwyllgor trefnu:
Armelle Blin-Rolland (Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É), Margaret C. Flinn (The Ohio State University), MartÃn Veiga (Coláiste na hOllscoile Corcaigh / University College Cork)