Mae prosiect cydweithredol diweddar rhwng Prifysgol 亚洲色吧 a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig (UKCEH) wedi dangos bod y rhan fwyaf o bobl eisiau mwy o natur fel coed a blodau gwyllt yn eu trefi a鈥檜 dinasoedd. Gweithiodd y t卯m mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sir Ddinbych i asesu canfyddiadau鈥檙 gymuned o鈥檙 newidiadau amgylcheddol sy鈥檔 digwydd yn nhref arfordirol y Rhyl yng ngogledd Cymru, a chynhaliwyd arolwg hefyd o 1,866 o bobl ledled y Deyrnas Unedig i gasglu eu barn am blannu coed a sefydlu dolydd blodau gwyllt. Dangosodd y canlyniadau fod 73% o bobl eisiau mwy o goed, a 75% eisiau mwy o ddolydd blodau gwyllt.
Nid oeddem yn disgwyl canlyniad positif mor glir. Mae pobl fel rheol yn gwrthwynebu newidiadau i鈥檞 cymdogaeth, ac mae鈥檔 galonogol gweld bod cymaint o gefnogaeth i fannau gwyrdd mewn dinasoedd a threfi. Bydd ein canlyniadau yn helpu cynghorau a thrigolion i ddylunio mannau gwyrdd lleol yn well yn y dyfodol.
Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol
Fel rhan o鈥檌 Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol, mae Cyngor Sir Ddinbych yn darparu ymyriadau seilwaith gwyrdd trefol gan gynnwys plannu coed a sefydlu dolydd blodau gwyllt. Llwyddodd yr astudiaeth achos hon yn y Rhyl i鈥檙 timau ymchwil feintioli a chymharu buddion dau gynllun ymyrraeth arfaethedig a phedwar cynllun ymyrraeth presennol a chyfrifo鈥檙 gwerthoedd yn seiliedig ar ddata ar gyfer s诺n, carbon a llygredd aer.
Dywedodd yr Athro Laurence Jones o UKCEH, 鈥淢ae ein modelau yn dangos y manteision sylweddol y mae coed a blodau gwyllt yn eu darparu. Maent yn lleihau gwres a s诺n, ac yn rhoi aer glanach i ni a mwy o fioamrywiaeth. Mae鈥檙 canfyddiadau gwyddonol hyn yn ategu greddf pobl bod mwy o fannau gwyrdd yn well i bob un ohonom.鈥
Dangosodd gyfweliadau gyda 28 o drigolion y Rhyl y canlynol:
- Dywedodd 96% o鈥檙 cyfranogwyr fod coed a dolydd blodau gwyllt yn bwysig iddynt
- Dywedodd 82% o'r cyfranogwyr ei bod yn bwysig treulio amser ynghanol coed
- Dywedodd 68% o'r cyfranogwyr ei bod yn bwysig treulio amser ynghanol dolydd blodau gwyllt
- Roedd buddion bioamrywiaeth yn bwysig i 96% o ymatebwyr
- Roedd manteision iechyd a lles yn bwysig i 100% o ymatebwyr
- Roedd manteision storio carbon yn bwysig i 57% o ymatebwyr.
Wrth adfyfyrio ar y project, dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yng Nghyngor Sir Ddinbych, 鈥淩oeddem yn falch o fod yn rhan o鈥檙 gwaith hwn. Dangosodd ganlyniadau'r arolwg cenedlaethol a data'r Rhyl fod y rhan fwyaf o bobl wedi nodi bod creu dolydd blodau gwyllt a phlannu coed yn bwysig iddynt. Mae鈥檙 Cyngor wedi cael ein calonogi鈥檔 fawr gan yr astudiaeth hon a鈥檙 dystiolaeth yngl欧n 芒 manteision y mannau gwyrdd hyn i鈥檙 gymuned, yn ogystal 芒 byd natur, wrth i ni geisio adolygu a datblygu ein cynlluniau i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 argyfwng hinsawdd a natur ar draws y sir. Rydym ar hyn o bryd yn adolygu鈥檙 canlyniadau gyda Phrifysgol 亚洲色吧 a鈥檙 Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig a byddwn yn cymryd y wybodaeth a gasglwyd i ystyriaeth wrth gynllunio ymyriadau mannau gwyrdd yn y dyfodol.鈥