Athro o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cyd-gyflwyno podlediad newydd sbon sy’n cynnig canllaw ‘hwyliog’ i hanes llenyddiaeth Cymru
Mae’r Athro Jerry Hunter, awdur ac aelod o adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, yn cyd-gyflwyno podlediad newydd sbon gyda’r sylwebydd gwleidyddol a chyd-academydd, Yr Athro Richard Wyn Jones.
Bydd y podlediad ‘Yr Hen Iaith’ ar gael o ddydd Iau, 9 Mawrth ymlaen a bydd pennod newydd yn cael ei rhyddhau’n wythnosol wedi hynny.
Meddai’r Athro Hunter, “Mae Richard a minnau’n hen ffrindiau, a dechreuodd hyn mewn gwirionedd gan fy mod i yn tynnu coes Richard am y bylchau yn ei wybodaeth am lenyddiaeth Cymraeg ers degawdau! Ond fe benderfynon ni os oedd o’n teimlo dipyn o ‘lên-baras’, efallai y byddai pobl eraill yn cael budd o glywed am lenyddiaeth Cymru mewn modd sydd, gobeithio, yn hwyliog ac mewn fformat sy’n hawdd gwrando arno fel hyn. Rhaid dweud ar y pwynt yma fod Richard wedi cynnig gwers tebyg i mi o ran hanes gwleidyddol!â€
Mae pennod gyntaf y podlediad ‘Yn y dechreuad yr oedd…y Gododdin (efallai)' yn gwneud be fyddech chi’n ei ddisgwyl, sef dechrau o’r dechrau, ond mae gwybod beth oedd y testun llenyddol cyntaf yn y Gymraeg, fel mae’r podlediad yn datgelu, ychydig yn fwy cymhleth na fyddai rhywun yn disgwyl….
Gallwch wrando trwy’r platfform diwylliannol Cymraeg AM fan hyn:
Hefyd ar gael ar podlediadau Apple fan hyn:
I gyd-fynd â’r podlediad, bydd Jerry Hunter yn ysgrifennu erthyglau yn dilyn cyhoeddiad pob pennod, gyda rhagor o fewnwelediadau a rhestr ddarllen ychwanegol:
Ìý