Cynaliadwyedd, y Gyfraith a’r Dyfodol ym Moduan
Yn Eisteddfod LlÅ·n ac Eifionydd eleni, cafwyd trafodaeth ddiddorol ynghylch cynaliadwyedd a'r gyfraith, ac i ba raddau y gall Cymru fod yn wlad ddatganoledig ac, yn wir, yn wlad annibynnol.
Cynaliadwyedd oedd pwnc canolog y trafodaethau a’r sesiynau a gynhaliwyd ym mhabell Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn Eisteddfod Genedlaethol LlÅ·n ac Eifionydd eleni, yn unol ag ethos canolog y brifysgol, ac felly, roedd yn bwysig ystyried dyfodol Cymru mewn cyd-destun cyfreithiol. Cafwyd trafodaeth ddifyr iawn ar ddydd Llun 7 Awst rhwng Mr Keith Bush KC a Mr Sion Jobbins am ddyfodol system gyfreithiol Cymru a Lloegr dan arweiniad Ms Lois Nash, darlithydd y Gyfraith yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas.
Cyflwynwyd ‘Problem Cyfiawnder’ sef diffyg datganoli pwerau dros system cyfiawnder Cymru, a bod hynny’n golygu bod San Steffan yn gwneud penderfyniadau dros system gyfiawnder Cymru a Lloegr fel ei gilydd. Gyda hynny, trafodwyd os mai datganoli pwerau yntau annibyniaeth yw'r ateb i'r broblem gymhleth hon.
Dechreuodd y sesiwn gyda chyflwyniad gan Ms Lois Nash i'r sefyllfa hanesyddol a'r sefyllfa gyfredol cyn symud ymlaen i drafodaeth banel a geisiodd ateb beth yw'r prif faen tramgwydd sy’n rhwystro datrysiad y broblem cyfiawnder.Ìý
Trafodwyd cysylltiadau gwleidyddol a'r newid mewn agwedd y cyhoedd ers y pandemig, ac roedd ymateb diddorol gan y panelwyr i bob cwestiwn, wrth iddynt gynnig bod annibyniaeth yn debygol o fod yn ateb i'r dyfodol ond bod angen ymateb tymor byr er mwyn dechrau ar y daith i ddatrys y broblem.
Yn ddiau, roedd hon yn drafodaeth banel eithriadol ddiddorol a gynigiodd ymatebion difyr a deifiol i geisio datrys ‘Problem Cyfiawnder’ yng Nghymru.
Ìý