Ymhlith pryderon mawr eraill newid hinsawdd mae llai o fynediad at wasanaethau iechyd a gofal, cynnydd yn lledaeniad clefydau heintus, a lefelau uwch o salwch corfforol.聽
Wedi'i gynnal yn 2021/22, cyfwelodd yr arolwg 芒 2,269 o drigolion ledled Cymru i gasglu barn ar newid hinsawdd ac iechyd.
Mae canfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys:聽
鈥⒙犅 聽Roedd 82 y cant o bobl yn weddol bryderus neu'n bryderus iawn am newid hinsawdd聽
鈥⒙犅 聽Mae 61 y cant o'r farn bod newid hinsawdd eisoes yn cael effaith yng Nghymru, gan gynnwys:
-聽聽 聽Tywydd eithafol
-聽聽 聽Llifogydd
-聽聽 聽Erydu arfordirol聽
鈥⒙犅 聽Roedd llawer o bobl yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn ailgylchu (88 y cant) ond roedd llai yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithredoedd eraill sy'n ystyriol o'r hinsawdd fel lleihau'r defnydd o ynni gartref (44 y cant) neu geisio prynu cynnyrch lleol (38 y cant).聽
鈥⒙犅 聽Byddai llawer yn ystyried gwneud mwy o weithredoedd sy'n ystyriol o'r hinsawdd yn y dyfodol, gan gynnwys:
-聽聽 聽byddai 59 y cant yn defnyddio brandiau/cwmn茂au sy'n gwarchod yr amgylchedd (roedd 21 y cant arall bob amser yn gwneud hyn beth bynnag)
-聽聽 聽byddai 54 y cant yn osgoi defnyddio nwyddau/cynnyrch 芒 phecynnu diangen (roedd 33 y cant arall bob amser yn gwneud hyn beth bynnag)
-聽聽 聽byddai 53 y cant yn defnyddio ffynonellau ynni gwyrdd i bweru eu cartref (roedd 20 y cant arall bob amser yn gwneud hyn beth bynnag). Fodd bynnag, roedd rhai opsiynau sy'n ystyriol o'r amgylchedd nad oeddent mor boblogaidd. Er enghraifft, ni fyddai 41 y cant yn barod i osgoi cig neu gynnyrch llaeth neu fwyta llai ohonynt.
鈥⒙犅 聽Roedd rhai o'r ysgogwyr pwysicaf a nodwyd ar gyfer annog camau sy'n ystyriol o'r amgylchedd fel a ganlyn: gwybod y byddai camau gweithredu cadarnhaol yn helpu cenedlaethau'r dyfodol, gweld busnesau mawr yn gweithredu a gwybod y byddai ymddygiad sy'n ystyriol o'r hinsawdd yn gwella iechyd.聽
Cynorthwyodd Natasha Judd, Swyddog Cefnogi Prosiect Ymchwil yn Uned Cydweithredu Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol 亚洲色吧 gyda鈥檙 ymchwil a dywedodd,
鈥淢ae deall canfyddiadau鈥檙 cyhoedd o newid hinsawdd yn hollbwysig am sawl rheswm. Mae canfyddiadau鈥檙 arolwg hwn yn gam pwysig tuag at gyd-greu dulliau effeithiol a derbyniol o ymdrin 芒鈥檙 newid yn yr hinsawdd sy鈥檔 helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd, targedu negeseuon a gwybodaeth allweddol, a sefydlu atebion hirdymor ledled Cymru a fydd yn parhau i gael eu cefnogi, ar draws cenedlaethau lluosog.鈥
Meddai Sara Wood, ymchwilydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru,
鈥淒atgelodd yr arolwg fod newid hinsawdd yn bryder gwirioneddol i bobl yng Nghymru a bod y rhan fwyaf yn awyddus i gymryd rhan mewn camau gweithredu cadarnhaol i leihau ei effeithiau, os rhoddir y cymhelliant cywir iddynt.
鈥淕all penderfyniadau polisi hefyd fynd yn bell i fynd i'r afael 芒 hyn, gyda'r rhai poblogaidd yn cynnwys mynediad rhatach a mwy at ynni adnewyddadwy, gwella trafnidiaeth gyhoeddus a chyfreithiau i leihau'r defnydd o ddeunydd pacio plastig. Ond roedd pobl yn llai brwd ynghylch polis茂au sy'n cynyddu prisiau tanwydd i geir, darparu mynediad rhatach a mwy at ynni niwclear, neu leihau trethi i gwmn茂au sy'n gwarchod yr amgylchedd.鈥
Meddai'r Athro Karen Hughes, Iechyd Cyhoeddus Cymru,
鈥淩oedd bron un o bob pedwar o bobl yn credu na allent gael unrhyw ddylanwad personol ar gyfyngu ar newid hinsawdd, ond mae camau gweithredu unigol i gyd yn cyfrif. Mae llawer o ffyrdd y gall pobl wneud newidiadau i'w bywydau er mwyn diogelu'r blaned, fel lleihau'r defnydd o geir a theithio awyr, bwyta bwydydd lleol a thymhorol, prynu nwyddau ail law neu drwsio eitemau yn hytrach na phrynu'n newydd, ac osgoi prynu cynnyrch 芒 gwastraff diangen.鈥 聽
Cafodd 鈥楴ewid yn yr Hinsawdd ac Iechyd yng Nghymru: Barn y cyhoedd鈥 ei gynnal ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.