Eleni, mewn cynllun peilot wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd tri myfyriwr ar eu blwyddyn gyntaf sy鈥檔 astudio鈥檙 rhaglen radd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael y cyfle i astudio cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant law yn llaw 芒鈥檜 cwrs.
Mae鈥檙 cydweithio ochr-yn-ochr yma yn ymateb i鈥檙 galw cynyddol am staff dwyieithog ym maes gofal ac addysg plant ifanc, a鈥檙 her o recriwtio unigolion sy鈥檔 siarad Cymraeg a gyda鈥檙 cymhwysterau angenrheidiol.
鈥Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio fel hyn gyda鈥檙 Mudiad, sydd wedi gwneud cymaint dros y blynyddoedd i gynnal addysg a gofal Gymraegi鈥檔 plant ifancaf. Fel hyn, bydd ein myfyrwyr yn gadael y brifysgol yn meddu ar radd a chymhwyster proffesiynol, ac o鈥檙 herwydd, byddant yn hynod gyflogadwy yn y gweithlu plant cyfrwng Cymraeg, sy鈥檔 dda iddyn nhw ac i鈥檙 sector,鈥 esbonia Rhian Tomos, darlithydd mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn Ysgol Gwyddorau Addysg Prifysgol 亚洲色吧.
Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn lleoliadau fel rhan o鈥檙 hyfforddiant, gan feddu ar brofiad ymarferol mewn Cylch Meithrin neu Feithrinfa Ddydd, a dyfnhau eu dealltwriaeth a鈥檜 gwybodaeth o ddatblygiad ac anghenion plant.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, 鈥Ry鈥檔 ni鈥檔 falch iawn o鈥檙 cyfle newydd hwn i weithio ochr yn ochr 芒 Phrifysgol 亚洲色吧. Mae ansawdd a safon ein Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Cam wrth Gam yn gyson uchel gydag adroddiadau gwych gwirwyr allanol CBAC a City and Guilds yn adlewryrchu proffesiynoldeb ein haseswyr wrth gefnogi ein dysgwyr, a safon eu gwaith.鈥
鈥Drwy鈥檙 cynllun hwn 芒 Phrifysgol 亚洲色吧 byddwn ni yn medru cynnig mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ennill eu cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Bydd hyn o fudd i鈥檔 Cylchoedd Meithrin ni a鈥檔 Meithrinfeydd Dydd, ac felly yn y pendraw yn cefnogi pob plentyn bach yn ein cymunedau鈥.
Yn 么l yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg a Chenhadaeth Ddinesig, 鈥Mae鈥檙 datblygiad hwn yn dyst i ymrwymiad y Brifysgol i gyfoethogi profiadau addysgol ein myfyrwyr. Drwy gynllun o鈥檙 fath, caiff myfyrwyr y cyfle i ehangu eu dealltwriaeth a chymhwyso ar gyfer y byd gwaith, gan gyfrannu at dwf a pharhad y Gymraeg ymysg plant.鈥