Yn 么la gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Sleep, mae oedolion sy'n cyfyngu ar gwsg o ddwy awr neu fwy bob nos yn fwy tebygol o ddioddef salwch anadlol fel y ffliw ac annwyd, ond dim ond pan f么nt yn cysgu鈥檔 wael. 听Roedd oedolion a ddywedodd fod ansawdd eu cwsg yn dda yn cael eu hamddiffyn rhag salwch anadlol hyd yn oed pan oeddent yn cysgu llai.
Cyfrannodd Dr Sam Oliver a Dr Ross Roberts, Prifysgol 亚洲色吧 at yr ymchwil, dan arweiniad cyn-gydweithiwr, yr Athro Neil Walsh, sydd bellach ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl.
Eglurodd Sam, 鈥淩oedd y canfyddiadau yn syndod; gan ddangos am y tro cyntaf bod i ansawdd cwsg ran bwysig yn y risg o haint. 听Yn wir, fe wnaethom ni ddangos bod cwsg o ansawdd da yn amddiffyn rhag y risg uwch o haint pan nad ydym yn cael digon o gwsg鈥.听
听
听
Patrymau deffro yn y fyddin
Er mwyn dadansoddi cwsg cyfyngedig, dilynodd y t卯m recriwtiaid milwrol newydd, gan olrhain eu patrymau cysgu a'u hiechyd yn ystod yr wythnosau cyn ac yn ystod hyfforddiant sylfaenol, pan fydd recriwtiaid yn dilyn amseroedd 'cysgu' a 'deffro' llym.
Cofnododd dros fil o recriwtiaid y Fyddin hyd ac ansawdd eu cwsg yn ystod bywyd sifil ac ar ddechrau a diwedd 12 wythnos o hyfforddiant. Cafodd heintiau anadlol eu diagnosio gan feddyg yn ystod yr hyfforddiant.
Ar gyfartaledd, roedd recriwtiaid yn cysgu dwy awr yn llai yn ystod hyfforddiant milwrol na bywyd sifil. Er gwaethaf hyn, roedd dros hanner y rhai 芒 'chyfyngiad cwsg' o'r farn bod eu cwsg o ansawdd da.
Roedd recriwtiaid a gysgai am ddwy awr yn llai nag oedd yn arferol iddynt yn ystod yr hyfforddiant deirgwaith yn fwy tebygol o ddioddef haint anadlol. Roedd y canfyddiad hwn yn parhau鈥檔 wir ar 么l ystyried ffactorau sy'n dylanwadu ar achosion o heintiau anadlol, fel y tymhorau ac ysmygu.
听
听
Byw heb fawr o gwsg
O graffu鈥檔 fanylach ar y data gwelwyd canfyddiad trawiadol - roedd haint anadlol ond yn cynyddu mewn recriwtiaid a ddywedodd eu bod yn cysgu llai ond bod ansawdd eu cwsg hefyd yn wael. Roedd ansawdd cwsg da yn diogelu rhag haint anadlol pan roedd cyfyngiad ar gwsg.
Ychwanegodd Ross, 鈥淓r i鈥檙 ymchwil gael ei gynnal gyda recriwtiaid milwrol gwrywaidd a benywaidd, mae gan y canfyddiadau berthnasedd ehangach gan fod llawer o bobl wedi dewis neu鈥檔 canfod eu bod yn cysgu llai na鈥檙 nifer o oriau a argymhellir, oherwydd gwaith hwyr y nos neu ben bore ac ymrwymiadau teuluol.鈥
听