ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Gweld yr Amserlen Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yw prif noddwr Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eleni.

Ymunwch â ni yn y Dôm Gwyddoniaeth a Thechnoleg bob dydd am 2yp i fwynhau sgyrsiau hynod ddiddorol gan Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, sy’n ymchwilio i bynciau fel gofal iechyd cynaliadwy, dathlu menywod dylanwadol mewn gwyddoniaeth, a datblygiadau mewn monitro firysau.

Bydd gan y Brifysgol hefyd dri chwt pren yn y pentref ei hun, yn cynnwys Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a'r Ysgol Gwyddorau Iechyd; yr Ysgol Seicoleg, Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer a'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg. Bydd stondin pob Ysgol yn cynnal amserlen hwyliog o weithgareddau dyddiol.

Amserlen Babell Theatr ÑÇÖÞÉ«°É

Dydd Sadwrn 05/08/2023

Mae Canolfan Celfyddydau a Diwylliant Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ynghyd â'r rhaglen gelfyddydol allgymorth a chyfranogol, BLAS, yn dod â’r Caffi Babis i'r Eisteddfod. ÌýYmunwch â Siwan Llynor ac Angharad Harrop mewn sesiwn artistig, greadigol a hwyliog sy’n addas i fabanod hyd at 24 mis.


Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael. ÌýI sicrhau lle, cofrestrwch naill ai drwy e-bostio m.huws@bangor.ac.uk neu ar stondin Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É hanner awr cyn y sesiwn

Dewch i ymuno mewn sesiwn ddrama hwyliog i gael blas ar BLAS - gweithdy drama wythnosol i bobl ifanc yn Pontio, Canolfannau Celfyddydau a Diwylliant Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Ìý

Addas i blant 7 i 10 oed.

Dydd Sul 06/08/2023

Mae Canolfan Celfyddydau a Diwylliant Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ynghyd â'r rhaglen gelfyddydol allgymorth a chyfranogol, BLAS, yn dod â’r Caffi Babis i'r Eisteddfod. ÌýYmunwch â Siwan Llynor ac Angharad Harrop mewn sesiwn artistig, greadigol a hwyliog sy’n addas i fabanod hyd at 24 mis.

Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael. ÌýI sicrhau lle, cofrestrwch naill ai drwy e-bostio m.huws@bangor.ac.uk neu ar stondin Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É hanner awr cyn y sesiwn

Cywaith rhwng Clwb Ifor Bach a’r Urdd sy’n annog merched i gyfansoddi a pherfformio. ÌýYn sgil y project mae nifer o gerddorion ifanc wedi mwynhau llwyddiant trwy ddechrau bandiau neu berfformio fel unigolion.
Ymunwch â ni i ddathlu 2 artist a gododd o Ferched yn Gwneud Miwsig, Alis Tomos a Nel Thomas. Byddant yn perfformio caneuon gwreiddiol syfrdanol mewn set o hanner awr.

Yr Athro Lucy Huskinson, Dr Joshua Andrews a Dr Gareth Evans-Jones sy’n cynnal lansiad y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol yng Nghymru. Bydd cynrychiolwyr o wahanol sefydliadau ffydd yn ymuno â nhw i drafod gwaith pwysig a chyffrous y ganolfan.

Dewch draw i ddysgu mwy a chael sgwrs dros baned!

Dydd Llun 07/08/2023

Hanner awr fywiog i bob oed gyda'r cerddor Edwin Humphreys a chyfle i roi cynnig ar chwarae'r Iwcalili!Ìý
Catrin Hedd Jones o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a Mirain Llwyd Roberts o Gyngor Gwynedd yn sôn am y manteision sydd i gysylltu plant ac oedolion hÅ·n drwy gerddoriaeth a sgwrs. ÌýBydd Glenda Roberts a Mari Ireland yn ymuno hefyd i sôn am y profiadau gwych o ddysgu plant am ddementia.
Ìý

Beth ydyn ni’n ei ddychmygu pan rydyn ni’n dweud ‘gwrach’? Pwy yw’r gwrachod modern? Pa les sydd i ddewiniaeth yn y Gymru gyfoes? Dyma rai o’r cwestiynau y bydd y Priflenor Siân Melangell Dafydd a’r Dr Gareth Evans-Jones yn eu trafod mewn sesiwn ddiddorol, ysgogol ac, o bosib, swynol!

Arweinwyr y byd twristiaeth yng Nghymru yn ymuno â Sara Parry o Ysgol Fusnes ÑÇÖÞÉ«°É i drafod yr heriau a’r cyfleoedd y mae twristiaeth yn eu hwynebu i fod yn gynaliadwy. Beth yw eich barn chi?


Ymunwch â ni am gyfle i ofyn cwestiynau i’r arbenigwyr:Ìý
Einir Young, Cyfarwyddwr, Ecomuseum
Angela Jones, Rheolwr Partneriaethau, Parc Cenedlaethol Eryri
Robin Llywelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr, Portmeirion
Ceri Cunnington, Antur Stiniog

Ymunwch â ni am gyflwyniad ar Ddatganoli yng Nghymru a’r DU, a’r materion sy’n ymwneud â’r System Gyfiawnder.
Yn dilyn hyn, bydd trafodaeth banel a sesiwn holi ac ateb, cyfle i ofyn cwestiynau ar ddatganoli, annibyniaeth, a thrafod beth fyddai’r peth gorau i Gymru.

BARN, y cylchgrawn materion cyfoes, yn cynnal eu darlith Ìýflynyddol yn yr Eisteddfod gyda'r AS Liz Saville Roberts. Ar y cyd ag Adran y Gymraeg Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.

Dydd Mawrth 08/08/2023

Ymunwch â ni mewn sesiwn ryngweithiol sy’n defnyddio celfyddyd a cherddoriaeth i greu cysylltiad rhwng cymuned, cynaliadwyedd, a gwaith cymdeithasol. Byddwn yn gofyn i chi ystyried beth mae cymuned yn ei feddwl amdanoch a rhannu ein syniadau am y prif elfennau sy’n cynnal cymunedau.

Mae Cyfres Podlediadau Ysgol y Gwyddorau Addysgol yn gofyn y cwestiwn: Sut bydd sefydlu Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn effeithio ar iechyd pobl Gogledd Cymru? ÌýYmunwch â ni fel rhan o’r gynulleidfa ar gyfer sesiwn holi ac ateb mewn recordiad byw o bodlediad olaf y gyfres.Ìý
Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cadeirydd: ÌýDr Nia Jones, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Gyda:
Ffion Johnstone, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dr Berwyn Owen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Fferyllydd Cymunedol
Dr Nia Hughes Gofal Sylfaenol, Y Gorllewin
Dr Robin Parry, Meddyg Teulu
Siôn O'Brien - darpar feddyg, y bumed blwyddyn

Ymunwch â ni am damaid o fwyd a theisen, cyfle i sgwrsio â’r staff a’r myfyrwyr presennol. Cewch weld efelychiadau byw sy'n arddangos dulliau dysgu'r Ysgol.

Gyda: Pennaeth Gweithredol Mike Larvin, Dr Nia Jones, a Myfyrwyr Meddygol presennol

Trafodaeth banel dan gadeiryddiaeth Gerwyn Wiliams gyda’r nofelydd a’r myfyriwr Siân Llywelyn, goruchwyliwr ymchwil Jerry Hunter, a’r golygydd creadigol Nia Roberts.

Eisiau dilyn gyrfa mewn ffilm a theledu? Dysgwch gan y gorau o ddiwydiant sgrin Cymru!

Dewch i ymuno â gweithdy difyr a gyflwynir gan griwiau teledu proffesiynol ynghyd ag actorion Rownd a Rownd, artist colur a throellwyr wrth inni lansio Academi Sgrin Cymru.
Cywaith yw’r academi newydd hon rhwng Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, Ysgol Ffilm a Theledu Prifysgol De Cymru, a Chynghrair Sgrin Cymru mewn partneriaeth yn y Gogledd â Stiwdio Aria.

Dydd Mercher 09/08/2023

Ymunwch â’r Athro Oliver Turnbull i lansio ei lyfr newydd unigryw o ddwdls Cymraeg. Yn y sesiwn, bydd Oliver yn cyflwyno rhai o’r dwdls a fu’n help iddo ar ei daith iaith. Ìý

Cyfle i brynu os dymunwch!

Ymunwch â'r hanesydd lleol Gari Wyn sy’n rhoi cipolwg difyr ar hanes sefydlu Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Yna bydd cyfle i wylio rhai o’r fideos newydd a gaiff eu rhyddhau yn yr Hydref eleni i ddatgelu hanes y Brifysgol ym Mangor.
Cyflwynir gan:ÌýAndrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É

Mae Aduniad Cyn-fyfyrwyr ÑÇÖÞÉ«°É yn ei ôl, ac mae llawer i ddal i fyny arno. ÌýCewch glywed am ddatblygiadau'r Brifysgol dros y 2 flynedd ddiwethaf, a chwrdd â'r cyn-fyfyrwyr am luniaeth ysgafn. Ìý
Cyflwynwyd gan Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, Andrew Edwards a Llywydd UMCB, Celt John.
Perfformiad yn dilyn gan Aelwyd JMJ.

Dydd Iau 10/08/2023

Ymunwch â Dr Gareth Evans-Jones ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod yn ddadl fywiog rhwng panel o ymarferwyr a chyflwynwyr creadigol. Yn trafod celfyddydau queer a hunaniaeth Gymreig gydag Osian Gwynn, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio ac Awduron a Beirdd, Leo Drayton, a Llio Maddocks.

Mae’r proffesiwn addysg yn wynebu nifer o heriau ar hyn o bryd. Bydd ein panel yn trafod yr heriau, yn ogystal â’r cyfleoedd posibl mewn cyd-destun lleol a chenedlaethol. Byddwn yn trafod recriwtio, y Gymraeg, pynciau STEM, y Cwricwlwm i Gymru ynghyd â chyfleoedd a heriau eraill sy’n wynebu’r byd addysg.

Dewch i drafod gyda’r panel sy’n cynnwys:
Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionydd
Alun Williams, Athro Newydd Gymhwyso ac aelod o'r band poblogaidd Bwncath
Guto Wyn, Pennaeth Ysgol Glan y Môr, Pwllheli

Ymunwch â Rhian Hodges o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É sy’n trafod sut y gall cartwnau, recordiadau a deunyddiau dysgu ar-lein eich helpu chi astudio Cymdeithaseg trwy gyfrwng y Gymraeg. ÌýArddangos adnoddau digidol Cymdeithaseg cyfrwng Cymraeg o’r gyfres PAAC, sy’n gydwaith arall gyda’r Cartwnydd Huw Aaron. Mi welwch chi pam y dyfarnwyd Gwobr Adnoddau Cyfrwng Cymraeg Ardderchog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2023 i’r casgliad hwn.

Cyfle gwych i glywed darlleniad o sioe lwyfan lwyddiannus Creigiau Geirwon gan Gwmni Pendraw. Sioe sy'n datgelu hanes coll tywyswyr mynydd cynnar Eryri. ÌýBydd Sesiwn Holi ac Ateb yn dilyn yng nghwmni’r cynhyrchydd, yr awdur a chyfarwyddwr y sioe - Wyn Bowen Harries ac Osian Gwynn, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio.
Cyfle gwych i ddysgu sut mae sioe o fath o ffilm yn dod yn fyw!

Gyda hunaniaeth Gymreig yn bwnc trafod amlwg yn ddiweddar, ceir cyfle i drafod yr opera gymunedol gyffrous hon o Faesgeirchen, ÑÇÖÞÉ«°É gyda’r awdur, cyfansoddwr, perfformwyr a’r hwyluswyr, gan hwyrach ddod o hyd i fwy na thrysor!Ìý

Dydd Gwener 11/08/2023

Ymunwch â ni wrth i’r panel drafod ffyrdd o gynnal a chryfhau llesiant yn ein cymunedau. Yn y cydweithio rhwng y Brifysgol a’r partneriaid i ddatblygu’r economi lleol, yr amgylchedd, diwylliant a rhwydweithiau cymdeithasol, beth yw’r cyfleoedd a’r heriau?

Bydd y sesiwn hefyd yn lansio ffilm Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol.

Cadeirir gan: Yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor y Gymraeg, Y Genhadaeth Ddinesig a Phartneriaethau Strategol. Ìý

Gyda:
Pryderi ap Rishiart, M-SParc
Meleri Davies, Partneriaeth Ogwen
Nia Wyn Arfon, Menter Môn

Ìý

Ymunwch â ni i glywed Dr Edward Thomas Jones, Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É yn siarad â busnesau bwyd a diod lleol i ddysgu beth oedd yr ysgogiad iddynt gychwyn eu busnes, y gwersi a ddysgwyd, y diwydiant bwyd a diod, a sut maent yn defnyddio’r Gymraeg yn eu busnes ac i’w hyrwyddo.

Gyda:
Steffan Huws, Poblado Coffi
Iorwerth Williams, Cwrw LlÅ·n
Huw Watkins, BIC Innovation

Meddwl dod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É? Wel, dewch i ddathlu'r Eisteddfod gyda ni mewn Prynhawn Prosecco!Ìý
Cyfle i sgwrsio a chlywed gan fyfyrwyr UMCB (Undeb Myfyrwyr ÑÇÖÞÉ«°É) heddiw dros wydraid o brosecco.
Gan gynnwys perfformiad gan Fand Pres gwych Llareggub... welwn ni chi yno!

Dydd Sadwrn 12/08/2023

A hanner can mlwyddiant sefydlu UMCB yn dynesu yn 2026, dyma gyfle i edrych yn ôl dros y degawdau mewn trafodaeth banel gyda rhai o’r cyn Lywyddion ac unigolion a fu’n chwarae rhan bwysig yn hanes UMCB.

Ymunwch â’r Swyddogion Ymchwil Dr Ianto Gruffydd a Dr Florian Breit a hwythau’n trafod y berthynas rhwng agweddau ymwybodol ac diarwybod siaradwyr tuag at y Gymraeg a’r hyn y mae hynny’n ei ddweud wrthym am y tebygolrwydd y bydd agweddau’n newid.
Bydd y cyflwyniad yn cymharu’r Gymraeg ag ieithoedd rhanbarthol/lleiafrifol eraill Ewrop gan ddefnyddio cynllun astudio newydd a ddatblygwyd ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É - mae hon yn argoeli i fod yn drafodaeth ddifyr!