Ìý
Bydd digwyddiad olaf ein partneriaeth 3 blynedd yn dod â phanelwyr a phrif siaradwyr ynghyd i drafod yr heriau a’r cyfleoedd ehangach i’r rhanbarth. Byddwn yn ystyried sut y gallwn sicrhau lles y cymunedau, a chynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol-ddiwylliannol. Byddwn hefyd yn archwilio’r rôl y gall gogledd Cymru ei chwarae nid yn unig i’r Cymry, ond ar lwyfan y Deyrnas Unedig hefyd ac yn fyd-eang.
Fel penllanw’r bartneriaeth, bydd y digwyddiad yn cydblethu â themâu o’r pum digwyddiad blaenorol, a fu’n archwilio amryw o bynciau sy’n berthnasol i gymunedau’r gogledd (economeg iechyd, datblygu twristiaeth gynaliadwy, cysylltiadau Cymru ac Iwerddon, y seilwaith ynni a pherchnogaeth gymunedol). Byddwn yn adfyfyrio ynglŷn â rôl pwrpas a gwerth cymdeithasol yn y sector addysg uwch ac addysg bellach, a’r rôl y gall prifysgolion, fel sefydliadau angori, ei chwarae i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cyffredin.
Caiff y digwyddiad ei gadeirio gan yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ac yn ymuno ag ef, bydd:
- Dr Edward Thomas Jones – Uwch Ddarlithydd mewn Economeg, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
- Meleri Davies – Prif Swyddog, Partneriaeth Ogwen
- Sarah Schofield – Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau, Adra
- Nia Jones – Cyfarwyddwr Gweithredol, Cwmni Frân Wen
- Dylan Williams – Prif Weithredwr, Cyngor Sir Ynys Môn