The significant role of SMEs in the UK economy
Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithas
Ystyrir busnesau bach a chanolig (BBaCh) fel asgwrn cefn economi’r Deyrnas Unedig ac maent yn chwarae rhan hanfodol wrth wella cyflogaeth a thwf economaidd yn y Deyrnas Unedig. Roedd BBaCh yn cyfrif am 99.9% o’r holl fusnesau yn y Deyrnas Unedig ar ddechrau 2021.
Ystyrir bod pandemig Covid-19 wedi bod yn rhwystr sylweddol i fusnesau bach a chanolig. Fodd bynnag, maent yn bwrw ymlaen i geisio tyfu er mwyn llwyddo yn y dyfodol er gwaethaf rhwystrau’r pandemig. Byddwn yn cyflwyno ein hymchwil ar effaith rhyngwladoli ac arloesi agored ar berfformiad busnesau bach a chanolig.
Cynlluniwyd y digwyddiad ar gyfer myfyrwyr neu raddedigion y brifysgol i'w helpu i ddeall pwysigrwydd astudio ac ymchwilio i fentrau bach a chanolig a'r heriau y maent yn eu hwynebu wrth weithredu yn y farchnad ddomestig a thramor. Bydd yr arbenigwyr mewn busnes a rheolaeth yn cyflwyno sut orau y gall cwmnïau ddefnyddio arloesedd agored i ehangu'n rhyngwladol a manteisio ar eu hadnoddau a'u galluoedd i lwyddo mewn marchnadoedd tramor a chael gwell perfformiad.
Bydd arloesi agored yn cael ei drafod fel ffactor allweddol a allai effeithio'n sylweddol ar oroesiad busnesau bach a chanolig. Bydd y mynychwyr yn cael cyfle i ofyn cwestiynau ac i gymryd rhan mewn trafodaeth.
Dr Mahshid Bagheri and Dr Siwan Mitchelmore - Aelodau o Ysgol Busnes Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
´Ü´Ç´Ç³¾:Ìýhttps://bangor-ac-uk.zoom.us/j/91627969503?pwd=a2RYSzMxM2VldUV1bmRqS21DN1Y0dz09
ID y Cyfarfod: 916 2796 9503
Cyfrinair: 828529