Imagining a brighter future for social care in Wales: what鈥檚 innovation have to do with it?
G诺yl y Gwyddorau Cymdeithas
Gweithdy rhyngweithiol yn y cnawd fydd y sesiwn tair awr hon yn archwilio barn pobl sy鈥檔 derbyn gofal cymdeithasol a'u gweledigaeth o ran dyfodol gofal cymdeithasol. Dewiswch fynychu'r digwyddiad sydd agosaf atoch gan y cynhelir yr un gweithdy yn y ddau leoliad. Ni fydd y naill weithdy na'r llall yn hybrid. Os bydd cyfraddau Covid yn codi i lefelau anniogel, bydd y gweithdai yn cael eu symud ar-lein. 聽
Mae鈥檙 digwyddiad hwn yn archwilio canfyddiadau project ymchwil, sy鈥檔 cael ei redeg ar y cyd gan Y Lab ym Mhrifysgol Caerdydd a鈥檙 People Powered Results Team yn Nesta. Roedd y project yn edrych ar y gefnogaeth i arloesi mewn gofal cymdeithasol.
Yn ystod y sesiwn byddwn yn: archwilio鈥檔 fyr ganfyddiadau鈥檙 ymchwil, mynd am dro drwy rai o鈥檙 allbynnau gweledol a gynhyrchwyd gan yr ymchwil, rhyngweithio 芒 straeon a barn pobl am yr hyn sydd angen ei newid, a mireinio鈥檙 10 Gweledigaeth ar gyfer Dyfodol Gofal Cymdeithasol yng Nghymru y mae cyfranogwyr yr ymchwil wedi ein hysbrydoli i鈥檞 llunio.聽
Gwyddom nad yw ein systemau gofal cymdeithasol yn gweithio, ond beth allwn ni ei wneud i newid hynny a chreu Cymru iachach? Os ydych chi'n angerddol am ofal cymdeithasol - dewch i rannu, rhwydweithio a chyfnewid er mwyn cael dweud eich dweud am yr hyn a ddylai ac a allai ddigwydd. Mae croeso i bawb - yn enwedig y rhai sydd ddim yn gwybod beth yw ystyr y gair 'arloesi'. Mae鈥檙 digwyddiad hwn wedi鈥檌 dargedu at bobl sy鈥檔 gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y rheini sydd 芒 phrofiad o fyw gyda鈥檔 system gofal cymdeithasol, a鈥檙 teuluoedd (neu rwydweithiau cymorth) sy鈥檔 ei llywio.聽
Alexis Pal谩,鈥疌ysylltai Ymchwil yn Y Lab, Prifysgol Caerdydd
Stephanie Griffith, Rheolwr Arloesi Gofal Cymdeithasol Cymru