Gwahoddiad i Lansio Casgliad Ysgrifennu Newydd 'Perspective'
Hoffai myfyrwyr Meistr yn y Celfyddydau mewn Ysgrifennu Creadigol (Saesneg) Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É eich gwahodd i lansiad eu blodeugerdd 2025, Perspective. Ìý
Mae myfyrwyr o’r ardal gyfagos ac mor bell i ffwrdd ag Unol Daleithiau America wedi cydweithio i greu eu blodeugerdd eu hunain o farddoniaeth a rhyddiaith, gyda’i themâu’n cynnwys mytholeg, cyfiawnder cymdeithasol a’r amgylchedd. Ìý
Meddai’r myfyriwr Beth Flynn: 'Mae gweld fy ngwaith yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn wefreiddiol ac wedi fy helpu i adeiladu fy hyder fel awdur. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda fy nghydweithwyr yn fawr i ddod â’n sgiliau ynghyd a dysgu sut i greu a chyhoeddi casgliad llenyddol.'
Zoë Skoulding, Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol, fydd yn cyflwyno’r digwyddiad a bydd y myfyrwyr yn darllen o’u blodeugerdd. Ìý
Dywed Zoë: 'Rwy'n falch iawn o gefnogi ein myfyrwyr yn y project hwn, a gweld yr amrywiaeth o waith y maent wedi'i gynhyrchu. Mae'r math hwn o gydweithio yn rhywbeth yr ydym yn ei annog yn rheolaidd ar yr MA ac mae'n gyffrous eu gweld yn dod â'u holl syniadau ynghyd.'
Ìý
Ìý