ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Fel cymdogion agos sy’n rhannu treftadaeth, hanes cyffredin ac angerdd tebyg dros chwaraeon hyd yn oed, mae’r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon wedi’i seilio nid yn unig ar ddealltwriaeth ddiwylliannol gref, ond ar gysylltiadau economaidd a masnachu, gan ganolbwyntio’n sylweddol ar allforio, buddsoddi a thwristiaeth.

Mae’n berthynas gwbl fodern hefyd. Dwy wlad sy’n rhannu gwerthoedd a nodau mewn amrywiaeth eang o feysydd polisi. Cenhedloedd sydd â’u golygon ar y byd.

Ar ôl Brexit, mae Cymru ac Iwerddon yn gobeithio datblygu’r ‘berthynas agosaf a dyfnaf bosibl’. Ond sut beth fydd hyn a beth fydd yn ei olygu i wleidyddiaeth ac economi Cymru, yn enwedig yn y Gogledd, rhanbarth sydd eisoes â chysylltiadau cryf â Dulyn?

Mae’r Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021-25 yn cyfeirio at lawer o feysydd lle gellid cydweithio: polisi ac ymgysylltu, hinsawdd a chynaliadwyedd, masnach a thwristiaeth, addysg ac ymchwil, yn ogystal ag adferiad gwyrdd ar ôl Covid-19 ar lefel ranbarthol yng Nghymru drwy Fargen Ranbarthol Gogledd Cymru, a’r Gogledd fel rhan o ranbarth ehangach y Northern Powerhouse.

Ond sut ddylai cydweithio fel hyn edrych o’r naill ochr i Fôr Iwerddon i’r llall? Sut gall hyrwyddo ymwybyddiaeth a gwybodaeth am hanes a threftadaeth gyffredin y cenhedloedd, ac annog arloesedd, cyfleoedd busnes a datblygu cynaliadwy, cysyniad mae’r ddwy lywodraeth wedi’u harwain ar lwyfan y byd drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a hyrwyddo Nodau Datblygu Cynaliadwy? Beth yw’r cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau cydweithredol agosach drwy’r gwyddorau bywyd ac ynni morol? Sut y gall helpu i ddatblygu’r ‘Cilgant Arloesedd’ rhwng Iwerddon, Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, fel yr amlinellir yn Strategaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É 2030?

Ymunwch â ni am drafodaeth banel gyffrous, a gyflwynir mewn partneriaeth â Phrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, wrth i ni archwilio cyflwr cysylltiadau Cymru-Iwerddon a pha drywydd y dylent ei ddilyn o hyn allan.

Agenda:

  • 5.30yp Cyrraedd a lluniaeth
  • 6.00yp Croeso
  • 6.10yp Cyflwyniad gan Yr Athro John Parkinson, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
  • 6.20yp Trafodaeth Banel
  • 7.00yp Sesiwn Holi ac Ateb gyda’r Gynulleidfa
  • 7.30yp Derbyniad diodydd
  • 8.30yp Gorffen