ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:
A selection of graphics representing various landmarks in ÑÇÖÞÉ«°É including the clock, mountains, the main arts building, the memorial arch and the pier. Also a selection of graphic doodles in various colours.

Diwrnod Cymunedol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É Sadwrn 14 Hydref 2023

Ein Planed

logo yn dangos planed gwyn gyda chefndir pinc a phatrymau

Yn Neuadd Prichard-Jones y Brifysgol, dysgwch am yr holl ffyrdd y mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn darganfod pethau newydd a chyffrous am ein byd ac yn helpu i ddatrys heriau amgylcheddol.

  • Arddangosiadau a gwyddoniaeth ymarferol
  • Dewch wyneb-yn-wyneb â chreaduriaid morol lleol
  • Dewch i ddeall sut mae’r cefnfor yn gweithio
  • Dysgwch am esblygiad dynol gyda'n harddangosfa penglogau ac esgyrn croes
  • Archwiliwch fyd cyfrinachol anifeiliaid
  • Dysgwch am ein cydweithrediad â chwmnïau lleol ar becynnu bio-seiliedig a deunyddiau adeiladu
  • Creu collage botanegol gyda Gardd Fotaneg Treborth
  • Peintio wynebau - pa anifail fyddwch chi'n dewis bod?

Ein Hiechyd

Logo yn dangos calon wen gyda chefndir gwyrdd a phatrymau

Yn Neuadd Powis ac yn y Cwad Allanol, dewch i ddarganfod mwy am eich corff a’ch meddwl anhygoel a sut mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn gwneud ymchwil pwysig i iechyd a meddygaeth.

  • Dysgwch sut mae babanod yn datblygu a sut mae cyfathrebu trwy arddangosiad ymarferol gan ddefnyddio SimBaby a dysgwch rywfaint o Makaton
  • Dewch i wybod mwy am eich corff gyda Mannequin y Frest ac offer uwchsain sy’n gweithio â llaw sy'n canfod rhydwelïau a gwythiennau
  • Dywedwch wrthym sut rydych chi'n teimlo heddiw gyda gweithgaredd cardiau post
  • Rhowch gynnig ar amrywiaeth o heriau seicoleg gan gynnwys gogls prism a phrawf adwaith Batak
  • Dyluniwch ac adeiladwch gwch i ddysgu sut rydyn ni'n gwneud penderfyniadau gofal iechyd
  • Profwch eich ffitrwydd a'ch sgil gyda gweithgareddau chwaraeon yn y Cwad (gan ddibynnu ar y tywydd)

Ein Heconomi

Delwedd o bier ÑÇÖÞÉ«°É gyda phatrymau amryliw

Yn nerbynfa’r Prif Adeilad, dysgwch bopeth am fusnes a sut rydym yn gweithio gydag eraill i wella ffyniant yr ardal.

  • Cychwyn clyfar – canllaw ar wneud eich busnes yn llwyddiant gydag arbenigwyr o Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É
  • Cyngor ar sut i roi CV wych at ei gilydd
  • Bydd M-SParc, parc gwyddoniaeth cyntaf Cymru, yna i danio uchelgais, gan ardangos y cyfleon sydd ar gael i’ch cefnogi i fod yn arloeol a dechrau eich busnes eich hun yng ngogledd Cymru
  • Ewch ar daith dywys o amgylch ein Hystafell Fasnachu
  • Dewch i addurno cadw-mi-gei

Ein Diwylliant a Thechnoleg

ogo gyda siapiau mynyddoedd Eryri, cloc ÑÇÖÞÉ«°É a'r Porth Coffa gyda phatrymau amryliw

Yn Pontio, byddwn yn canolbwyntio ar bobl, celf, diwylliant a thechnoleg, gan gynnwys:

  • Dysgwch am effeithiau arbennig a thechnoleg sgrin werdd - dewch i weld lle gallwn fynd â chi a thynnwch lun o'r cyfansoddiad terfynol
  • Dewch i roi cynnig ar sylwebu ar gêm bêl-droed Cymru. Ydych chi'n adnabod y chwaraewyr? Oes gennych chi'r ystadegau tîm diweddaraf? Peidiwch â phoeni, bydd sylwebydd wrth law i'ch cynorthwyo.
  • Mwynhewch berfformiadau ar ein llwyfan cymunedol
  • Darlleniadau a sgyrsiau
  • Dysgwch am wahanol grefyddau'r byd trwy weithgareddau hwyliog
  • Adeiladwch Dŵr Eiffel gyda Marshmallows a Sbageti neu dewch i chwarae bingo amlieithog a dysgu mwy am ieithoedd
  • Rhowch gynnig ar ychydig o Galigraffeg Tsieineaidd, clymau Tsieineaidd a thorri papur gyda Sefydliad Confucius
  • Darganfyddwch am ein partneriaeth gyda Phrifysgol y Plant a rhowch gynnig ar wisgo cap a gŵn
  • Dysgwch sut mae technoleg ddigidol yn newid y byd o'ch cwmpas, o gyflymder band eang i synhwyro beth sy'n digwydd yn yr amgylchedd
  • Dysgwch sut rydym yn defnyddio technoleg i gefnogi ein defnydd o'r Gymraeg
  • Realiti Rhithwir ac arddangosiadau VR ac XR
  • Dewch i ymweld â’n 'digwyddiad bywyd carcharor' yn y Blwch Gwyn

Ein Hanes

Logo gydag amlinelliad o brif adeilad y brifysgol a phatrymau lliwgar

A wyddech chi mai ym 1884 y sefydlwydÌý Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É? Dysgwch fwy am ein hanes hynod ddiddorol a'r bobl sydd wedi gwneud y brifysgol yr hyn ydyw heddiw.

  • Bydd yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn agor eu drysau ac yn rhoi cyfle i weld rhai o’r llawysgrifau a’r llyfrau prin a sgwrsio â’r staff
  • Ewch ar daith dywys o amgylch adeilad Prif Adeilad y Celfyddydau a dysgu mwy am ein hanes
  • Ymlaciwch a gwyliwch ffilmiau am ein hanes a'n gwaith ymgysylltu dinesig
  • Dysgwch am ein rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr

Bwyd a diod

Cyllell a fforc a phatrymau amryliw

Bydd lluniaeth ysgafn am ddim ar gael yn Neuadd Prichard-Jones a Pontio, a bydd bwyd a diod hefyd ar gael i’w prynu yn ein mannau gwerthu bwyd, Teras a Cegin, yn y prif adeilad a Pontio.

Ìý

Mae’n bosib y gall digwyddiadau newid. Mae’r wybodaeth yn gywir ar hyn o bryd.