Cyflymu Gweithredu, Ysbrydoli Gyrfaoedd mewn Gwyddor M么r
Noson gyda Gwyddor M么r: Archwilio Cyfleoedd mewn Ymchwil, y Byd Academaidd, Cadwraeth a Diwydiant trwy Fewnwelediadau Merched yn y Maes
Mae dydd Mawrth 11 Chwefror yn Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, ac rydym yn dathlu cyfraniadau merched ym maes gwyddor m么r trwy ddigwyddiad cydweithredol a gynhelir gan The Wild Oysters Conwy Project a Chymdeithas Endeavour Prifysgol 亚洲色吧.
Nod y digwyddiad yw ysbrydoli a grymuso pobl ifanc, myfyrwyr, ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, a gweithwyr proffesiynol trwy arddangos llwybrau gyrfa amrywiol ar draws gwahanol sectorau a chyfnodau gyrfa ym maes gwyddor m么r. Bydd y digwyddiad yn cadw at thema Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2025, sef "Cyflymu Gweithredu," a bydd y siaradwyr yn rhannu sut maen nhw'n ysgogi cynnydd ac yn sicrhau effaith yn eu priod feysydd.
Dylai mynychwyr gael eu hysbrydoli a chael cynghorion ymarferol o nifer o ddisgyblaethau a chan bobl o wahanol gyfnodau yn eu gyrfa. Bydd y noson hefyd yn cynnwys trafodaeth am lwybrau gyrfa merched yn y diwydiant a bydd sesiwn rwydweithio i siaradwyr a chydweithwyr gael rhannu syniadau ac archwilio cyfleoedd ym maes gwyddor m么r.