ClicherComm: Newid hinsawdd, treftadaeth ddiwylliannol a chyfathrebu yng Ngogledd Cymru
Llefydd Newid Hinsawdd ('PloCC')
Giuseppe Forino,聽Darlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol, Ysgol Gwyddorau Naturiol, Prifysgol 亚洲色吧
Nod project Clicher oedd archwilio ffyrdd y mae'r cyhoedd, rhanddeiliaid a llunwyr polisi yn gweld treftadaeth ddiwylliannol (gan gynnwys y gwerth y maent yn ei roi ar ei chadwraeth) a'r bygythiad dirfodol y mae'r asedau diwylliannol hynny yn ei wynebu nawr o ran hinsawdd sy'n newid a'i bygythiadau cysylltiedig. Mae鈥檙 project wedi鈥檌 ariannu gan ymchwil trawsddisgyblaethol NERC ar gyfer Gwyddor Darganfod ac aeth i鈥檙 afael 芒鈥檙 cwestiwn ymchwil canlynol: Sut y gall gwerthfawrogi treftadaeth ddiwylliannol helpu鈥檙 cyhoedd i ddeall newid yn yr hinsawdd yn well? Ym mis Chwefror 2023, fe wnaethom gynnal dau weithdy ym Mhlas-y-Bwlch gyda chymunedau lleol, ymarferwyr, llunwyr polisi ac academyddion i archwilio canfyddiadau a gwerthoedd cymunedau lleol am dreftadaeth ddiwylliannol gogledd Cymru (h.y. adrodd straeon, profiadau byw, myfyrdodau trafodol), ac ystyriaethau ynghylch newid yn yr hinsawdd, a risg cysylltiedig. Yn y gweithdai hyn, trafodwyd gwahanol them芒u drwy rannu鈥檔 grwpiau a gafodd eu recordio. Rydym wedi cynnal dadansoddiad rhagarweiniol o ddata o recordiadau sain, ac wedi adfer y prif them芒u sy'n dod i'r amlwg. Cyflwynwyd y dadansoddiad hwn mewn digwyddiad cyhoeddus estyn allan gyda rhanddeiliaid a gynhaliwyd ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ym mis Mawrth 2023. Byddaf yn cyflwyno ac yn trafod y them芒u hyn, gan amlygu heriau a chyfleoedd ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.聽