Mae ‘140 o flynyddoedd o chwedlau ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É: Y Casgliadau Arthuraidd a Cheltaidd, Ysgolheictod a’r Gymuned' yn ddigwyddiad ar y cyd i’r brifysgol a’r gymuned yn y gyfres i nodi 140 o flynyddoedd ers sefydlu Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, a bydd yn digwydd yn Pontio PL2. Mae'r digwyddiad, a noddir gan Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, ac a drefnir gan Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd y Brifysgol, yn dathlu'r berthynas rhwng Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a chyfraniad llyfrau ac ysgolheictod Astudiaethau Arthuraidd a Cheltaidd at feithrin enw da rhyngwladol y brifysgol yn y meysydd hyn. Bydd y digwyddiad hefyd yn arddangos gwaith Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn y gymuned, yn enwedig o ran cynnal diddordeb yn y chwedlau yng Nghymru ac yng ngweddill y byd.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau byr am hanes y casgliadau, a chyfraniadau pobl leol at gyfoethogi'r casgliadau Cymraeg ac Arthuraidd yn benodol; bydd perfformiad gan Gillian Brownson, storïwr ac artist lleol, gyda disgyblion o ysgol gynradd leol a ddatblygwyd yn ystod arddangosfa gan Gronfa ÑÇÖÞÉ«°É a menter yr Is-ganghellor, 'Cymru, Cartref y Chwedlau'; paentiad byw o'r perfformiad gan yr arlunydd, ; cyflwyniad ar effaith ymchwil y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn y gymuned gan yr Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan; a chyflwyniad i hanes y Gymraeg ac Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É gan Dr Aled Llion Jones, cyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan a Phennaeth Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.