Digwyddiad estyn allan: Cysylltu cestyll a’r môr, pobl a’r wyddor
Mae’r Project Clicher yn broject a ariennir gan sy’n ymdrin â sut y gall treftadaeth ddiwylliannol (cestyll, pentrefi, llechi), a’r gwerth a roddwn arni, helpu i lywio dealltwriaeth well o’r hinsawdd sy’n newid a’r risg sy’n codi o ran lleoliad ein hasedau diwylliannol sydd ar neu’n agos at arfordir gogledd Cymru.
Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy rhyngweithiol ar 22 Mawrth. Dewch i gwrdd â phobl leol, ymarferwyr, llunwyr polisi ac academyddion i ddysgu mwy am ein tir a’n glannau arfordirol a threftadaeth. Byddwn yn rhannu canfyddiadau’r ddau weithdy a gynhaliwyd ym mis Chwefror, yn cynnal trafodaeth i ystyried sut y gall gwerthfawrogi’r dreftadaeth ddiwylliannol arwain at well dealltwriaeth o’r gwytnwch a’r gallu i addasu i’r newid yn yr hinsawdd, a cheisio cyd-greu pecyn cymorth ymarferol ar sut i ymgysylltu  gwahanol gymunedau gyda gwyddorau’r hinsawdd a'r bygythiad i dreftadaeth ddiwylliannol. Rydym yn defnyddio dull a ddatblygwyd yn lleol ac wedi’i seilio ar atebion i fynd i’r afael â’r her fyd-eang hon.
Cynhelir y digwyddiad ar 22 Mawrth yn Neuadd Reichel, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, a byddwn yn darparu lluniaeth a chinio bwffe!
Trefnir a chyflwynir y digwyddiad gan: Dr Giuseppe ForinoÌý(±Ê±õ), Dr Lynda Yorke (Co-I), Dr Gary Robinson (CydI) a Dr Martin Austin (Co-I).