Gwefr y Rhedwyr: Sut mae ymarfer ar gyfer marathon yn eich gwneud yn berson gwell
Darganfod y Meddwl Dynol: Cyfres Gweminar Seicoleg
Mae Adran Seicoleg 亚洲色吧 yn rhedeg modiwl i fyfyrwyr seicoleg sy'n eu dysgu nhw i redeg marathon! Er bod hynny o bosib yn ymddangos yn wallgof braidd, mae gallu cyflawni nod anodd hirdymor yn dibynnu mewn gwirionedd ar ffactorau yn y meddwl: grym ewyllys, cynllunio, goresgyn heriau anodd, meithrin gwytnwch, magu鈥檙 meddylfryd cywir. Bydd y sgwrs hon yn eich cyflwyno i'r modiwl a bydd hefyd yn dweud wrthych pam y byddwch yn dod yn berson gwell os byddwch yn ei gwblhau (a'r marathon, wrth gwrs)!
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd聽yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno 芒 thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu 芒 ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn 么l neu newid eich dewisiadau cydsyniad.聽
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae'r sesiwn weminar yn rhan o聽Gyfres Gweminarau Seicoleg ym Mangor.
Siaradwr
Yr Athro John Parkinson
Seicolegydd ymddygiadol yw John ac mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y rhyngwyneb rhwng gwybyddiaeth ac emosiwn, yn enwedig o ran hybu iechyd ac atal salwch. Mae ganddo ddiddordeb mewn sut mae signalau cymhellol yn cael eu cynhyrchu, sut maent yn rhyngweithio 芒 phrosesau gwybyddol parhaus a sut mae hyn yn effeithio ar ymddygiad. Mae integreiddio theori proses ddeuol ag ymagweddau cyfoes at ymddygiad (megis COM-B) o ddiddordeb arbennig iddo. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys y canlynol: dylanwad cyflyrau cymhellol ar brosesau gwybyddol megis sylw, cof a gwneud penderfyniadau; effaith cyflyrau emosiynol cadarnhaol ar wybyddiaeth; r么l a natur ymddygiadau a achosir gan ysgogiad (gan gynnwys cyffroad cymhellol a chwant mewn ymddygiadau caethiwus). John yw Cyfarwyddwr聽Canolfan Newid Ymddygiad Cymru聽ac mae鈥檔 cydweithio ag Uned Gwyddorau Ymddygiadol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae John yn aelod o'r gr诺p ymchwil聽Seicoleg Ymddygiadol, Seicoleg Iechyd a Seicoleg Glinigol聽a鈥檙 gr诺p ymchwil聽Niwrowyddoniaeth Gymdeithasol.