Dwy Iaith, Dwy Galon?
Darganfod y Meddwl Dynol: Cyfres Gweminar Seicoleg
Mae gwybod sut i siarad a deall mwy nag un iaith yn sg矛l anhygoel, ac yn gallu cael effaith bositif ar yr ymennydd. Ond, oeddech yn gwybod fod iaith hefyd yn gallu newid y ffordd 鈥榙a ni鈥檔 gweld y byd? Da ni鈥檔 gallu bod yn fwy emosiynol yn un iaith na鈥檙 llall, 鈥榙a ni鈥檔 gallu ymddwyn yn wahanol yn y ddwy iaith, a 鈥榙a ni鈥檔 fwy tebygol o goelio rhywbeth yn ein hiaith gyntaf. Mae meddwl am y gwahaniaethau hyn yn bwysig iawn yn y maes iechyd (e.e., wrth ddewis iaith sesiwn cwnsela) a鈥檙 maes cyfreithiol (e.e., wrth ddewis rheithgor (jury)).听听听
Ymunwch 芒 ni am drafodaeth ddifyr ar gymhlethdodau iaith, hunaniaeth a lles.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd聽yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno 芒 thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu 芒 ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn 么l neu newid eich dewisiadau cydsyniad.聽
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r sesiwn weminar yn rhan o聽Gyfres Gweminarau Seicoleg ym Mangor.
Siaradwr
Dr Awel Vaughan-Evans
Mae Awel yn Ddarllenydd mewn seicoleg yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, ac felly'n cyflawni nifer o ddyletswyddau addysgol a gweinyddol gwahanol. Mae hi鈥檔 drefnydd ar ddau fodiwl dulliau ymchwil, yn drefnydd ar fodiwl yn y drydedd flwyddyn sy鈥檔 ymdrin 芒鈥檙 pwnc cyd-ddisgyblaethol o Niwroestheteg, ac yn arwain ar fodiwlau traethawd hir seicoleg. Mae'r holl fodiwlau hyn yn cael eu cynnig yn Gymraeg a Saesneg.
Ar hyn o bryd, mae Awel yn goruchwylio nifer o brosiectau ymchwil israddedig sy'n ymwneud 芒'r pynciau eang o ddwyieithrwydd, defnydd iaith, a dysgu iaith.
Mae ymchwil Awel yn canolbwyntio ar ddwyieithrwydd. Yn benodol, mae ei hymchwil yn edrych ar sut all ieithoedd ryngweithio yn yr ymennydd, ac mae hi鈥檔 defnyddio nifer o ddulliau ymchwil niwrowyddonol (gan gynnwys tracio llygaid ac ERPs) i gyflawni hyn. Yn ogystal 芒 hyn, mae Awel wedi dechrau ymchwilio i sut y caiff gerddoriaeth a cherddi eu canfod.