Y prif gam sy鈥檔 angenrheidiol er mwyn brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd yw datgarboneiddio; mae鈥檔 rhaid i ni roi'r gorau i echdynnu ffynonellau ynni tanwydd ffosil o'r ddaear.聽 Ond er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni echdynnu adnoddau metel eraill o'r ddaear.
Bydd Graham Bird yn esbonio sut y gallwn reoli'r paradocs ymddangosiadol hwn yn ei ddarlith gyhoeddus gyntaf ers cael ei wneud yn Athro ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Cynhelir y ddarlith gyhoeddus yn Narlithfa Eric Sunderland, Prifysgol 亚洲色吧 am 6.00 o鈥檙 gloch, nos Fercher 24 Ionawr 2024.
Meddai Graham
鈥淢ae technolegau carbon isel, megis technoleg ynni adnewyddadwy a thechnoleg cerbydau trydan yn allweddol i ddatgarboneiddio.聽 Yn eironig, mae'r dechnoleg hon yn golygu bod rhaid i ni ddefnyddio nifer o adnoddau metel megis lithiwm, cobalt ac elfennau prin eraill, ac mae鈥檔 rhaid i ni echdynnu鈥檙 adnoddau hyn o'r ddaear.
Felly, er bod risg amgylcheddol bosib yn gysylltiedig 芒鈥檔 hymgais i chwilio am fetelau i ddarparu adnoddau ar gyfer technoleg garbon isel, mae ymchwil hefyd yn dangos y gellir rheoli鈥檙 effeithiau hyn mewn gweithiau mwyngloddio modern ac adfer y tiroedd cysylltiedig.聽 Rhaid i ni hefyd ystyried graddfa鈥檙 effeithiau sy'n gysylltiedig ag echdynnu mwynau a鈥檙 newid yn yr hinsawdd byd-eang.
Yn fy anerchiad, byddaf yn esbonio'r cynnydd yn y galw am fwynau i adnoddau a thechnoleg ynni isel, yn rhoi enghreifftiau o鈥檙 effeithiau amgylcheddol a allai ddeillio o鈥檙 ymgais, ond hefyd y cynnydd sydd wedi ei wneud o ran atal ac adfer effeithiau o'r fath.
Mae Graham Bird yn Ddirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol 亚洲色吧, yn ogystal 芒 Chyfarwyddwr Addysgu a Dysgu yng Ngholeg y Gwyddorau a Pheirianneg ac yn Ddirprwy Bennaeth yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol.
Mae鈥檔 ddaearyddwr ffisegol ac, yn fwy penodol, yn geocemegydd amgylcheddol. Mae ymchwil Graham ym maes geocemeg amgylcheddol yn gyffredinol, gyda diddordeb arbennig yn effaith mwyngloddio metel a meteleg yn y presennol a鈥檙 gorffennol ar yr amgylchedd ac iechyd dynol. Mae ei waith yn canolbwyntio ar y Deyrnas Unedig ond mae hefyd wedi cynnwys lleoliadau fel Bwlgaria, Canada, Indonesia, Kosovo a Romania. Mae ei ymchwil diweddar wedi canolbwyntio ar y prosesau y mae effeithiau amgylcheddol yn digwydd drwyddynt ac ar fodelu'r effaith fyd-eang.
Mae hon yn un o nifer o ddarlithyddiaethau athrawol y mae'r brifysgol wedi eu hailsefydlu. Cynhelir y ddarlith gyntaf yn Narlithfa Eric Sunderland ac mae鈥檔 rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
Mining our way out of the climate crisis: potential environmental risks associated with resourcing low carbon technology.
Bydd Graham Bird yn esbonio sut y gallwn reoli'r paradocs ymddangosiadol hwn yn ei ddarlith gyhoeddus gyntaf ers cael ei wneud yn Athro ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Cynhelir y ddarlith gyhoeddus yn Narlithfa Eric Sunderland, Prifysgol 亚洲色吧 am 6.00 o鈥檙 gloch, nos Fercher 24 Ionawr 2024.