Wythnos Groeso: Ysgol Feddygol Gogledd Cymru - Myfyrwyr 脭l-raddedig a Addysgir
Rhannwch y dudalen hon
Mae'r wybodaeth a ddarperir yma yn ymwneud 芒 myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y rhaglenni canlynol yn unig:
MSc Gwyddor Biofeddygol
MSc Bioleg Foleciwlaidd Feddygol gyda Geneteg
Dylai pob myfyriwr fod wedi derbyn y canllaw croeso trwy eu cyfeiriadau e-bost personol. Os ydych chi'n cael trafferth cyrchu'r canllaw trwy e-bost, mae hefyd ar gael trwy'r ddolen ar y dudalen hon.听
Mae'n hollbwysig cyfeirio at eich canllaw croeso a chwblhau'r holl dasgau cyn cyrraedd cyn i chi ddod ar y campws.听
Mae鈥檙 Wythnos Groeso yn llawn amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau sydd wedi鈥檜 cynllunio i鈥檆h helpu i ymgartrefu yn y brifysgol, gwneud ffrindiau newydd, ac ymgyfarwyddo 芒鈥檙 campws. Yn ystod yr wythnos hon, bydd yr ysgol yn cynnal digwyddiadau gorfodol sy'n benodol i'ch rhaglen. Mae'r digwyddiadau hyn wedi'u cynllunio i roi gwybodaeth hanfodol i chi, eich cyflwyno i aelodau'r gyfadran a chyfoedion, a rhoi dealltwriaeth ddyfnach i chi o'ch taith academaidd.
Byddwch yn ymwybodol bod yr amserlen yn debygol o newid ar fyr rybudd ac felly dylid eu gwirio'n rheolaidd am y wybodaeth diweddaraf.
C么d lliw eich amserlen
I wneud pethau'n haws, rydym wedi creu c么d lliw ar gyfer y digwyddiadau:
Mae Digwyddiadau Gorfodol聽(bloc coch) yn cynnwys gwybodaeth a gweithdrefnau hanfodol y bydd eu hangen arnoch i lywio eich taith academaidd.
Mae Digwyddiadau a Argymhellir聽(bloc melyn) yn cynnig cyfleoedd i gwrdd 芒 chyd-fyfyrwyr a staff y Brifysgol, neu i gael gwybodaeth a chymorth ychwanegol ar wella eich profiad myfyriwr.
Mae Digwyddiadau Cymdeithasol聽(gyda llun) yn ffordd berffaith o wneud ffrindiau, darganfod angerdd newydd, a chreu atgofion yn ystod eich wythnos gyntaf yn y Brifysgol.