Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r radd hon yn gyfuniad delfrydol o gerddoriaeth a drama gyda phwyslais cryf ar ymarfer. Fe’i cynlluniwyd i hyfforddi cerddorion a gwneuthurwyr drama mewn cymysgedd o sgiliau academaidd, creadigol ac ymarferol, i feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth eang ac arbenigol o ddarnau cerddorol a theatraidd, ac i ddatblygu myfyrwyr fel meddylwyr beirniadol annibynnol. Wrth astudio drama byddwch yn datblygu eich gwaith creadigol eich hun, yn arbrofi gyda dyfeisio gwaith perfformio o'r newydd ac yn archwilio ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, sgiliau cyfarwyddo, sgiliau hyfforddiant ar gyfer y cyfryngau a sgiliau actio. Byddwch hefyd yn cael eich annog i fentro y tu hwnt i agweddau artistig a deall sut mae cynhyrchwyr, rheolwyr marchnata a chyfarwyddwyr artistig yn gweithio o fewn y diwydiant ac archwilio ymarfer proffesiynol ar lefel leol a rhyngwladol.
Ym Mangor byddwch yn rhan o gymuned cerddoriaeth a pherfformio ffyniannus, a byddwch yn perfformio ac yn mynd i berfformiadau cerddorol a theatraidd yn Neuadd Powis, Theatr John Phillips a neuadd odidog Prichard-Jones. Bydd i chi gyfleusterau heb eu hail yn ein Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi, Pontio, lle ceir Theatr Stiwdio ar gyfer perfformio a chefnogaeth dechnegol gan weithwyr proffesiynol y diwydiant.
Yn Pontio hefyd ceir sinema a Theatr Bryn Terfel, sef theatr ac ynddi 450 o seddi, sy'n llwyfannu cynyrchiadau theatr, y ffilmiau diweddaraf a digwyddiadau cerddoriaeth o'r radd flaenaf yn rheolaidd. Byddwch hefyd yn elwa o gysylltiadau agos Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É â chwmnïau theatr a ffilm lleol a chenedlaethol, ac ymarferwyr cerddoriaeth a drama sy’n ymweld yn rheolaidd ac yn cynnig gweithdai a dosbarthiadau meistr.
Ìý
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Rhyddid creadigol y cwrs - cyfle i lunio’ch cwrs i adlewyrchu eich diddordebau a'ch cryfderau.
- Cyfleusterau rhagorol, gan gynnwys canolfan sydd â’r holl offer priodol gydag ystafelloedd golygu, yr offer diweddaraf ar gyfer projectau sy’n ymwneud â drama, a Chanolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio ar gyfer cynhyrchu theatr ac ymarfer sinematig.
- Dau adeilad Cerddoriaeth a Drama pwrpasol, dwy neuadd gyngerdd broffesiynol, ystafelloedd ymarfer ac ystafelloedd gwrthsain a phedair stiwdio electroacwstig o'r radd flaenaf.
- Cymuned glos â chefnogol - amgylcheddau addysgu cynhwysol a gofal bugeiliol rhagorol.
- Cysylltiadau rhagorol gyda’r diwydiant a’r gymuned.
- Cymuned sy'n creu cerddoriaeth a theatr: corau, cerddorfeydd, bandiau, ensembles myfyrwyr, cymdeithasau drama a theatr gerdd, cyfleoedd i berfformio a chydweithio ag ymarferwyr lleol a chenedlaethol.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Gofynion Mynediad
Mae angen medru darllen hen nodiant i wneud unrhyw un o'r cyrsiau Cerddoriaeth.ÌýMae pwyntiau o arholiadau safonau cerdd yn cael eu hystyried lle bo hynny'n briodol, er nad ydynt fel rheol yn cael eu cynnwys yn y cynnig.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý gradd B mewn Cerddoriaeth.Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cerddoriaeth **: MMM- DDMÌý(gan gynnwys uned sy'n dangos y gallu i ddarllen hen nodiant neu gweler**)
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cerddoriaeth**
- Access**:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir eu hystyried ar y cyd â gradd B mewn Cerddoriaeth Lefel A; neu deilyngdod yng Ngradd 5 Theori/Gradd 7 Ymarferol/ABRSM/Trinity/LCM/Rockschool; neu'r Fagloriaeth Ryngwladol Uwch mewn Cerddoriaeth.Ìý
SYLWCH: Efallai y gofynnir i ymgeiswyr Cerddoriaeth ddod am gyfweliad, ac/neu y byddant yn cael cynnig clyweliad dewisol, pe baent yn cyflawni’r gofynion mynediad eraill.
Mae angen medru darllen hen nodiant i wneud unrhyw un o'r cyrsiau Cerddoriaeth.ÌýMae pwyntiau o arholiadau safonau cerdd yn cael eu hystyried lle bo hynny'n briodol, er nad ydynt fel rheol yn cael eu cynnwys yn y cynnig.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý gradd B mewn Cerddoriaeth.Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cerddoriaeth **: DMM - DDMÌý(gan gynnwys uned sy'n dangos y gallu i ddarllen hen nodiant neu gweler**)
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cerddoriaeth**
- Access**:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir eu hystyried ar y cyd â gradd B mewn Cerddoriaeth Lefel A; neu deilyngdod yng Ngradd 5 Theori/Gradd 7 Ymarferol/ABRSM/Trinity/LCM/Rockschool; neu'r Fagloriaeth Ryngwladol Uwch mewn Cerddoriaeth.Ìý
SYLWCH: Efallai y gofynnir i ymgeiswyr Cerddoriaeth ddod am gyfweliad, ac/neu y byddant yn cael cynnig clyweliad dewisol, pe baent yn cyflawni’r gofynion mynediad eraill.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý