Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cwrs pedair blynedd gyda blwyddyn sylfaen integredig yw’r cwrs Ieithoedd Modern gyda Blwyddyn Sylfaen ac mae'n arwain at yr un cymhwyster â'r radd anrhydedd tair blynedd. Cynlluniwyd y cwrs yn benodol i fyfyrwyr sydd eisiau astudio ar lefel gradd ond nad ydynt yn bodloni'r gofynion mynediad neu ddim yn meddu ar gymwysterau traddodiadol.
Cynlluniwyd y cwrs i fyfyrwyr sydd am feithrin cryn arbenigedd mewn tair iaith ac eithrio eu mamiaith. Mae ar gyfer y rhai y mae’n well ganddynt ganolbwyntio’n llwyr ar ddysgu ieithoedd heb ddim llên.
Mae'r flwyddyn sylfaen (blwyddyn 0) yn gyfle i chi ehangu a chryfhau eich hyder, sgiliau a gwybodaeth - gan sicrhau eich bod yn barod ac yn gymwys i symud ymlaen i Flwyddyn 1 y radd israddedig.
Ar y cwrs Ieithoedd Modern gyda Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn astudio pob un o'r tair iaith a astudir am weddill y cwrs, gan ganolbwyntio ar ddysgu iaith yn ymarferol a datblygu. Byddwch yn treulio tri semester mewn prifysgolion y tu allan i'r Deyrnas Unedig, pob un mewn gwlad lle siaredir un o’r ieithoedd a astudir.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Ar ddechrau'r cyrsiau rydym yn cynnig ffrydiau dosbarth ar wahân i ymgeiswyr sydd â gwybodaeth uwch a dechreuwyr/rhai sydd bron yn ddechreuwyr a bydd y tair iaith yn cael eu dwyn i lefel anrhydedd lawn erbyn diwedd blwyddyn 5.
- Fe wnaethon ni arloesi â’r rhaglen Gradd Tair Iaith a pharhau i gynnig profiad dysgu o'r radd flaenaf.
- Mae ein maint yn golygu ein bod yn cynnig addysg bersonol, mewn dosbarthiadau bychain, lle cewch ddod i adnabod y staff a’ch cyd-fyfyrwyr.
- Caiff rhai opsiynau eu dysgu trwy gyfrwng y Ffrangeg/Almaeneg/Sbaeneg, ac eraill drwy gyfrwng y Saesneg.
- Mae gan raddedigion Ieithoedd Modern ÑÇÖÞÉ«°É hanes da iawn o gael gwaith.
- Mae strwythurau’r graddau’n hyblyg. Cewch newid eich gradd ar ddiwedd blwyddyn 1 os dymunwch.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Ar y radd Ieithoedd Modern (gyda Blwyddyn Sylfaen), bydd gennych 3-4 awr o ddosbarthiadau iaith bob wythnos ym mhob un o'ch ieithoedd dewisol. Mae’r addysg mewn grwpiau bychain ar y cyfan, ac ychydig o ddarlithoedd ffurfiol sydd. Mae'r asesu’n cynnwys gwaith cwrs ac arholiadau ysgrifenedig a llafar. Byddwch hefyd yn gwneud traethawd hir yn rhan o’ch gradd.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ieithoedd Modern (gyda Blwyddyn Sylfaen) BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Ieithoedd Modern
- Canolfan Iaith lle gallwch weithio ar eich sgiliau iaith.
- Ystafelloedd adnoddau iaith-benodol lle gallwch gael gafael ar ddeunyddiau i hybu eich sgiliau iaith a'ch gwybodaeth ddiwylliannol.
- Llyfrgell DVD Ieithoedd Modern sy'n cynnwys cannoedd o ffilmiau iaith dramor y gallwch eu benthyg am ddim.
- Mannau astudio pwrpasol.
- Llyfrgell ffilmiau.
- Cefnogaeth bwrpasol i’r flwyddyn dramor.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 88 o bwyntiau tariff o gymhwyster Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Derbynnir Diplomâu a Thystysgrifau BTECÂ
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Derbynnir Diploma Estynedig Uwch City & Guilds
- Derbyniwn Fagloriaeth Cymru
- Scottish Highers
- Derbyniwn yr Irish Leaving Certificate
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n. Ystyrir myfyrwyr aeddfed a/neu'r rhai gyda chymwysterau eraill yn unigol.Â
*I weld rhestr lawn o’r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.comÂ
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 96 o bwyntiau tariff o gymhwyster Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Derbynnir Diplomâu a Thystysgrifau BTECÂ
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Derbynnir Diploma Estynedig Uwch City & Guilds
- Derbyniwn Fagloriaeth Cymru
- Scottish Highers
- Derbyniwn yr Irish Leaving Certificate
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n. Ystyrir myfyrwyr aeddfed a/neu'r rhai gyda chymwysterau eraill yn unigol.Â
*I weld rhestr lawn o’r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.comÂ
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae astudio Ieithoedd Modern yn agor y drws i amrywiaeth eang o yrfaoedd. Wrth reswm aeth llawer o raddedigion Ieithoedd Modern ÑÇÖÞÉ«°É ymlaen i fod yn athrawon ac yn gyfieithwyr, ond mae’r un nifer wedi dilyn gyrfaoedd llwyddiannus yn y gwasanaeth sifil, busnes a masnach, diwydiant a’r cyfryngau.
Mae’r byd i gyd yn dod i’r gweithle bellach ac mae cyflogwyr o bob sector o’r economi yn rhoi gwerth mawr ar y sgiliau a ddysgwch wrth astudio ieithoedd - ymwybyddiaeth ddiwylliannol, cyfathrebu, cywirdeb, cynllunio a dadansoddi rhesymegol.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.