Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r Saesneg yn iaith bwysig yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn economaidd. Mae’n iaith fyd-eang, ac mae 1.5 biliwn o siaradwyr ledled y byd, ac mae galw mawr am bobl sy'n gymwys i ddysgu Saesneg yn rhyngwladol. Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu am ieithyddiaeth, gan ganolbwyntio ar y Saesneg. Yn eich blwyddyn olaf byddwch yn dilyn modiwlau sy'n ymwneud yn benodol â Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL), i’ch rhoi ar y llwybr i gymhwyso fel athro Saesneg.
Ar y cwrs Iaith Saesneg ar gyfer Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor hwn byddwch yn cael dysgu, deall a dehongli nifer o agweddau ar iaith ddynol. Cewch gyfle i archwilio'r ffyrdd y mae gallu ieithyddol pobl yn datblygu, sut mae ein hiaith yn newid yn ôl cyd-destun ei defnydd a phwy sy'n siarad, sut mae iaith yn cael ei threfnu a'i phrosesu yn yr ymennydd, sut mae iaith yn cael ei dysgu a sut mae'n cael ei dysgu. Byddwch yn edrych ar y ffordd y newidiodd Saesneg dros y canrifoedd, ystyried beth fydd yn digwydd i’r iaith yn y dyfodol, cymharu defnydd y Saesneg mewn gwahanol rannau o'r byd, ac ystyried agweddau ymarferol pwysig ar y Saesneg fel y cannoedd o filiynau o bobl ledled y byd sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol neu iaith dramor.
Byddwch yn dysgu am ieithyddiaeth a sut y gellir astudio iaith yn gyffredinol, a byddwch yn cael cyfle i gymharu Saesneg ag ieithoedd eraill, yn enwedig yng nghyd-destun cymdeithasau amlieithog lle nad Saesneg yw'r unig iaith a ddefnyddir.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Rydym yn adran fywiog, hygyrch a chyfeillgar ac mae’r staff Ìýwedi ymrwymo i addysgu o ansawdd uchel, profiad rhagorol i fyfyrwyr, cefnogaeth fugeiliol gref, ac integreiddio ymchwil a phynciau blaengar cyfredol yn eich darlithoedd trwy gydol eich astudiaethau. ÌýRydym hefyd yn ymroddedig i sicrhau bod y myfyrwyr Iaith Saesneg TEFL yn datblygu sgiliau rhagorol o ran meddwl yn feirniadol, dadansoddi data, cyflwyno ac ymchwil annibynnol i wella eu cyflogadwyedd ar ôl graddio.
- Mae’r staff addysgu’n ymchwilwyr gweithgar mewn amryw o feysydd damcaniaethol a chymhwysol sy'n ymwneud ag Ieithyddiaeth, Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Iaith Saesneg - mae gan lawer enw da’n rhyngwladol yn y maes.
- Cewch sylfaen gref a dealltwriaeth wyddonol o strwythur a defnydd iaith, cewch gyflwyniad cynhwysfawr i feysydd addysgeg TEFL a methodoleg, arferion addysgu gorau Caffael Ail Iaith (SLA) a'r cyfle i gymhwyso'ch hyfforddiant mewn dosbarth TEFL go iawn gyda gweithgaredd asesu cynlluniau gwersi.Ìý
- Mae gennym gyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf gan gynnwys stiwdio sain / recordio o safon broffesiynol (ein labordy Lleferydd), labordy tracio llygaid, a labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) a chyfleuster adnoddau ieithyddiaeth gorpws. Mae gennym hefyd offer sain a fideo at waith maes. Mae’r cyfleusterau hefyd yn cynnwys casgliad helaeth o lyfrau ar Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg a llyfrgell iaith a gynhelir gan gymdeithas y myfyrwyr israddedig - Cymdeithas Ieithyddiaeth ÑÇÖÞÉ«°É (BLS).
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Gwyliwch - Sophie James
Cynnwys y Cwrs
Caiff y cwrs hwn ei ddysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a/neu seminarau, yn dibynnu ar y modiwl a’r lefel. Byddwch yn dewis 120 credyd o fodiwlau’n ymwneud ag Iaith Saesneg bob blwyddyn a byddwch yn dechrau trwy ddysgu'r wybodaeth sylfaenol sy'n angenrheidiol i astudio yn y maes hwn yn y gwahanol is-ddisgyblaethau (blwyddyn 1), ac yn symud ymlaen i astudiaeth lefel ganolradd fwy manwl (blwyddyn 2) cyn dewis pa feysydd i arbenigo ynddynt (blwyddyn 3). Asesir modiwlau ar sail gwahanol fathau o waith cwrs, yn cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau llafar, profion, arholiadau, dadansoddiad data, ac ati. Byddwch yn ysgrifennu traethawd hir yn eich blwyddyn olaf, sef project ymchwil gwreiddiol dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd sy’n weithgar ym maes ymchwil.Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Iaith Saesneg ar gyfer Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Mae gennym gyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf gan gynnwys stiwdio sain / recordio o safon broffesiynol (ein labordy Lleferydd), labordy tracio llygaid, a labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) a chyfleuster adnoddau ieithyddiaeth corpws. Mae gennym hefyd offer sain a fideo at waith maes.
- Mae’r cyfleusterau hefyd yn cynnwys casgliad helaeth o lyfrau am Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg a llyfrgell iaith a gynhelir gan ein cymdeithas myfyrwyr israddedig - Cymdeithas Ieithyddiaeth ÑÇÖÞÉ«°É (BLS).
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith Saesneg
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gradd H5 mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith SaesnegÌý yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol;
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae'r rhan fwyaf o feysydd yn elwa o gael arbenigwyr iaith ar eu tîm. Mae'n debyg y bydd gan raddedigion y cwrs hwn ddiddordeb mewn dilyn gyrfa mewn addysgu neu yrfa sy'n gysylltiedig ag addysg. Er hynny, bydd gennych y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i weithio mewn meysydd fel y cyfryngau, cyfieithu, dehongli, cyhoeddi, dysgu, gwasanaeth sifil, therapi lleferydd, gwaith cymunedol (e.e. yn gysylltiedig â pholisi iaith ac ymgysylltu), ac ati. Mewn rhai achosion bydd angen hyfforddiant a chymwysterau pellach yn ychwanegol at yr hyn y mae'r cwrs hwn yn ei ddarparu. Mae gyrfa mewn ymchwil iaith hefyd yn opsiwn, ac astudiaethau ôl-radd hefyd.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwnÌý'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Iaith Saesneg a Llenyddiaeth SaesnegÌý(gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý