Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Byddwch yn dysgu am ymddygiad, o fabandod hyd henaint, ac yn ymdrin â'r ffactorau biolegol, cymdeithasol ac unigol sy'n effeithio ar seicoleg ddynol a defnydd iaith.Ìý
Bydd astudio ieithyddiaeth yn eich galluogi i ddysgu, deall a dehongli nifer o agweddau ar iaith ddynol. Ym Mangor, byddwch yn astudio 'gwyddor' iaith, gan gynnwys y synau posibl a ddefnyddir mewn lleferydd a'u cyfuniadau (ffoneteg, ffonoleg), sut mae geiriau'n cael eu hadeiladu (morffoleg), beth sy'n gwahaniaethu brawddegau oddi wrth resi o eiriau (cystrawen), ystyr (semanteg a phragmateg), effaith cymdeithas, diwylliant a normau ar ddefnydd iaith (sosioieithyddiaeth) a sut mae ieithoedd yn newid dros amser.Ìý
Ieithyddiaeth yw astudio sut mae iaith yn gweithio a sut a pham caiff iaith ei defnyddio. Mae ieithyddion yn edrych ar sut mae pobl yn dysgu, deall a siarad iaith, a hefyd ar y gwahanol ffyrdd y mae gwahanol bobl yn defnyddio iaith. Mae gan ieithyddiaeth elfen ddamcaniaethol a hefyd elfen gymhwysol - fel technoleg iaith, polisi iaith ac iaith mewn addysg. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddysgu am y ffyrdd y mae ieithoedd yn wahanol neu'n debyg o ran eu gramadeg, sut mae cymdeithas ac iaith yn mynd law yn llaw, a'r swyddogaethau a'r statws sydd gan wahanol ieithoedd ledled y byd.
Astudiaeth wyddonol yw seicoleg o sut mae pobl yn ymddwyn, yn teimlo, yn meddwl ac yn dysgu. Fel gwyddor ac fel proffesiwn, mae seicoleg yn gwneud gwahaniaeth i bobl yn y byd go iawn, trwy wella ansawdd bywyd mewn amrywiaeth eang o feysydd.
Drwy astudio Seicoleg, byddwch yn astudio'r meddwl ac ymddygiad, a byddwch yn dysgu sut i ddisgrifio ac egluro sut mae pobl yn byw, meddwl, cymdeithasu a datblygu. Cewch gyfle i ddysgu am bethau fel: y ffactorau sy'n llywodraethu ymddygiad seicolegol dynol, sut mae ein hamgylchedd yn dylanwadu ar ein meddwl a'n teimladau, sut mae meddwl plant yn datblygu ac yn newid wrth iddynt dyfu, ac am ddulliau ymchwil a datblygiadau ym maes seicoleg.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Mae’r staff addysgu yn ymchwilwyr allweddol sydd ag arbenigeddau mewn meysydd megis dwyieithrwydd, caffael iaith mewn plant ac anhwylderau iaith.
- Cewch ddealltwriaeth gadarn a gwyddonol o ymddygiad bodau dynol ac o strwythur a defnydd iaith, ei hanes, a’r berthynas rhwng iaith a chymdeithas.
- Rydym yn adran fywiog, hygyrch a chyfeillgar ac mae’r staff wedi ymrwymo i addysgu o ansawdd uchel, i gynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr, cefnogaeth fugeiliol gref, ac i gyfuno ymchwil a phynciau blaengar cyfredol yn eich darlithoedd trwy gydol eich astudiaethau. Rydym hefyd yn ymroddedig i sicrhau bod ein myfyrwyr Ieithyddiaeth a Seicoleg yn datblygu sgiliau rhagorol mewn meddwl yn feirniadol, dadansoddi data, cyflwyno ac ymchwil annibynnol i wella eu cyflogadwyedd ar ôl graddio.
- Mae ein staff addysgu yn ymchwilwyr gweithgar mewn amryw o feysydd damcaniaethol a chymhwysol sy'n ymwneud ag Ieithyddiaeth, yr Iaith Saesneg a Seicoleg - mae gan lawer enw da’n rhyngwladol yn y maes.
- Mae gennym gyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf gan gynnwys stiwdio sain / recordio o safon broffesiynol (ein labordy Lleferydd), labordy tracio llygaid, a labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) a chyfleuster adnoddau ieithyddiaeth corpws. Mae gennym hefyd offer sain a fideo at waith maes. Mae’r cyfleusterau hefyd yn cynnwys casgliad helaeth o lyfrau am Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg a llyfrgell iaith dan ofal cymdeithas y myfyrwyr israddedig - Cymdeithas Ieithyddiaeth ÑÇÖÞÉ«°É.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Caiff y cwrs hwn ei ddysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a/neu seminarau, yn dibynnu ar y modiwl a'r lefel. Byddwch yn dewis 120 credyd o fodiwlau’n ymwneud ag Ieithyddiaeth a/neu Seicoleg pob blwyddyn a byddwch yn dechrau trwy ddysgu'r wybodaeth sylfaenol sy'n angenrheidiol i astudio yn y maes hwn yn y gwahanol is-ddisgyblaethau, ac yn symud ymlaen i astudiaeth lefel ganolradd fwy manwl cyn dewis pa feysydd i arbenigo ynddynt. Asesir modiwlau ar sail amrywiol fathau o waith cwrs, yn cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau llafar, profion, arholiadau, dadansoddiad data, ac ati. Byddwch yn ysgrifennu traethawd hir yn eich blwyddyn olaf, sef project ymchwil dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd.Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ieithyddiaeth a Seicoleg BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Ieithyddiaeth
- Mae gennym gyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf gan gynnwys stiwdio sain / recordio o safon broffesiynol (ein labordy Lleferydd), labordy tracio llygaid, a labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) a chyfleuster adnoddau ieithyddiaeth corpws. Mae gennym hefyd offer sain a fideo at waith maes.
- Mae’r cyfleusterau hefyd yn cynnwys casgliad helaeth o lyfrau am Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg a llyfrgell iaith a gynhelir gan gymdeithas y myfyrwyr israddedig - Cymdeithas Ieithyddiaeth ÑÇÖÞÉ«°É (BLS).
Ìý
Ìý
Cyfleusterau Seicoleg
Drwy gydol eich gradd bydd modd i chi ddefnyddio’r cyfleusterau hyn i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil, a byddwch yn defnyddio rhai o'r cyfleusterau hyn fel ymchwilwyr yn ystod eich prosiect yn y drydedd flwyddyn. 
Mae gan yr Ysgol Seicoleg ei Sganiwr Delweddu Cyseiniant Magnetig (MRI) Philips Elition 3T.MRI/fMRI ei hun ar gyfer ymchwil pwrpasol. Gosodwyd ein sganiwr ymchwil-bwrpasol newydd yn haf 2019 yn y prif adeilad seicoleg. Mae'r sganiwr hwn yn cynnig techneg delweddu MR arloesol ac yn cynnwys technoleg tracio llygaid sy'n gydnaws ag MRI ac yn gallu gwneud recordiadau EEG y tu mewn i’r sganiwr. Gerllaw mae sganiwr ffug i gefnogi astudiaethau hyfforddi a gweithio gyda phlant. Mae gan y sganiwr hefyd gyfarpar delweddu cardiaidd 4D, cyfarpar delweddu trylediad tensor, a sbectrosgopeg cyseiniant magnetig. Enghraifft o sut y gallwch ddefnyddio'r sganiwr, ar wahân i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, yw y bu myfyrwyr israddedig yn eu trydedd flwyddyn sy'n gwneud eu prosiect yn labordy Dr Koldewyn yn rhan o astudiaethau sy'n cynnwys ymateb yr ymennydd i ryngweithio cymdeithasol a arsylwyd, gan gynnwys casglu data a dadansoddi data datblygiadol gan blant oed cynradd.
Mae arbenigedd mewn dulliau electroffisiolegol (EEG/ERP) yn gryfder arbennig yn yr Ysgol. Mae Labordy Electroenceffalograffi a Thopograffi Mynediad Agored yr Ysgol Seicoleg (Y Labordy POET) yn cynnwys bwth profi gwanhäwr sain wedi'i gysgodi'n llawn, System BioSemi EEG 128 sianel, a'r holl offer sy'n angenrheidiol ar gyfer arbrofion EEG/ERP clywedol a gweledol, gyda thechnoleg tracio llygaid cydamserol o bell. Ar wahân i gyfleoedd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, mae myfyrwyr israddedig yn eu trydedd flwyddyn wedi cael cyfle i fod â rhan weithredol yn y labordy EEG/ERP ar gyfer eu prosiect.Ìý
ÌýÌý
Ar hyn o bryd, defnyddir y labordy POET i ymchwilio i ystod amrywiol o bynciau fel:Ìý
- dysgu peirianyddol i ragfynegi dilyniannau echddygol o weithgarwch EEG
- datblygiad cymdeithasol a hunan-ganfyddiad mewn babanod
- datblygu dadansoddiadau o dreialon EEG unigol i gymharu prosesu iaith mewn grwpiau nodweddiadol a grwpiau sydd â heriau datblygiadol.
Mae gan Labordy Ysgogi’r Ymennydd ddau fath gwahanol o offer ysgogi - offer ysgogi trawsgreuanol magnetig (TMS), ac offer ysgogi cerrynt uniongyrchol trawsgreuanol (tDCS). Mae ysgogiad trawsgreuanol magnetig yn dechneg anymwthiol sy’n defnyddio meysydd magnetig cryf i darfu am gyfnod byr ar brosesu celloedd nerfol mewn rhan fechan o arwyneb yr ymennydd. Caiff cerrynt trydanol ei yrru am gyfnod byr iawn drwy’r ddyfais ysgogi - coil o wifrau copr (wedi'u hamgáu mewn plastig) a ddelir ar groen y pen. Mae’r cerrynt hwn yn creu maes magnetig o gwmpas y coil sydd, yn ei dro, yn creu cerrynt trydanol yn y celloedd nerfol ar arwyneb yr ymennydd. Pan fo’r celloedd nerfol yn cael eu hysgogi, ac am ryw ddegfed ran o eiliad wedyn, ni allant gyflawni eu swyddogaethau arferol. Nid yw hyn yn achosi unrhyw niwed nac anaf i’r celloedd nerfol.
Gelwir yr ail fath o ysgogiad yn ysgogiad cerrynt uniongyrchol trawsgreuanol (tDCS), ac fel yr ysgogiad trawsgreuanol magnetig, mae'n anymwthiol ac yn ddi-boen. Mae'n defnyddio ceryntau trydanol dwysedd isel i gyffroi neu atal gweithgarwch niwronau mewn rhannau penodol o'r ymennydd. Mae'r ddwy system hyn wedi eu rhyngwynebu mewn arbrofion gydag offer ar gyfer tracio llygaid, electromyograffeg (EMG), electroenceffalograffi (EEG), ac ar gyfer recordio cinematig.
Mae’r Ysgol Seicoleg yn gartref i nifer o labordai ar gyfer dal symudiadau cymhleth yr holl gorff a’i aelodau ar gyfer ymchwil. Ymhlith yr offer a ddefnyddir i wneud hyn mae System dal symudiadau Polhemus (16-sianel). Mae’r labordai yn ein galluogi i astudio gweithredoedd medrus gyda chryn fanwl gywirdeb gofodol-amserol.
Mae rhai enghreifftiau diweddar o weithgarwch yn y labordai hyn yn cynnwys yr Athro Robert Ward yn ymchwilio i sut mae arsylwyr yn dirnad gwybodaeth am symudiad y corff, ac i ba raddau mae'r wybodaeth hon yn ddibynadwy neu'n dwyllodrus. Mae’r Dr. Koldewyn wedi defnyddio'r systemau i gofnodi patrymau chwilio yn ystod tasg chwilio gorfforol a ddyluniwyd i archwilio pa mor gyflym mae plant yn dysgu lle mae gwrthrych targed yn debygol o fod, a sut mae arsylwi eraill yn dylanwadu ar y dysgu hwnnw. Roedd myfyrwyr a oedd yn gwneud eu project trydedd flwyddyn yn ymwneud â dylunio'r astudiaeth ac â chasglu data gan blant oed cynradd.
Ìý
Cyfleusterau dan arweiniad ymchwilwyr. Yn ogystal â chyfleusterau mynediad agored i’w rhannu, mae gan yr ysgol gyfleusterau arbenigol iawn yn neilltuol ar gyfer academyddion penodol, megis:Ìý
- sawl labordy EEG pwrpasol yn ychwanegol at ein cyfleuster mynediad agoredÌý
- dau labordy gwrthsain ar gyfer astudiaethau clywedol
- systemau adborth gorfodol rhithrealiti a realiti estynedig a reolir yn robotig
- dyfeisiau symudol ar gyfer tracio llygaid a symudiadau beiro ar gyfer astudio datblygiad llythrennedd mewn ysgolion ac yn y labordy
- labordy bwyd a seicoffarmacoleg yn cynnwys caledwedd a meddalwedd ar gyfer peiriant dosbarthu bwyd arbenigol
- ystafelloedd dadansoddi fideo ar gyfer ffitrwydd cardio-anadlol plant a sgiliau symud sylfaenol
- Bysellfwrdd Ìýtrawsddygiadur grym sy'n gydnaws ag MRI (10-sianel) i recordio gwasgiadau bysedd y ddwy law yn barhaus gan gynnwys symudiadau paratoadol ac adlewyrcholÌý
- Labordy Doppler Sonograffeg Trawsgreuanol ble gellir mesur llif y gwaed i bob hanner o'r ymennydd
Mae'r Ysgol yn rhannu trwyddedau’r Brifysgol a’r Coleg ar gyfer llwyfannau Qualtrics a Pavlovia i hwyluso ymchwil ar-lein.Ìý
Mae sawl panel cyfranogwyr ar gael i helpu ymchwilwyr yn yr Ysgol Seicoleg i recriwtio cyfranogwyr. Fel myfyriwr seicoleg byddwch yn cymryd rhan yn y panel myfyrwyr (SONA) ac mae ein myfyrwyr i gyd yn cymryd rhan mewn tua 4000 awr o ymchwil yn gyffredinol bob blwyddyn.
Rydym hefyd yn cynnal paneli cyfranogwyr arbenigol a allai fod yn rhan o'ch prosiect trydedd flwyddyn:
- Panel cleifion niwrolegol, mewn cydweithrediad â'r GIG.
- Panel anhwylderau dysgu: yn canolbwyntio ar ddyslecsia (mewn cydweithrediad â Chanolfan Dyslecsia Miles yr Ysgol) ac yn cynnwys anhwylderau dysgu eraill ymhlith oedolion sy'n cymryd rhan
- Panel Cyfranogwyr Cymunedol: sy'n ddefnyddiol ar gyfer adnabod siaradwyr dwyieithog, pobl â dyslecsia, yr henoed, ac yn enwedig ar gyfer recriwtio rheolyddion cyfatebol ar gyfer astudiaethau achos cleifion, ac ar gyfer darparu cronfa o gyfranogwyr dwyieithog Cymraeg/Saesneg
- Cronfa Ddata Babanod/Plant
Mae ymchwilwyr seicoleg sy'n astudio datblygiad plant yn elwa o berthynas agos â Meithrinfa TÃr na nÓg ÑÇÖÞÉ«°É. Mae'r feithrinfa'n darparu adnodd unigryw i ymchwilwyr yn y grwpiau ymchwil Clinigol, Iechyd, Ymddygiad ac Iaith, Dwyieithrwydd, ac Ymchwil Datblygu Gwybyddol. Mae gan TÃr na nÓg gyfleusterau arbennig, fel lolfa arsylwi a chamerâu fideo. Yn unol â chydsyniad rhieni neu warcheidwaid y plant, gellir arsylwi’r plant i gael dealltwriaeth bellach o iaith, dysgu a datblygiad.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìýun pwnc gwyddonolÌý(e.e. Mathemateg, Bioleg, Bioleg Ddynol, Ffiseg, Cemeg, Ystadegaeth, Seicoleg, Gwyddoniaeth) yn ddelfrydol ond nid yn hanfodol . Fel rheol, ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.Ìý
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gradd H5 mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith Saesneg a gradd H5 mewnÌýpwnc gwyddonolÌýyn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìýun pwnc gwyddonolÌý(e.e. Mathemateg, Bioleg, Bioleg Ddynol, Ffiseg, Cemeg, Ystadegaeth, Seicoleg, Gwyddoniaeth) yn ddelfrydol ond nid yn hanfodol . Fel rheol, ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.Ìý
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gradd H5 mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith Saesneg a gradd H5 mewnÌýpwnc gwyddonolÌýyn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae gradd mewn Ieithyddiaeth a Seicoleg yn darparu gwybodaeth ac arbenigedd yn y pynciau hynny. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig y mae cyflogwyr amrywiol yn eu gwerthfawrogi. Mae'r rhain yn cynnwys darllen yn feirniadol a gwerthuso, ymchwil a sgiliau dadansoddi, sgiliau rheoli project, hyfedredd mewn dulliau cyflwyno amrywiol (ysgrifenedig, electronig a llafar), sgiliau datrys problemau, profiad o weithio'n annibynnol, rheoli amser a phrofiad o waith tîm, sgiliau technoleg gwybodaeth, a'r cyfle i ddatblygu cyfathrebu rhyngbersonol effeithiol.
Mae graddedigion Ieithyddiaeth a Seicoleg yn ennill sgiliau amrywiol sy'n berthnasol i amryw o alwedigaethau, megis y cyfryngau, addysg, hysbysebu, rheoli, llywodraeth, ymchwil, iechyd, cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, cyhoeddi, y gwasanaeth sifil, therapi lleferydd, gwaith cymunedol (e.e., sy’n gysylltiedig i bolisi ac ymgysylltiad iaith), ac yn y blaen. Mewn rhai achosion bydd angen hyfforddiant a chymwysterau pellach yn ychwanegol at yr hyn y mae'r cwrs yn ei ddarparu. Mae gyrfa ymchwil hefyd yn bosibilrwydd, ac astudiaethau ôl-radd hefyd.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwnÌý‘gyda Blwyddyn Sylfaen’ ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý