Ynglŷn â’r Cwrs Yma
 Ar y cwrs Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg hwn cewch ddysgu am, deall a dehongli nifer o agweddau ar iaith ddynol. Bydd ein modiwlau cyflwyniadol ac uwch yn rhoi cefndir sylfaenol cadarn ichi ynghyd â golwg wyddonol bwysig ar natur, strwythur a defnydd iaith, yn ogystal ag ar hanes Saesneg a sosioieithyddiaeth (y berthynas rhwng iaith a chymdeithas). Cewch eich cyflwyno hefyd i'r offer a'r dulliau a fydd yn caniatáu ichi gynnal eich ymchwiliadau eich hun i'r Saesneg yn ogystal ag i ieithoedd eraill a siaredir ledled y byd. Â
Bydd cydran iaith Saesneg y radd hon yn rhoi’r cyfle i chi ddysgu am strwythur gramadegol y Saesneg (e.e., sut y caiff geiriau a brawddegau eu ffurfio), sut y caiff ystyr ei gwneud, ei dehongli a'i hymestyn dros ddisgyrsiau cyfan, sut y caiff seiniau eu ffurfio, eu cynhyrchu a'u deall, a sut mae defnydd iaith yn amrywio ymhlith siaradwyr a grwpiau ac yn newid dros amser. Byddwch hefyd yn archwilio hanes y Saesneg, datblygiad ac ymddangosiad tafodieithoedd Saesneg a’r mathau amrywiol o Saesneg a siaredir ledled y byd, sut mae'r Saesneg yn cael ei defnyddio mewn cymdeithas (e.e., sut mae newidynnau cymdeithasol-ddiwylliannol yn llunio'r defnydd o'r Saesneg) a lle’r Saesneg mewn cymdeithas, mewn addysg ac fel lingua franca fyd-eang.
Bydd cydran ieithyddiaeth y radd hon yn eich galluogi i ddysgu am, deall a dehongli nifer o agweddau ar iaith ddynol. Byddwch yn astudio 'gwyddor' iaith, gan gynnwys y synau posibl a ddefnyddir mewn lleferydd a'u cyfuniadau (ffoneteg, ffonoleg), sut mae geiriau'n cael eu hadeiladu (morffoleg), beth sy'n gwahaniaethu brawddegau oddi wrth resi o eiriau (cystrawen), ystyr (semanteg a phragmateg), effaith cymdeithas, diwylliant a normau ar ddefnydd iaith (sosioieithyddiaeth) a sut mae ieithoedd yn newid dros amser.
Mae cyfuno'r ddau bwnc yn eich galluogi i archwilio sut mae gallu ieithyddol yn datblygu, tra byddwch hefyd yn caffael gwybodaeth a gallu o ran sut y caiff Saesneg ei defnyddio.Â
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Ieithyddiaeth: Ymysg y 10 uchaf am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2019, 2020 & 2021).
- Rydym yn adran fywiog, hygyrch a chyfeillgar ac mae’r staff wedi ymrwymo i addysgu o ansawdd uchel, i gynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr, cefnogaeth fugeiliol gref, ac i gyfuno ymchwil a phynciau blaengar cyfredol yn eich darlithoedd trwy gydol eich astudiaethau. Rydym hefyd yn ymroddedig i sicrhau bod ein myfyrwyr Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg yn datblygu sgiliau rhagorol mewn meddwl yn feirniadol, dadansoddi data, cyflwyno ac ymchwil annibynnol i wella eu cyflogadwyedd ar ôl graddio.
- Mae’r staff addysgu’n ymchwilwyr gweithgar mewn amryw o feysydd damcaniaethol a chymhwysol sy'n ymwneud ag Ieithyddiaeth â'r Iaith Saesneg - mae gan lawer enw da’n rhyngwladol yn y maes.
- Cewch ddealltwriaeth gadarn a gwyddonol o strwythur a defnydd iaith, ei hanes, a’r berthynas rhwng iaith a chymdeithas.
- Mae gennym gyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf gan gynnwys stiwdio sain / recordio o safon broffesiynol (ein labordy Lleferydd), labordy tracio llygaid, a labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) a chyfleuster adnoddau ieithyddiaeth corpws. Mae gennym hefyd offer sain a fideo at waith maes. Mae’r cyfleusterau hefyd yn cynnwys casgliad helaeth o lyfrau am Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg a llyfrgell iaith dan ofal cymdeithas y myfyrwyr israddedig - Cymdeithas Ieithyddiaeth ÑÇÖÞÉ«°É.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Caiff y cwrs hwn ei ddysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a/neu seminarau, yn dibynnu ar y modiwl a'r lefel. Byddwch yn dewis 120 credyd o fodiwlau’n ymwneud ag Ieithyddiaeth a/neu Iaith Saesneg pob blwyddyn a byddwch yn dechrau trwy ddysgu'r wybodaeth sylfaenol sy'n angenrheidiol i astudio yn y maes hwn yn y gwahanol is-ddisgyblaethau, ac yn symud ymlaen i astudiaeth lefel ganolradd fwy manwl cyn dewis pa feysydd i arbenigo ynddynt. Asesir modiwlau ar sail amrywiol fathau o waith cwrs, yn cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau llafar, profion, arholiadau, dadansoddiad data, ac ati. Byddwch yn ysgrifennu traethawd hir yn eich blwyddyn olaf, sef project ymchwil gwreiddiol, dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd sy’n weithgar ym maes ymchwil.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Mae gennym Labordy Ieithyddiaeth lle gall ymchwilwyr gasglu data iaith mewn bwth gwrthsain a defnyddio meddalwedd sain o'r radd flaenaf.
- Mae gan Gymdeithas Ieithyddiaeth ÑÇÖÞÉ«°É ei hystafell a'i llyfrgell gyffredin ei hun, sy'n llawn adnoddau i fyfyrwyr Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg eu defnyddio.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128Â pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Â Llenyddiaeth Saesneg/Iaith Saesneg/Saesneg yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol;Â Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Â ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith Saesneg
- Access:Â Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128Â pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Â Llenyddiaeth Saesneg/Iaith Saesneg/Saesneg yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol;Â Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Â ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith Saesneg
- Access:Â Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae gradd mewn Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg yn darparu gwybodaeth ac arbenigedd yn y pynciau hynny. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig y mae cyflogwyr amrywiol yn eu gwerthfawrogi. Mae'r rhain yn cynnwys darllen yn feirniadol a gwerthuso, ymchwil a sgiliau dadansoddi, sgiliau rheoli project, hyfedredd mewn dulliau cyflwyno amrywiol (ysgrifenedig, electronig a llafar), sgiliau datrys problemau, profiad o weithio'n annibynnol, rheoli amser a phrofiad o waith tîm, sgiliau technoleg gwybodaeth, a'r cyfle i ddatblygu cyfathrebu rhyngbersonol effeithiol.
Mae graddedigion Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg yn ennill sgiliau amrywiol sy'n berthnasol i amryw o alwedigaethau, megis y cyfryngau, addysg, hysbysebu, rheoli, llywodraeth, ymchwil, iechyd, cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, cyhoeddi, y gwasanaeth sifil, therapi lleferydd, gwaith cymunedol (e.e., sy’n ymwneud â pholisi ac ymgysylltiad iaith), ac yn y blaen. Mewn rhai achosion bydd angen hyfforddiant a chymwysterau pellach yn ychwanegol at yr hyn y mae'r cwrs yn ei ddarparu. Mae gyrfa ymchwil hefyd yn bosibilrwydd, ac astudiaethau ôl-radd hefyd.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’ ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg (gyda Blwyddyn Sylfaen).Â
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Â