Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae gradd Y Cyfryngau, Ffilm A Newyddiaduraeth gyda Blwyddyn Sylfaen yn cynnig llwybr amgen i astudio ar lefel israddedig, os nad oes gennych y cymwysterau angenrheidiol er enghraifft, neu os na allwch fodloni'r gofynion mynediad i ddechrau cwrs gradd dair blynedd safonol.Â
Mae’r flwyddyn sylfaen ychwanegol yn eich helpu i baratoi'n well at astudio ar lefel gradd, gan roi blas ar ddysgu ar lefel uwch. Ar ôl cwblhau'r flwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn ymuno â blwyddyn 1 y rhaglen BSc (Anrh) Y Cyfryngau, Ffilm A Newyddiaduraeth.
Yn ystod y flwyddyn sylfaen hon, byddwch yn datblygu sgiliau academaidd a sgiliau technoleg gwybodaeth hanfodol, megis ysgrifennu, cyfathrebu, cyflwyno a sut i ddefnyddio adnoddau digidol i gefnogi eich astudiaethau a'ch aseiniadau ymchwil. Yr un mor bwysig, byddwch yn dysgu sut i gydweithio ag eraill
Mae'r radd hon yn y Cyfryngau, Ffilm a Newyddiaduraeth wedi'i hanelu at fyfyrwyr sydd eisiau astudio a dilyn gyrfaoedd ym meysydd ffilm, teledu, radio, y cyfryngau digidol, hysbysebu, newyddiaduraeth a chysylltiadau cyhoeddus. Mewn oes lle mae dybryd angen am drafodaeth wybodus ynghylch y grymoedd gwleidyddol, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol sy'n llunio ein byd, bydd y radd hon yn eich paratoi i gymryd rhan yn y sgwrs honno.
Pam Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É?
- Cewch fanteisio ar arbenigedd ein staff ym meysydd ffilm, y cyfryngau a newyddiaduraeth brint a newyddiaduraeth ddarlledu, ynghyd â chynhyrchu, gan gynnwys rhaglenni dogfen a darlledu.
- Manteisiwch ar ein cyfleusterau sy'n cynnwys ystafelloedd golygu, stiwdios cynhyrchu ac offer cyfryngau digidol o safon diwydiant.Â
- Cysylltiadau ardderchog gyda'r sector gan gynnwys mynediad i stiwdios ffilm gweithredol.
- Cyfle i wneud project blwyddyn olaf mewn cydweithrediad â chwmni.
- Dewch i ddysgu am ddramâu, ffilmiau, cerddoriaeth a mwy yn Pontio, Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi’r Brifysgol.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae’r cwrs BA (Anrh) Y Cyfryngau, Ffilm A Newyddiaduraeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn gwrs pedair blynedd gyda blwyddyn sylfaen integredig sy'n arwain at yr un cymhwyster â'n gradd anrhydedd dair blynedd.
Gan roi blwyddyn ychwanegol i chi addasu a dod i arfer â bywyd prifysgol, nod y flwyddyn sylfaen yw rhoi’r sgiliau academaidd a’r sgiliau astudio i chi lwyddo ar lefel gradd. Cewch flas ar wahanol ddulliau dysgu’r brifysgol, gan gynnwys seminarau a thiwtorialau.
Bydd y berthynas rhwng y cyfryngau, newyddiadurwyr, gwleidyddion a chymdeithas yn cael ei harchwilio er mwyn ateb cwestiynau heriol. Edrychir ar lif gwybodaeth ac adweithiau emosiynol ochr yn ochr â hanes y cyfryngau modern.Â
Mae'r radd hon yn y Cyfryngau, Ffilm a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn canolbwyntio cymaint ar y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn edrych ar esblygiad technoleg y cyfryngau a chyfathrebu a'r effaith ar gymdeithas, gan edrych yn agosach ar sut mae sianeli newydd megis TikTok wedi newid y ffordd yr ydym defnyddio’r cyfryngau. Mae cyfleoedd i edrych yn agosach ar foeseg deallusrwydd artiffisial, i asesu technolegau a'u heffaith ar gymdeithas fodern.
Cyfleusterau
- Gwasanaeth benthyciadau helaeth ar gyfer offer fel cyfarpar recordio digidol, camerâu fideo, camerâu lluniau llonydd a mwy.
- Stiwdio radio â chyfarpar proffesiynol.
- Ystafelloedd golygu sain gydag Adobe Audition.
- Ystafelloedd golygu fideo digidol gyda Final Cut Pro a Final Cut Express ar gyfrifiaduron Apple Mac.
- Awditoria.
- Pontio, canolfan y celfyddydau ac arloesi, Â sy'n cynnwys sinema 200 sedd gyda system sain amgylchynol Dolby.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 88 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefelau A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Diplomâu a Thystysgrifau BTECÂ
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diploma Estynedig Uwch City & GuildsÂ
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Scottish Higher
- Derbynnir yr Irish Leaving Certificate
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu'r rheini â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Gall astudio Y Cyfryngau, Ffilm A Newyddiaduraeth ym Mangor fod yn fan cychwyn i yrfa wych yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol.
Gall astudio’r BA hwn yn y Cyfryngau, Ffilm a Newyddiaduraeth agor ystod o yrfaoedd yn gweithio ym myd teledu, cyhoeddi newyddion, darlledu, asiantaethau’r cyfryngau, awdurdodau lleol ac adrannau cysylltiadau cyhoeddus i enwi dim ond rhai.
Un o brif fanteision y radd ar y cyd hon, fodd bynnag, yw ei bod hefyd yn rhoi i chi sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr y gellir eu haddasu i amrywiaeth eang o swyddi gweinyddol a swyddi rheoli ac arwain. Ymysg y sgiliau hynny mae meddwl yn feirniadol a chreadigol, cyfathrebu, dehongli a gwneud ymchwil.Â
Mae rolau nodweddiadol yn cynnwys;
- Newyddiadurwr
- Darlledwr
- Golygydd
- Gohebydd
- Cynhyrchydd Cynorthwyol
- Awdur
- Swyddog y Wasg
- Cyfarwyddwr Technegol
- Cynhyrchydd Cyfryngau
- Ymchwilydd Cyfryngau
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.