Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r cwrs hwn yn cyfuno’r cyfryngau a drama ac mae’n rhoi pwyslais cryf ar ymarfer. Gyda'r cyfle i astudio cynhyrchu clywedol a gweledol, newyddiaduraeth argraffu, y cyfryngau digidol, ac ymarfer y cyfryngau, byddwch yn datblygu sgiliau a thechnegau allweddol ar gyfer cynhyrchu a beirniadu deunydd clyweledol. Mae’r elfennau o’r cwrs sy’n canolbwyntio ar ddrama’n cynnwys ystod eang o ymarfer, gan gynnwys ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, cyfarwyddo, dyfeisio, dysgu am fusnes y celfyddydau, datblygu sgiliau actio a pherfformio’n unigol ac mewn grŵp. Mae'r cwrs hwn yn darparu sylfaen gadarn yn y sgiliau damcaniaethol, technegol ac ymarferol fydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol y dyfodol.
Bydd y cwrs Drama a’r Cyfryngau ym Mangor yn rhoi cyfle i chi gyfuno gwahanol agweddau damcaniaethol y ddisgyblaeth gyda chyfleoedd i greu cynyrchiadau a darnau perfformio gwreiddiol fel unigolyn ac fel aelod o grŵp neu ensemble. Bydd ein harbenigwyr profiadol yn eich annog i fynegi eich hun i'r eithaf yn ogystal â rhoi sylfaen gadarn i chi yn agweddau ymarferol a damcaniaethol y ddisgyblaeth gan gynnwys perfformio, cyfarwyddo, cynhyrchu, ysgrifennu a dyfeisio.
Cynhelir amrywiaeth o gynadleddau, fideo-gynadledda a digwyddiadau'r diwydiannau creadigol ym Mangor. Ceir ymweliadau rheolaidd gan awduron creadigol, gwneuthurwyr ffilmiau, newyddiadurwyr, dylunwyr, dramodwyr, gwneuthurwyr cyfryngau newydd a mwy, ac mae hyn yn annog myfyrwyr i ymgysylltu’n eang â'u diddordebau creadigol y tu allan i waith cwrs ffurfiol.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs hwn?
- Cyfleusterau rhagorol, gan gynnwys canolfan sydd â’r holl offer priodol gydag ystafelloedd golygu, yr offer diweddaraf ar gyfer gwneud ffilmiau digidol 4K, a Chanolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio ar gyfer cynhyrchu theatr ac ymarfer sinematig.
- Rydym yn arbenigo mewn sawl maes allweddol: ysgrifennu proffesiynol, cyfarwyddo, ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, newyddiaduraeth, y cyfryngau a chyfathrebu digidol, ymarfer creadigol a’r cyfryngau, actio ac astudiaethau ffilm.
- Rhyddid creadigol y cwrs - cyfle i lunio’ch cwrs i adlewyrchu eich diddordebau a'ch cryfderau.
- Cymuned glos â chefnogol - amgylcheddau addysgu cynhwysol a gofal bugeiliol rhagorol.
- Cysylltiadau rhagorol gyda’r diwydiant a’r gymuned.
Ìý
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:Ìýderbynnir
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:Ìýderbynnir
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý