Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ar y radd BA Daearyddiaeth hon byddwch yn dechrau gyda sylfaen ddaearyddol eang sy'n eich cyflwyno i ddaearyddiaethÌýgymdeithasol, ffisegol ac amgylcheddol. Byddwch yn myndÌýrhagoch i ddatblygu dealltwriaeth o heriau byd-eang allweddol, megis Ymfudo Gorfodol oherwydd yr Hinsawdd, Tlodi Bwyd, Geowleidyddiaeth a Llywodraethu, a’r gallu i’w dadansoddi.Ìý Mae ein modiwlau yn ymdrin â phopeth oÌýglobaleiddioÌýaÌýneoryddfrydiaethÌýi gymunedau cynaliadwy a daearyddiaethÌýfwyd.Ìý
Byddwn yn eich cyflwyno i amryw o ddulliau ymchwil a sgiliau TG,Ìýsystemau gwybodaeth ddaearyddol, ac ystadegol. Byddwch yn datblygu sgiliau proffesiynol a throsglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn gwneud eich ymchwil eich hun o dan arweiniad y staff, gan ganiatáu ichi arddangos y galluoedd a ddatblygwyd gennych yn ystod eich astudiaethau.ÌýÌýMae gwaith maes yn rhan annatod o'r radd hon, a bydd llawer o gyfle i fynd allan a dysgu sgiliau gwerthfawrÌýyng Ngogledd Cymru a’r cyffiniau, ochr yn ochr â theithiau preswyl yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Gallwch astudio dramor neu gymryd rhan yn ein blwyddyn lleoliad (naill ai gwaith neu astudio) gyda'n gradd rhyngosod.
Mae'r radd hon wedi ei hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG). Mae graddau achrededig yn cynnwysÌýsylfaen academaidd gadarn mewn gwybodaeth a sgiliau daearyddol ac yn eich paratoi i fynd i'r afael ag anghenion y byd y tu hwnt i addysg uwch.ÌýÌýÌý
BA neu BSc?ÌýAr y ddwy radd hon gallwch ddewis o'r un ystodÌýo fodiwlau. Os ydych yn dewis BA (L700) efallai y byddwch yn dewis mwy o fodiwlau daearyddiaeth ddynol, ond gallwch barhau i ddewis modiwlau daearyddiaeth ffisegol sy'n rhoi'r hyblygrwydd i chi ddilyn eich diddordeb yn nwy ochr y ddisgyblaeth.Ìý
MGeog?ÌýGallwch hefyd drosi i'r MGeog ar ddiwedd Blwyddyn 2, ar yr amod bod marc cyfartalog eich blwyddyn yn uwch na 55%.Ìý
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Mae'r cyflwynydd teledu Steve Backshall bellach yn rhan o'n tîm addysgu.
- Teithiau maes sy’n manteisio ar ein lleoliad unigryw ar arfordir trawiadol y gogledd, nid nepell o Afon Menai, a mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri.Ìý
- Cysylltiadau cryf â sefydliadau: Comisiwn Coedwigaeth, Natural England, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru, Canolfan Ecoleg a Hydroleg, Dŵr Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae rhai yn cyfrannu at yr addysgu ac yn darparu lleoliadau.Ìý
- Mae gennym Ystafell Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Cewch eich dysgu mewn amrywiol ffyrdd gan gynnwys darlithoedd aÌýgwaithÌýlabordy a dosbarthiadau maes a seminarau a thiwtorialau mewn grwpiau bach. Mae'rÌýseminarau'n gyfle i chi drafod a dadansoddi deunyddiau, syniadau a chysyniadau newydd gyda myfyrwyr eraill a'ch tiwtor. Caiff sesiynau tiwtorial mewn grwpiau bach eu llunio i ddatblygu sgiliau astudio neu ddatrys problemau, a rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau, codi materion neu archwilio'r hyn sy'n cael ei ddysgu yn y darlithoedd. Cewch fynediad at ein hamgylchedd dysgu rhithwir, sy'n cynnwys adnoddau dysgu, dogfennau cwrs a recordiadau o ddarlithoedd (os ydynt ar gael) ar gyfer eich modiwlau. Mae eich astudiaethau hefyd yn cynnwys cryn dipyn o astudio annibynnol.ÌýÌýÌý
Byddwch yn astudio 120 credyd mewn blwyddyn. Mae'r radd hon wedi ei llunio o nifer o fodiwlau, rhai yn orfodol, ac eraill yn ddewisol. Byddwch yn cael eich asesu mewn cyfuniad o ffyrdd: gwaith cwrs; traethodau; cyflwyniadau; adroddiadau; prosiectau/traethodau hir; arholiadau; aÌýthasgau ymarferol. Gall rhai asesiadau gynnwys gwaith grŵp. Yn gyffredinol, rhennir dulliau asesuÌýar gyfer modiwlau yn 60/40 ar gyfer gwaith cwrs ac arholiadau.ÌýÌýÌý
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2ÌýÌý
Mae'r flwyddyn gyntaf yn canolbwyntio ar wybodaeth a sgiliau allweddol, gan adeiladu ar eich Safon Uwch mewnÌýDaearyddiaeth. Gall myfyrwyr drosglwyddo rhwng cyrsiau BA a BSc ar ddiwedd y flwyddyn os ydynt yn dymuno.ÌýÌýÌý
Bydd yr ail flwyddyn yn rhoi gwybodaeth fwy trylwyr i chi yn y pwnc, ynÌýeich cyflwyno i dechnegau arbenigol a sgiliau gwaith maes, ac yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich ymchwil eich hun. Gallwch hefyd drosi i'r MGeog ar ddiwedd Blwyddyn 2, ar yr amod bod marc cyfartalog eich blwyddyn yn uwch na 55%.ÌýÌý
Blwyddyn 3ÌýÌý
Yn eich blwyddyn olaf gallwch ddewis o blith ystod oÌýfodiwlau a fydd yn eich galluogi i arbenigoÌýmewnÌýmeysydd sydd o ddiddordeb ichi. Byddwch yn gwneud eich ymchwil eich hun (ysgrifennu traethawd hir) o dan arweiniad y staff, gan ganiatáu ichi arddangos y galluoedd a ddatblygwyd gennych yn ystod eich astudiaethau.Ìý
Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau maes uwch a hyfforddiant ar ein cwrs maes dewisol iÌýTenerife.Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Daearyddiaeth BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Defnyddir ein labordai biolegol, cemegolÌýac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o addysgu a dysgu.ÌýMae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys: labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.ÌýÌý
Mae ein prif gyfleuster gwaith maes yn Henfaes, Abergwyngregyn, tua saith milltir oÌýFangor, ac mae’n cynnwys 252 o hectarau. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil acÌýaddysgu ym maes amaethyddiaeth yr iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth.ÌýÌý
Mae gennym ni hefydÌýGardd Fotaneg TreborthÌýsy’nÌýcwmpasu 18 hectar o dir ar lannau'r Fenai.Ìý Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (yÌýrhizotron), labordy addysgu,Ìýgwlâu ffurfiol ar gyfer planhigion, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth. Ìý
Cyfleusterau Gwyddorau Naturiol
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.Ìý
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar. Ìý
- Gardd Fotaneg Treborth, sy'n 18 hectar o faint ar lannau’r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy dysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.Ìý
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.Ìý
- Mae fferm y brifysgol sydd wedi ei lleoli yn Henfaes, tua 7 milltir o Fangor ac yn cynnwys cyfanswm o 252 hectar. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.Ìý
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.Ìý
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.Ìý
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig. Ìý
- Ystafelloedd a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.Ìý
- Ystafelloedd trychfilod.Ìý
- °ä´Ç±ð³Ù¾±°ù´Ç±ð»å»å.Ìý
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan bwrpasol i fyfyrwyr weithio ar eu traethawd hir.Ìý
- Cyfleusterau delweddu.Ìý
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.Ìý
- Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wlad.ÌýÌý
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.Ìý
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â llawer wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciau.Ìý Ìý
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Gradd C/4 mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu GymraegÌýos nad yw'n cael ei brofi gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: (gan gynnwys gradd C neu uwch mewn Daearyddiaeth A2). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.Ìý
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (yn cynnwys gradd H5 neu uwch mewn Daearyddiaeth ar y Lefel Uwch)
- Mynediad: Cwrs Gwyddoniaeth neu'r Amgylchedd/Ymwneud â'r Tir neu'r Dyniaethau (angen gradd teilyngdod yn yr elfen Ddaearyddiaeth).
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTECÌýmewn Rheolaeth Cefn Gwlad neu Gwyddoniaeth Gymhwysol**: MMM -DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Sgiliau Labordy**: MMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080): MMM-DDM mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad Coedwigaeth, Cefn Gwlad a'r Amgylchedd, Coedwigaeth aÌý Choedyddiaeth)**
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
TGAU: Gradd C/4 mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu GymraegÌýos nad yw'n cael ei brofi gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: (gan gynnwys gradd C neu uwch mewn Daearyddiaeth A2). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.Ìý
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (yn cynnwys gradd H5 neu uwch mewn Daearyddiaeth ar y Lefel Uwch)
- Mynediad: Cwrs Gwyddoniaeth neu'r Amgylchedd/Ymwneud â'r Tir neu'r Dyniaethau (angen gradd teilyngdod yn yr elfen Ddaearyddiaeth).
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTECÌýmewn Rheolaeth Cefn Gwlad neu Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Sgiliau Labordy**: DMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080): DMM - DDM mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad Coedwigaeth, Cefn Gwlad a'r Amgylchedd, Coedwigaeth aÌý Choedyddiaeth)**
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae ein graddedigion ynÌýhynod gyflogadwyÌýac mae galw mawr amdanynt oherwydd eu sgiliau y mae eu dirfawr angen fel rheoli prosiect, gwaith tîm a chyfathrebu,Ìýyn ogystal â'r wybodaeth bwnc rydych chi'n eiÌýdatblygu yn ystod eich astudiaethau. Byddwch yn graddio gyda gradd uchel ei pharch sy'n arwain at amrywiaeth eang o ragolygon gyrfa. Mae ein graddedigion wedi'u recriwtio gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys: Adnoddau Naturiol Cymru,ÌýNetworkÌýRail, DHL, cyfadran Amddiffyn a GofodÌýAirbus, Y Grid Cenedlaethol, Yr Arolwg Ordnans, Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, llywodraeth leolÌýacÌýymgynghoriaethauÌýamgylcheddol annibynnol. Mae gradd Daearyddiaeth hefyd yn rhoi sylfaen ar gyfer astudiaeth ôl-raddÌýbellach ac ymchwil. Gallech hefyd wella'ch cyflogadwyedd trwy gofrestru ar gyfer Gwobr Cyflogadwyedd ÑÇÖÞÉ«°É wrth astudio yma.Ìý
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Gwyddor yr Amgylchedd (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý