Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y cwrs Peirianneg (gyda Blwyddyn Sylfaen) hwn yn eich paratoi ar gyfer gwaith fel peiriannydd proffesiynol blaengar yn y diwydiant uwch-dechnoleg mewn swyddi technegol a rheoli. Yn ystod y radd, byddwch yn ennill profiad ymarferol helaeth i sicrhau eich bod yn datblygu sgiliau ymarferol cadarn yn ogystal â gwybodaeth ddamcaniaethol drylwyr.
Mae'r rhaglen BSc Peirianneg (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn cyfuno blwyddyn sylfaen gyda Gradd Anrhydedd tair blynedd i greu rhaglen gyfun pedair blynedd. Mae’r rhaglen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc gwyddonol yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio ar lefel gradd. Mae’r rhaglen Blwyddyn Sylfaen yn ddelfrydol ar gyfer ymgeiswyr nad ydyn nhw'n cyflawni gofynion mynediad gradd tair blynedd yn llawn neu a fyddai'n elwa o astudio pwnc gwyddonol am flwyddyn arall.
Bydd cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus yn golygu y cewch symud ymlaen i Flwyddyn 1 y rhaglen BSc Peirianneg.
Fel myfyriwr ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, cewch eich dysgu gan staff ymroddedig a brwdfrydig a bydd gennych fynediad at gyfleusterau a rhwydwaith cymorth myfyrwyr helaeth y Brifysgol.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Cewch eich dysgu gan staff sy'n beirianwyr profiadol ac sy'n cynnal cysylltiadau â diwydiant i sicrhau bod cyrsiau'n adlewyrchu datblygiadau diweddar.
- Rydym yn cynnig cyfle i chi dreulio blwyddyn yn gweithio mewn diwydiant rhwng yr ail a'r drydedd flwyddyn. Yn aml, cynhelir projectau unigol mewn cydweithrediad â chwmni penodol - gan roi manteision i chi pan fyddwch yn chwilio am swydd.
- Rydym yn gymuned fywiog gyda labordai â chyfarpar da, cyfrifiaduron wedi'u rhwydweithio gan ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant a'n llyfrgell ein hunain.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Watch - Studying Electronic Engineering
Cynnwys y Cwrs
Trwy gydol eich gradd Peirianneg Electronig (gyda Blwyddyn Sylfaen) byddwch yn astudio ystod o fodiwlau ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o wahanol weithgareddau dysgu, a all gynnwys darlithoedd, sesiynu tiwtorial, ac ymaarferion labordy. Yn ogystal, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau trwy gwblhau amrywiaeth eang o asesiadau.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae elfen blwyddyn sylfaen y rhaglen wedi ei chynllunio i'ch paratoi at astudio ar lefel gradd.  Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau academaidd a'ch gwybodaeth bwnc-benodol, cyn symud ymlaen i flwyddyn 1 y rhaglen.  Byddwch yn cwblhau modiwlau sy'n canolbwyntio ar dechnoleg gwybodaeth a sgiliau cyfathrebu, mathemateg hanfodol ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau trwy ymgymryd â phroject ymchwil pwnc-benodol. Yn ogystal, byddwch yn cwblhau modiwlau ar Fathemateg Bellach a Ffiseg Hanfodol.
Nod Blwyddyn 1 a 2 y rhaglen yw cydgrynhoi a dyfnhau eich gwybodaeth ac ehangu'ch sylfaen sgiliau. Nod y drydedd flwyddyn yw datblygu ymhellach eich dealltwriaeth feirniadol o'r pwnc a gwella'ch cyflogadwyedd ymhellach.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Peirianneg (gyda Blwyddyn Sylfaen) BEng (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Peirianneg
- Labordai cyfrifiadurol mawr gyda'r holl feddalwedd ddiweddaraf.Â
- Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu labordy technolegau trochi, lle mae'r dyfeisiau diweddaraf yn cael eu defnyddio at waith project ac ymchwil.
- Rydym wedi sefydlu labordy rhwydweithio mawr yn ddiweddar. Mae'r cyfleusterau wedi eu cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau ac i gefnogi’r gwaith o gyflwyno modiwlau am saernïaeth cyfrifiaduron.Â
- Mae gennym labordy addysgu israddedig enfawr lle byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol i gadarnhau'r wybodaeth rydych wedi ei dysgu yn eich darlithoedd.  Mae’n llawn o offer sydd o safon diwydiant.
- Mae gennym ystafell lân 1000 y bydd ein holl fyfyrwyr israddedig yn ei defnyddio yn ystod eu hastudiaethau.  Bydd hyn yn rhoi hyfforddiant unigryw i chi mewn protocolau ystafell lân sy'n brofiad defnyddiol iawn wrth chwilio am swydd ar ôl graddio.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 88 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefelau A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Derbynnir Diplomâu a Thystysgrifau BTEC a Diplomâu / Tystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diploma Estynedig Uwch City & Guilds: Â
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Scottish Higher
- Derbynnir Tystysgrif Gadael Ysgol Iwerddon
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu'r rheini â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.
YMGEISWYR RHYNGWLADOL:
Ar hyn o bryd ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol ar gyfer y cwrs hwn.
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, rydym yn argymell eich bod yn astudio’r radd hon drwy ein Coleg Rhyngwladol. Mae llwyddo i gwblhau Blwyddyn 0 y rhaglen Ryngwladol gyfwerth yn gwarantu mynediad i Flwyddyn 1 o'r un rhaglen radd drwy Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Trwy'r llwybr hwn, cyflwynir Blwyddyn 0 yng Ngholeg Rhyngwladol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É (BUIC) a leolir yng nghanol Campws ein Prifysgol ac sy'n cael ei redeg gan ein partner, Grŵp Addysg Rhyngwladol Rhydychen.
I wybod mwy ewch i www.bangor.ac.uk/buic/
Gofynion mynediad cyffredinol y Brifysgol ar gyfer ymgeiswyr cartref/o’r UE
I astudio ar gwrs gradd, gofynnir am isafswm o bwyntiau tariff UCAS gennych. I gael esboniad llawnach o Bwyntiau Tariff UCAS, gweler www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr ag ystod eang o gymwysterau a chefndiroedd, ac rydym yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae angen sgiliau sylfaenol da ar bob myfyriwr ac mae'r Brifysgol hefyd yn rhoi gwerth ar fedrau TG a chyfathrebu.
Yn rhan o bolisi’r Brifysgol rydym yn ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl ar yr un sail â’r holl fyfyrwyr eraill.
Rydym hefyd yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n a all ddangos bod ganddynt yr ysgogiad a'r ymroddiad i astudio rhaglen mewn prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr aeddfed. I wybod mwy am astudio fel myfyriwr aeddfed, gweler ein hadran Astudio ym Mangor ar y wefan. Â
Gofynion mynediad myfyrwyr o’r UE
I gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau manwl ynglŷn â gofynion mynediad ar gyfer myfyrwyr o’r UE, gan gynnwys y gofyniad mynediad isaf o ran gallu yn Saesneg, edrychwch ar y tudalennau Gofynion Mynediad yn ôl Gwlad.
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefelau A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Derbynnir Diplomâu a Thystysgrifau BTEC a Diplomâu / Tystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diploma Estynedig Uwch City & Guilds: Â
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Scottish Higher
- Derbynnir Tystysgrif Gadael Ysgol Iwerddon
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu'r rheini â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.
YMGEISWYR RHYNGWLADOL:
Ar hyn o bryd ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol ar gyfer y cwrs hwn.
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, rydym yn argymell eich bod yn astudio’r radd hon drwy ein Coleg Rhyngwladol. Mae llwyddo i gwblhau Blwyddyn 0 y rhaglen Ryngwladol gyfwerth yn gwarantu mynediad i Flwyddyn 1 o'r un rhaglen radd drwy Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Trwy'r llwybr hwn, cyflwynir Blwyddyn 0 yng Ngholeg Rhyngwladol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É (BUIC) a leolir yng nghanol Campws ein Prifysgol ac sy'n cael ei redeg gan ein partner, Grŵp Addysg Rhyngwladol Rhydychen.
I wybod mwy ewch i www.bangor.ac.uk/buic/
Gofynion mynediad cyffredinol y Brifysgol ar gyfer ymgeiswyr cartref/o’r UE
I astudio ar gwrs gradd, gofynnir am isafswm o bwyntiau tariff UCAS gennych. I gael esboniad llawnach o Bwyntiau Tariff UCAS, gweler www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr ag ystod eang o gymwysterau a chefndiroedd, ac rydym yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae angen sgiliau sylfaenol da ar bob myfyriwr ac mae'r Brifysgol hefyd yn rhoi gwerth ar fedrau TG a chyfathrebu.
Yn rhan o bolisi’r Brifysgol rydym yn ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl ar yr un sail â’r holl fyfyrwyr eraill.
Rydym hefyd yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n a all ddangos bod ganddynt yr ysgogiad a'r ymroddiad i astudio rhaglen mewn prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr aeddfed. I wybod mwy am astudio fel myfyriwr aeddfed, gweler ein hadran Astudio ym Mangor ar y wefan. Â
Gofynion mynediad myfyrwyr o’r UE
I gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau manwl ynglŷn â gofynion mynediad ar gyfer myfyrwyr o’r UE, gan gynnwys y gofyniad mynediad isaf o ran gallu yn Saesneg, edrychwch ar y tudalennau Gofynion Mynediad yn ôl Gwlad.
Gyrfaoedd
Mae gan raddedigion mewn Peirianneg ragolygon gyrfa rhagorol. Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, mae llawer yn cael swyddi peirianneg electronig mewn busnesau bach neu fawr, neu yng nghyfleusterau ymchwil a datblygu'r llywodraeth neu rai preifat. Fodd bynnag, mae natur datrys problemau a thrin rhifau ein cyrsiau gradd peirianneg yn golygu bod graddedigion yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr mewn llawer o broffesiynau eraill, yn amrywio o swyddi rheoli cyffredinol i weithio fel dadansoddwyr rhifiadol. Mae astudiaeth ôl-radd yn ddewis cyffrous arall i rai.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.